Neidio i'r prif gynnwy

Rhaid i ffermwyr ddilyn y rheolau hyn os ydyn nhw'n gwneud cais am daliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol 2020.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym am gadw trwch y rheolau Trawsgydymffurfio fel ag yr oedden nhw yn 2019, ond rydym wedi diweddaru Taflenni Ffeithiau canlynol 2020 a'r adrannau perthnasol yn y Safonau Dilysadwy er mwyn nodi newidiadau yn y gofynion a’r arferion gorau ac i wella'r geiriad.

  • SMR 2: adar gwyllt. Rydym wedi diweddaru'r dolenni i ganllaw CNC ar drwyddedau cyffredinol a phenodol. Newidiadau i'r rhestr adar yn y drwydded gyffredinol.
  • SMR 6: adnabod a chofrestru moch. Rhaid cadw'r cofnodion am 3 blynedd bellach ar ôl rhoi'r gorau i gadw moch. Newidiadau i wella’s geiriad mewn ambell fan i wneud yr ystyr yn gliriach.
  • SMR 8: adnabod defaid a geifr. Mae'r gofynion o ran cadw cofnodion wedi'u diweddaru.  Rhaid nawr cofnodi manylion adnabod llawn yr anifail pan gaiff ei symud hyd yn oed os nad yw'n gadael tir y perchennog. Esbonnir yn fanylach beth yw ystyr 'daliad arall' yng nghyd-destun symud anifeiliaid.
  • SMR 9: atal, rheoli a dileu Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (TSE). Mae newidiadau wedi'u gwneud i ehangu ystyr proteinau wedi'u gwahardd/o dan gyfyngiadau. Mae B1 wedi'i ddiweddaru er mwyn cywiro manylion cysylltu ac i wella'r testun i ddweud bod yn rhaid cael hyd i bob anifail/cynnyrch allai fod wedi'i heintio, gan gynnwys unrhyw gysylltiadau, a'i ddifa /difetha. Rydym wedi gwella'r geiriad mewn mannau eraill.
  • GAEC 4: pridd a stoc garbon. Sicrhau lefel ofynnol o orchudd ar y pridd. Mae newidiadau wedi'u gwneud i grisialu'r diffiniad o orchudd pridd ac i ehangu'r gofynion i gynnwys tir pori wedi'i aredig.
  • GAEC 6: pridd a deunydd organig – eu diogelu. Rydym wedi gwella'r geiriad. 

Dogfennau