Mae'r adroddiad hwn yn adolygu llenyddiaeth ryngwladol ac yn cyflwyno cyfweliadau ansoddol i asesu ymarferoldeb treth incwm leol yn lle'r dreth gyngor yng Nghymru.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Llenyddiaeth ryngwladol ar dreth incwm leol
Byddai treth incwm a weinyddir yn lleol i Gymru yn system unigryw. Y rheswm am hyn yw nad oes enghraifft ryngwladol o drethiant lleol â’r un trefniadau lleol â Chymru.
Yr heriau o weithredu treth incwm leol yng Nghymru
Cyflwynir sawl her nad oes atebion iddynt ar hyn o bryd.
Un her allweddol fyddai penderfynu sut i ddiffinio'r gallu i dalu. Byddai angen newidiadau sylweddol i'r ddarpariaeth bresennol a’r sgiliau presennol mewn awdurdodau lleol o ran sawl agwedd ar weithredu treth incwm leol. Felly, mae'n allweddol bod Awdurdodau Lleol yn rhan o'r broses gynllunio.
Manteision i dreth incwm leol
Un fantais allweddol, o bosibl, yw’r gallu i ymgorffori'r gallu i dalu wrth gynllunio’r dreth gyngor. Cyflawnir hyn i ryw raddau drwy'r cynlluniau adweithiol presennol o ran disgowntiau, esemptiadau a gostyngiadau, ond dim ond ar gyfer y rhai sydd ar y cyflogau isaf.
