Bydd Llywodraeth Cymru yn diwygio'r system sy'n rheoleiddio diogelwch tân mewn adeiladau uchel.
Bydd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, yn ystyried deddfwriaeth newydd a fydd yn disodli'r Gorchymyn Diogelwch Tân presennol ac yn edrych ar broses newydd ar gyfer rheoli adeiladu.
Fel rhan o ymateb y Llywodraeth i waith y Grŵp Arbenigol ar Ddiogelwch Adeiladau, a sefydlwyd i ddarparu 'map' ar gyfer gwella diogelwch tân mewn adeiladau uchel, wedi i'r Fonesig Judith Hackitt gynnal adolygiad annibynnol yn sgil trychineb Tŵr Grenfell.
Dywedodd Julie James:
“Er bod adroddiad Hackitt yn awgrymu bod pob adeilad sy'n uwch na 30 o fetrau yn ddarostyngedig i system reoleiddio newydd, rwy'n credu bod y sefyllfa yn wahanol yma yng Nghymru, lle nad oes cymaint â hynny adeiladau sy'n uwch na 30 o fetrau. Rwy'n bendant na fydd y trothwy yn uwch na 18 o fetrau. Byddwn hefyd yn ystyried a fyddai'r system newydd yn ymarferol berthnasol i fathau eraill o adeiladau risg uwch, megis y rhai lle y mae pobl sy'n agored i niwed yn cysgu ynddynt.
“Mae gennym hanes da a chryf o weithio i wella diogelwch tân mewn cartrefi; Cymru oedd y wlad gyntaf i'w gwneud yn ofynnol cael chwistrellwyr mewn cartrefi newydd a chartrefi wedi eu haddasu, ac ers datganoli'r cyfrifoldeb dros dân yn 2005, mae nifer yr achosion o dannau mewn anheddau wedi gostwng yn gynt ac o fwy yng Nghymru nag yn unrhywle arall yn y DU.
Mae argymhellion y Grŵp Arbenigol ar Ddiogelwch Adeiladau yn ymateb mewn ffordd ystyrlon a phragmataidd i faterion diogelwch preswylwyr. Rydym yn bwrw ymlaen â gwaith yn y maes hwn ar fyrder. Mae angen dadansoddiad dyfnach ac o bosib deddfwriaeth newydd, mewn perthynas â sawl mater a byddaf yn gwneud cyhoeddiad pendant yn yr hydref o ran yr adeiladau sydd o fewn cwmpas trefniadau newydd.
“Dyma ddiolch i'r grŵp am eu hamser ac am roi ystyriaeth fanwl i ystod eang o faterion dyrys. Ni fyddwn yn cyfaddawdu ar gyflwyno hyn yn effeithiol er mwyn cael ateb cyflym, sydd yn methu â chreu amgylchedd mwy diogel i breswylwyr.