Neidio i'r prif gynnwy

Bydd pob plentyn yn cael y cyfle i fanteisio ar addysg gerddoriaeth fel rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol, a fydd yn helpu i sicrhau nad yw un plentyn ar ei golled oherwydd diffyg arian.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd pob plentyn yn cael y cyfle i fanteisio ar addysg gerddoriaeth fel rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol, a fydd yn helpu i sicrhau nad yw un plentyn ar ei golled oherwydd diffyg arian.

Wrth i’r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Gerddorol yng Nghymru gael ei gyhoeddi, mae’r Gweinidog Addysg wedi cadarnhau y caiff cyllid ei dreblu, gan fuddsoddi £13.5m dros y tair blynedd nesaf.

Bydd y cynllun yn sicrhau bod mynediad at addysg gerddoriaeth yn decach ac yn fwy cyson ledled Cymru, gyda ffocws penodol ar ddysgwyr o gartrefi incwm isel a’r rheini ag anghenion dysgu ychwanegol. Bydd cefnogaeth ar gael i blant a phobl ifanc fanteisio ar wersi cerddoriaeth a gwella eu sgiliau, ac i ddysgwyr o gefndir difreintiedig a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gael ymuno ag ensembles cerddoriaeth.

Mae’r cynllun yn cynnwys nifer o raglenni gwaith allweddol, megis:

  • Adolygiad o delerau ac amodau tiwtoriaid cerddoriaeth, i sicrhau eu bod yn cael eu trin yn deg a’u cydnabod yn briodol.
  • Rhaglen ‘Profiadau Cyntaf’ i gynnig o leiaf hanner tymor o sesiynau blasu gydag offerynnau cerdd i blant cynradd, dan arweinyddiaeth ymarferwyr medrus sydd wedi’u hyfforddi.
  • Menter ‘Creu Cerddoriaeth Gydag Eraill’, gan gynnwys cyfleoedd i blant a phobl ifanc ysgolion uwchradd i gael profiad yn y diwydiant drwy weithio ochr yn ochr â cherddorion a diwydiannau creadigol.
  • Cronfa genedlaethol newydd o offerynnau a chyfarpar er mwyn rhannu’r adnoddau hyn ledled Cymru.

Caiff y rhaglenni hyn eu rhoi ar waith o fis Medi 2022, gan gefnogi ysgolion a lleoliadau i roi’r cyfle i bob plentyn a pherson ifanc o 3 i 16 oed i ddysgu chwarae offeryn yn ogystal â chanu a chreu cerddoriaeth yn ein hysgolion a’n cymunedau.

Bydd y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol yn gweithredu fel canolbwynt, a bydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cydlynu rhaglenni’r Gwasanaeth gydag amrywiaeth eang o sefydliadau. Bydd yn helpu ysgolion a lleoliadau i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru a darparu cyfleoedd mwy amrywiol i blant a phobl ifanc i gael profiad o gerddoriaeth y tu allan i ysgolion a lleoliadau.

Ymwelodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, a Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, ag Ysgol Gynradd Eglwys Gadeiriol San Joseff yn Abertawe i weld clwstwr o blant cynradd yn cymryd rhan mewn sesiwn gydchwarae dan arweiniad Gwasanaeth Cerddoriaeth Abertawe. 

Dywedodd y Prif Weinidog:

Mae sefydlu Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol yng Nghymru yn ymrwymiad pwysig yn ein Rhaglen Lywodraethu, a dw i wrth fy modd ein bod ni’n cyflawni’r addewid hwn.

Roedd dysgu chwarae offeryn yn elfen ffurfiannol yn fy magwraeth i, a ddylai diffyg arian ddim bod yn rhwystr i unrhyw berson ifanc sydd am ddysgu chwarae cerddoriaeth. Rydyn ni’n ffodus yng Nghymru bod gyda ni draddodiad cryf o ensembles ar lefel ysgol, sir a chenedlaethol, ac rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod ein plant a’n pobl ifanc yn gallu chwarae rhan lawn yn y rhain. Bydd y cyllid hwn yn cefnogi gwasanaethau cerddoriaeth mewn ysgolion ac o fewn y gymuned i feithrin ein doniau cerddorol ifanc.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

Ein gweledigaeth yw y bydd pob plentyn a pherson ifanc ledled Cymru, beth bynnag ei gefndir, yn cael y cyfle i ddysgu chwarae offeryn.

Dw i’n cofio mor bwysig oedd gallu cael gwersi cerddoriaeth pan oeddwn i yn yr ysgol, dysgu’r bariton a chwarae mewn ensembles pres. Dw i am wneud yn siŵr bod pawb yn cael y cyfle i gael gwersi cerddoriaeth, yn rhy aml y dyddiau hyn, mae’r cyfle i ddysgu offeryn a datblygu sgiliau cerddorol yn cael ei gyfyngu gan gost a ph’un a yw rhieni yn gallu ei fforddio. Felly rydyn ni’n gwneud y buddsoddiad sylweddol hwn i ddarparu amrywiol weithgareddau i’n plant a’n pobl ifanc, fel y cân nhw ddysgu am y llawenydd sy’n dod o gerddoriaeth a chael profiad ohono.

Bydd datblygu’r Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol yn sicrhau ein bod ni’n meithrin ein cenhedlaeth nesaf ac yn parhau i greu talent newydd yng Nghymru y gallwn ei arddangos gerbron y byd.

Dywedodd Prif Weithredwr CLlLC, Chris Llewelyn:

Mae cael gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu’r gwasanaeth hollbwysig hwn i blant ledled Cymru yn destun balchder inni. Mae llawer o deuluoedd yng Nghymru yn methu â fforddio offeryn cerdd, a bydd y cyllid hwn yn mynd ffordd bell i agor drysau i blant ledled Cymru, gan roi’r cyfle iddyn nhw ddysgu chwarae offeryn.

Mae chwarae offeryn a darllen cerddoriaeth yn sgil bwysig iawn i blentyn, ac mae cerddoriaeth yn dod â llawenydd aruthrol iddyn nhw. Mae awdurdodau lleol yn dweud y bydd hyn yn ei gwneud yn haws i blant ledled Cymru gael gafael ar offerynnau, ac y bydd y cynllun hwn yn datblygu llawer o gerddorion talentog i’r dyfodol, ac yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau cerddorol.