Neidio i'r prif gynnwy

Y Rhagair

Rwyf am wneud Cymru yn wlad sy’n saffach nag unrhyw le arall i fod yn fenyw. Rydym wedi cyflawni llawer yng Nghymru drwy flaenoriaethu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a thrwy gydweithio ac arloesi fel yn achos Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. O’r Ddeddf hon y mae’r ddyletswydd i lunio’r strategaeth dan sylw yn deillio. Fodd bynnag, mae mwy i’w wneud er mwyn cyflawni ein huchelgais, ac felly rhaid i’n dull gweithredu adeiladu ar y llwyddiannau a welwyd eisoes, a rhaid inni ddod o hyd i ffyrdd newydd o ysgogi a chydlynu ein gweithgarwch.

Mae angen edrych o’r newydd ar sut rydym yn ymdrin â’r cwestiwn hwn oherwydd, fel rydym wedi gweld dros y blynyddoedd diwethaf, mae menywod yn dal i gael eu llofruddio a’u cam-drin gan ddynion treisgar. I rai, mae eu cartref yn dal i fod yn lle brawychus, a hynny oherwydd ymddygiad pobl y dylent allu ymddiried ynddynt, ond sydd yn hytrach yn camddefnyddio’r pŵer sydd ganddynt. Mae rhywioldeb a hunaniaeth menywod a merched yn dal i gael eu rheoli gan ymdeimlad afresymol o anrhydedd neu ddymuniad i gamfanteisio. 

Cawsom ein dychryn gan lofruddiaethau Sarah Everard a Sabina Nessa gan ddieithriaid, ond mae llawer mwy o fenywod yn cael eu lladd bob blwyddyn gan ddynion treisgar y maent yn eu hadnabod, ac mae miloedd yn fwy yn dioddef trais a rheolaeth sy'n dinistrio eu bywydau a'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt. Er mwyn newid pethau, mae’n rhaid inni fynd i’r afael â’r rheini sy’n cyflawni’r trais, mae’n rhaid inni gefnogi’r goroeswyr, ac mae’n rhaid inni newid y diwylliant o gasineb at fenywod ac o aflonyddu sy’n bwydo’r gamdriniaeth.

Gall trais cyffredinol, cam-drin domestig a thrais rhywiol effeithio ar fenywod a dynion, ond dynion sy’n gyfrifol gan mwyaf o bell ffordd. Mae’n eglur mai’r gwahaniaeth mwyaf y gallwn ei wneud yw mynd i’r afael â pharodrwydd dynion i ddefnyddio trais. Nid drwy newid ymddygiad menywod y gwnawn ni sicrhau eu diogelwch. Newid y diwylliant sy’n methu â mynd i’r afael â gwrywdod gwenwynig sydd ei angen. Er mwyn gwneud hyn, rydym wedi ehangu cwmpas ein strategaeth i gynnwys aflonyddu ar y stryd ac yn y gweithle, rydym am weithio gyda goroeswyr, ac rydym am hwyluso deialog rhwng dynion am yr hyn y mae gwrywdod yn ei olygu mewn byd heb drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Mae’r strategaeth hon yn pennu’r agenda ar gyfer Llywodraeth Cymru a’r asiantaethau y mae’n eu cyfarwyddo ac yn eu hariannu. Fodd bynnag, mae hefyd yn strategaeth ar gyfer Cymru gyfan, ar draws y llywodraeth, gan gynnwys cyrff annatganoledig, y sectorau cyhoeddus a phreifat ac, yn bwysicaf oll, pob rhan o gymdeithas Cymru. Os ydym i lwyddo yn ein hamcanion, rhaid inni sicrhau bod y camau a gymerwn a’n hymdrechion i gyd yn ategu ac yn cydblethu â’i gilydd. Bydd strwythur y glasbrint rydym yn ei greu, felly, a’r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol rydym yn ei ffurfio yn creu fframwaith ar gyfer cydweithio ac yn sicrhau ein bod yn atebol i’n gilydd, er mwyn i’r effaith gael ei gweld ym mhob rhan o gymdeithas.

Hoffwn ddiolch i bob corff ac unigolyn sydd wedi bod yn rhan o’r broses o ddatblygu’r strategaeth hon. Mae’r ffordd rydym i gyd wedi gweithio gyda’n gilydd i’w chreu yn destun balchder imi, ac mae pob carfan, mi gredaf, wir yn ei ‘pherchnogi’. Y dasg nesaf yw gwneud y strategaeth hon yn rhywbeth byw, gweithredol ledled ein cymdeithas yng Nghymru.

Jane Hutt AS

Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyflwyniad

Mae Cymru wedi cyflawni llawer wrth fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac mae gennym bob hawl i fod yn falch o’n record. Yn falch o'r awdurdodau cyhoeddus sydd wedi gweithio'n ddiflino i greu awyrgylch lle y caiff trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ei herio. Yn falch o'r partneriaid cyflawni sy'n cynnig cefnogaeth drwy wasanaethau ymatebol sy'n seiliedig ar werthoedd. Yn falch o'r goroeswyr sydd wedi codi eu llais a rhannu eu safbwyntiau er mwyn helpu eraill drwy lywio'r ffordd yr ydym ni, fel cyrff datganoledig ac annatganoledig, yn gwella gyda'n gilydd.

Fodd bynnag, wrth gydnabod yr hyn sydd wedi’i gyflawni, nodwn fod llawer eto i’w wneud. Rhaid inni barhau i feithrin a chynnal gwasanaethau effeithiol sy’n cefnogi goroeswyr ac yn dal y rheini sy’n cyflawni trais i gyfrif. Nid yw trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn digwydd mewn gwagle serch hynny. Mae’n deillio o ddiwylliannau ac agweddau sy’n dod i’r amlwg ar draws ein cymdeithas. Caiff cyflawnwyr trais eu grymuso a chamdriniaeth ei normaleiddio gan yr amgylchedd o’u cwmpas, ac os ydym i gyflawni ein hamcanion, rhaid inni fynd i’r afael ag effeithiau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, oes, ond hefyd rhaid inni fynd i wreiddyn y drwg. Mae mwy i’w wneud i fynd i’r afael â’r hyn sy’n arwain at drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, i greu a chefnogi’r newid cymdeithasol a fydd yn dadnormaleiddio agweddau sy’n hwyluso camdriniaeth ac a fydd yn gwthio’r agweddau hynny i’r cyrion. Mae’r strategaeth hon, sef yr ail i gael ei chwblhau o dan y ddyletswydd a sefydlwyd gan Ddeddf arloesol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, yn amlinellu’r dull a gymerir gan Lywodraeth Cymru a etholwyd ym Mai 2021. Bydd yn cwmpasu’r cyfnod tan ddiwedd y weinyddiaeth hon yn 2026. Mae’r ymrwymiad hwn i fynd i’r afael â gwreiddyn y broblem yn ogystal â’r effaith yn nodweddu’r strategaeth.

Mae uchelgais wrth wraidd y strategaeth hon. Er bod yna bethau gwych wedi’u cyflawni eisoes, nid ydym yn bwriadu llaesu dwylo. Er bod camau gweithredu ac ymyriadau llwyddiannus rydym am barhau â nhw, byddwn yn diffinio blaenoriaethau a dulliau gweithredu newydd er mwyn ehangu a chyflymu ein hymateb ac ymdrin â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol mewn ffordd gyfannol.

Ein gweledigaeth yw rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru. Efallai bod rhai o’r farn nad oes modd gwireddu’r uchelgais, ond nid yw trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn anochel. Mae'r hyn sy'n galluogi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn ymwneud â mwy nag ‘ymddygiadau’ unigolion.   Mae'n ymwneud â normau, agweddau a chredoau cymdeithas y mae'n rhaid eu herio, oherwydd y pethau hyn sy'n cynnal, esgusodi a chyfiawnhau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.  Mae'n wir na fyddwn o bosibl yn rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn ystod oes y strategaeth hon, ond drwy anelu’n uchel, mae’n bosibl iawn y gwnawn ni gyflawni ein nod o sicrhau mai Cymru yw'r wlad fwyaf diogel yn Ewrop i bawb, tanseilio'r amgylchedd y mae cam-drin domestig yn digwydd ynddo a dadnormaleiddio aflonyddu a thrais rhywiol, a'r ymddygiadau sy'n eu galluogi, ym mhob rhan o'n cymdeithas.

Mae rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn her gymhleth, sy’n cwmpasu sawl elfen a chwestiwn, ynghyd â’u hachos a’u heffaith ar oroeswyr a’u teuluoedd, camdrinwyr a’r cyrff hynny sydd o dan ddyletswydd gyfreithiol neu foesol i weithredu. Bwriedir iddi fod yn strategaeth ar gyfer Cymru gyfan sy'n diffinio ac yn arwain y ffordd ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae'n strategaeth ar gyfer awdurdodau cyhoeddus a'r trydydd sector sy'n nodi blaenoriaethau i greu ymdeimlad cyffredin o ymdrechu tuag at nodau a rennir. Mae hefyd yn strategaeth ar gyfer byd busnes a chymdeithas yn ehangach, er mwyn gwneud newidiadau i normau, ymddygiadau a diwylliannau sy'n hanfodol er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau. Nod y strategaeth hon yw rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ac felly mae'n rhaid mabwysiadu dull gweithredu amlasiantaethol ac amlddisgyblaethol sy'n rhoi lle canolog i leisiau arbenigwyr, dioddefwyr a goroeswyr.

Dim ond os bydd pawb yn teimlo perchenogaeth dros y strategaeth ac ymrwymiad i’r gydymdrech sydd ei hangen er mwyn cyflawni'r weledigaeth hon y gall ein dull gweithredu Cymru gyfan fod yn effeithiol. Gellir gorfodi rhai partïon, ond bydd yn rhaid i eraill wneud yr ymrwymiad hwnnw o'u gwirfodd. Ym mhob achos, bydd parodrwydd i gefnogi'r strategaeth yn ysgogi dogfen fyw a fydd yn llywio gweithgarwch, blaenoriaethau a chyfeiriad ar lawr gwlad ac yn cysoni camau gweithredu unigol. Dyma sy'n rhoi'r cyfle gorau i ni o gyflawni ein huchelgais. Rydym yn gobeithio cyflawni'r berchenogaeth hon drwy'r dull cydweithredol a fabwysiadwyd gennym wrth ddatblygu'r strategaeth a'n hymrwymiad i wrando, dysgu a gwella'n barhaus wrth ei rhoi ar waith. Mae'r model ‘Glasbrint’ hwn yn nodi llwybr a rennir y byddwn yn ei droedio gyda'n gilydd.

Bydd arweinyddiaeth ar bob lefel ac ym mhob rhan o'r system yn hanfodol hefyd er mwyn sicrhau bod y strategaeth hon yn ddogfen fyw. Arweinyddiaeth gan wleidyddion ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus, arweinwyr yn y sector gwirfoddol a rhannau eraill o gymdeithas ddinesig, arweinwyr ym maes busnes, y sector gofal ac addysg ac unigolion sy'n ysgwyddo'r cyfrifoldeb i arwain o fewn cymdeithas, gan herio ac addysgu.

Rhaid deall y strategaeth hon felly fel strategaeth Llywodraeth Cymru, strategaeth ar gyfer partneriaid cyflenwi gwasanaethau, ond yn bwysicach fyth fel strategaeth Cymru gyfan yn seiliedig ar uchelgais ar gyfer ein cenedl.

Beth fyddwn ni'n ei wneud er mwyn mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol?

Dyma fydd amcanion ein strategaeth: 

Amcan 1

Herio agwedd y cyhoedd tuag at drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ledled poblogaeth Cymru drwy godi ymwybyddiaeth ac ysgogi trafodaeth gyhoeddus gyda'r nod o leihau'r achosion ohono.

Amcan 2

Cynyddu ymwybyddiaeth plant, pobl ifanc ac oedolion o bwysigrwydd cydberthnasau diogel, cyfartal ac iach a'u grymuso i wneud dewisiadau personol cadarnhaol.

Amcan 3

Cynyddu'r ffocws ar ddwyn y rhai sy'n cam-drin i gyfrif a chefnogi'r rhai a all ymddwyn yn gamdriniol neu'n dreisgar i newid eu hymddygiad ac osgoi troseddu.

Amcan 4

Rhoi blaenoriaeth i ymyrryd yn gynnar ac atal.

Amcan 5

Hyfforddi gweithwyr proffesiynol perthnasol i ddarparu ymatebion effeithiol, amserol a phriodol i ddioddefwyr a goroeswyr.

Amcan 6

Rhoi mynediad cyfartal i bob dioddefwr at wasanaethau, a'r rheini'n wasanaethau croestoriadol o ansawdd uchel, y darperir adnoddau priodol ar eu cyfer, sy'n seiliedig ar gryfderau ac sy'n ymatebol ledled Cymru.

Sut y byddwn yn gwneud hyn?

Ein Glasbrint ar gyfer Gweithredu

Beth yw glasbrint?

Cynllun gweithredu yw glasbrint sy'n dod â sefydliadau gwahanol ynghyd er mwyn rhoi dull system gyfan ar waith i fynd i'r afael â mater.

Bydd y Glasbrint yn creu strwythur llywodraethu cyffredin newydd a fydd yn adlewyrchu cyd-berchenogaeth rhwng cyrff datganoledig ac annatganoledig a'r bartneriaeth rhwng y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r sector arbenigol. Mae dull Glasbrint yn sicrhau’r ymrwymiad a’r cydweithrediad amlasiantaethol rydym am ei weld. Mae ‘amlasiantaethol’ yn cynnwys cyrff datganoledig ac annatganoledig. Mae’n cynnwys asiantaethau gweithredu’r trydydd sector, mae’n cynnwys lleisiau sy’n cynrychioli grwpiau, megis y Comisiynydd Pobl Hŷn, ac mae’n cynnwys goroeswyr. Mae hyn yn creu partneriaeth eang o bartïon sydd â’r dasg o roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, neu sy’n ymrwymo i hynny.

Mae hefyd yn cynnwys swyddogaethau ar draws yr ystod o bolisïau cyhoeddus, megis Addysg ac Iechyd, sydd â rôl o ran cyfrannu at bolisi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a gweithredu’r polisi hwnnw. Mae’n cynnwys llunwyr polisïau, comisiynwyr ac asiantaethau gweithredu mewn partneriaeth a fydd yn ffurfioli’r diwylliant o gydweithredu sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru, ac a fydd yn sicrhau effaith fwyaf bosibl cydweithio drwy ddarparu strwythur sy’n galluogi’r broses.

Bydd y dull gweithredu yn cyflawni hyn drwy sefydlu strwythur ar gyfer datblygu polisi ar y cyd, cydlynu buddsoddiad a gweithgarwch rhwng partneriaid, a hyrwyddo cyflawni drwy gydgymorth a chydherio ymhlith cydweithwyr. Nod y dull Glasbrint yw tynnu ynghyd yr adnoddau a reolir gan bartneriaid o fewn y Glasbrint a chyfrannu at roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol drwy hwyluso cyd-ddealltwriaeth a chyd-deithio i’r un cyfeiriad.

Mae hon yn strategaeth ar gyfer Cymru gyfan a phob rhan o Wasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae’n galw, felly, am berchenogaeth gan yr holl bartneriaid allweddol sy’n ymwneud â’i gweithredu. Er mai dyma’r strategaeth statudol a ddatblygwyd gan Weinidogion Cymru, mae hefyd yn ddull gweithredu y cytunwyd arno ac yr ymrwymwyd iddo gan bob partner. Er mwyn hwyluso’r ymdeimlad hwn o berchenogaeth, ac i sicrhau bod y gwaith yn cael ei fonitro, bydd angen strwythur llywodraethu arnom sy’n adlewyrchu’r bartneriaeth strategol hon ar draws cyrff datganoledig ac annatganoledig, a’r bartneriaeth rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector.

Sut beth yw'r Glasbrint?

Llywodraethu ac atebolrwydd o ran y Glasbrint

Byddwn yn creu Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol newydd a arweinir gan Weinidogion ac a gadeirir ar y cyd. Bydd y Bwrdd hwn yn gyfrifol am oruchwylio'r broses o gyflawni'r Strategaeth. Bydd y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol yn darparu fforwm ar gyfer negodi penderfyniadau ac ymrwymiadau ar y cyd. Ni fydd yn tanseilio annibyniaeth unrhyw un o’i aelodau, ond bydd yn creu cyfle i ddatblygu dulliau gweithredu cyffredin a chyd-ategol drwy gydweithio. Bydd y partneriaid yn mynd â mandadau y cytunir arnynt ar y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol yn ôl i’w cyrff eu hunain, ac yn rhoi cyfrif i’w partneriaid am eu cynnydd drwy’r Bwrdd.

Bydd y Bwrdd Partneriaeth ar frig y strwythur, a bydd nifer o ffrydiau gwaith yn cyfrannu ato gan ganolbwyntio ar feysydd penodol. Bydd hefyd yn goruchwylio gwaith y byrddau rhanbarthol er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni'r dull Cymru gyfan, ond gan adlewyrchu'r gwahaniaeth rhanbarthol ar yr un pryd. Bydd aelodau'r Bwrdd yn adlewyrchu’r cyrff hynny sydd â dyletswyddau allweddol i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Wrth ddatblygu aelodaeth y Bwrdd, byddwn yn ystyried cynnwys lleisiau a fydd yn cynrychioli darparwyr, goroeswyr a chyflogwyr i sicrhau mai eu buddiannau nhw fydd yn llywio'r drafodaeth.

Bydd y Bwrdd Partneriaeth yn creu cyfres o is-grwpiau neu ffrydiau gwaith a fydd yn atebol i'r Bwrdd Partneriaeth, er mwyn datblygu a goruchwylio gwaith ar y prif gamau gweithredu. Efallai y bydd y grwpiau hyn yn newid dros amser wrth i’r gwaith symud yn ei flaen ac wrth i flaenoriaethau ddatblygu. Fodd bynnag, bydd y grwpiau cychwynnol yn mynd i’r afael â:

  1. aflonyddu ar y stryd a diogelwch mewn mannau cyhoeddus
  2. sflonyddu yn y gweithle
  3. mynd i'r afael â chyflawni trais
  4. comisiynu cynaliadwy
  5. anghenion pobl hŷn a phlant a phobl ifanc
  6. llais goroeswyr.

Wrth sefydlu'r strwythur llywodraethu hwn, byddwn yn cadw mewn cof y gwersi a ddysgwyd o feysydd eraill fel y Glasbrintiau a grëwyd eisoes ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid a Throseddu gan Fenywod ac mewn meysydd polisi trawstoriadol eraill.

Sut y byddwn yn cyflawni hyn?

Bydd partneriaid datganoledig ac annatganoledig yn cydweithio fel rhan o'r Glasbrint i bennu cwmpas polisïau, eu datblygu a rhoi atebion arloesol ar waith mewn perthynas â'r canlynol: 

Aflonyddu ar y stryd

Bydd mynd i'r afael ag aflonyddu ar y stryd yn rhan bwysig o'r strategaeth hon. Mae'n adlewyrchu rhaglen lywodraethu'r llywodraeth hon ac mae'n niwed rydym eisiau ei leihau.  Fodd bynnag, mae hefyd yn rhan bwysig o'r ‘theori newid’ sy'n ategu'r hyn rydym yn ceisio'i gyflawni drwy'r strategaeth hon. Drwy leihau'r lefel gyffredinol o aflonyddu ar y stryd a'r agweddau sy'n ei ategu, a'u gwneud yn fwy annerbyniol, byddwn yn cael effaith ar lefel y gymdeithas gyfan sy'n lleihau'r tebygolrwydd cyffredinol o drais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Wrth fynd i'r afael ag aflonyddu ar y stryd, byddwn yn meithrin dealltwriaeth o'r hyn sy'n ei achosi, yn gwella'r amgylchedd ar gyfer adrodd, yn cefnogi dioddefwyr ac eraill i'w herio ac yn codi ymwybyddiaeth a symud y ffocws oddi ar y disgwyliadau sydd ar fenywod, a thuag at agweddau dynion, er mwyn llywio ymddygiadau.

Ond mae hyn yn ymwneud â mwy nag aflonyddu. Mae hefyd yn ymwneud â thrais sy'n deillio o gasineb at fenywod a thrais rhywiol y gellir eu profi mewn man cyhoeddus. Er mwyn sicrhau bod menywod yn ddiogel ac yn teimlo'n ddiogel, rhaid inni wneud mwy na dim ond mynd i'r afael â phen y sbectrwm sy'n bwydo'r amgylchedd tocsig; rhaid inni wneud mwy i herio'r rhai a fyddai'n cyflawni'r gweithredoedd hyn yn uniongyrchol a'u dwyn i gyfrif. Wrth wneud hyn, rydym yn cydnabod bod angen integreiddio ein dull gweithredu â diogelwch cymunedol a gweithgarwch plismona ehangach, yn ogystal â'i le mewn gwaith cydraddoldeb rhywiol.

Aflonyddu yn y gweithle

Mae aflonyddu yn y gweithle yn cael effaith sylweddol ar gyfleoedd bywyd i unigolion, cydraddoldeb rhywiol a materion cydraddoldeb trawstoriadol fel hil ac LHDTC+. Bydd mynd i'r afael ag aflonyddu yn y gweithle o reidrwydd yn cynnwys cyflogwyr ac undebau llafur ym mhob sector, gan gynnwys y sector preifat. Byddwn yn defnyddio fframwaith Cynghorau'r Bartneriaeth Gweithluoedd a Chynghorau'r Bartneriaeth Gymdeithasol i lywio'r agenda, ond byddwn hefyd yn creu dulliau pwnc-benodol i gefnogi ein hagenda cymdeithas gyfan. Bydd y dull gweithredu hwn yn rhoi lle canolog i oroeswyr, yn herio ac yn cefnogi cyflawnwyr i newid, ac yn creu amgylcheddau dim goddefgarwch. Bydd y cynllun gwaith yn cynnwys casglu tystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio a hyrwyddo ymarfer rhagorol a datblygu'r adnoddau sydd gennym i hwyluso newid, gan gynnwys arweinyddiaeth, codi ymwybyddiaeth a darbwyllo a defnyddio adnoddau fel caffael cyhoeddus er mwyn sicrhau bod polisïau adnoddau dynol yn effeithiol wrth leihau aflonyddu yn y gweithle. Mae achosion brawychus o dorri ymddiriedaeth y cyhoedd gan rai mewn safleoedd o awdurdod wedi tynnu sylw at y peryglon, nid dim ond i’r unigolion y mae pobl y dylent allu ymddiried ynddynt yn eu cam-drin neu’n camfanteisio arnynt, ond hefyd i’r hyder ehangach bod sefydliadau cyhoeddus wedi ymrwymo i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Ymhlith ei flaenoriaethau, bydd y grŵp aflonyddu yn y gweithle yn mynd ati i lunio ymateb cydlynol ac effeithiol i achosion o gamfanteisio ar ymddiriedaeth o fewn cyrff cyhoeddus. Drwy weithio ar draws y bartneriaeth, gallwn gynnig negeseuon cyson, cefnogi’r rheini sy’n datgelu profiadau, a herio diwylliannau a strwythurau sy’n gwneud camymddygiad o’r fath yn bosibl. Bydd hyn yn arwydd cyhoeddus pwysig gan y bartneriaeth o’r ymrwymiad i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar bob lefel ac ym mhob sefyllfa.

Mynd i’r afael â chyflawni trais

Mae gweithio gyda’r rheini sy’n cam-drin a mynd i’r afael â chyflawni trais yn hanfodol i'n dull iechyd y cyhoedd o ymdrin â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.  Rydym yn bwriadu adeiladu ar y gwaith a wnaed eisoes yn y maes hwn drwy ganolbwyntio mwy ar yr unigolion hyn. Bydd hyn yn herio ac yn cefnogi'r rhai sy'n cam-drin er mwyn eu hannog i beidio ag ymddwyn yn y ffordd honno a hwyluso newid parhaol yn eu hymddygiad. Byddwn yn arfer y dull gweithredu hwn yn y system cyfiawnder troseddol drwy wasanaethau Plismona, Carchardai a Phrawf.   Byddwn hefyd yn arfer y dull gweithredu hwn o fewn gwasanaethau cymorth sy'n targedu'r rhai sy'n cam-drin ac yn ymddwyn yn dreisgar, yn ogystal â chydgysylltu'r gwasanaethau hyn â chymorth arbenigol i oroeswyr er mwyn sicrhau bod y system gyfan yn mynd i'r afael â'r achosion, ar yr un pryd â chefnogi dioddefwyr.

Yn fwy na hyn, byddwn hefyd yn sicrhau bod ein hymgyrchoedd cyhoeddus yn rhoi cyfleoedd i'r rhai sydd mewn perygl o gyflawni camdriniaeth a thrais ddewis addysg a chymorth i'w dargyfeirio oddi wrth y risg y maent yn ei pheri i eraill. Bydd hyn yn cynnwys ehangu'r gwasanaeth a gynigir gennym ar y cyd. Mae'r dull gweithredu hwn yn cydnabod bod yn rhaid i'r ffordd yr ymdrinnir â'r rhai sy'n cam-drin fod yn ataliol er mwyn torri cylchoedd ac atal aildroseddu. Bydd y grŵp yn gweithio gyda chomisiynwyr i ganolbwyntio ar a pharhau ag ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth a gwybodaeth seicolegol er mwyn hyrwyddo newid ymhlith y sawl sy’n arddangos yr ymddygiadau hyn, a sicrhau bod y broses gomisiynu yn ddiogel, yn briodol ac yn arwain at well canlyniadau, nid dim ond i’r cyflawnwr trais, ond i ddioddefwyr a goroeswyr. Bydd y grŵp yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid ar draws gwasanaethau arbenigol ac academia er mwyn datblygu gwell dealltwriaeth o’r ffactorau sy’n cyfrannu at ac yn ysgogi newid mewn ymddygiad, a defnyddio hynny i lywio’r ddarpariaeth.

Comisiynu cynaliadwy

Y trydydd sector sy’n darparu llawer o’r gefnogaeth sy’n rhoi diogelwch i oroeswyr ac sy’n eu galluogi i ddod dros eu profiadau ac ailadeiladu eu bywydau. Bydd llawer o gomisiynwyr y gwasanaethau hyn hefyd ar y bwrdd partneriaeth. Mae cyfle i’r gweithgor adeiladu ar waith sydd eisoes yn digwydd i ddatblygu system o Gomisiynu Cynaliadwy er mwyn darparu sefydlogrwydd a hyder i ddarparwyr. Er y dylai prosesau comisiynu hyrwyddo ansawdd ac effeithiolrwydd bob amser, mae’n bwysig gweithredu ar sail ein hegwyddorion yng Nghymru o wella drwy gydweithio ym maes cystadleuaeth. Mae darparwyr a defnyddwyr gwasanaethau yn hyderus y bydd gwasanaethau effeithiol ac effeithlon yn parhau i gael eu cynnig.

Byddwn yn cyflawni hyn drwy sicrhau bod asesiadau o anghenion, cynlluniau strategol a gwaith caffael cystal ag y gallant fod i’r diben hwn. Mae Canllawiau Comisiynu cyfredol Llywodraeth Cymru wedi cael eu datblygu drwy ymgysylltu’n eang, ond mae angen sicrhau eu bod yn gynhwysfawr ac yn gynhwysol ar gyfer pob Comisiynydd, a bod cymorth ar gael wrth weithredu i sicrhau cysondeb. Byddwn felly yn adolygu’r canllawiau i wneud yn siŵr eu bod yn gynhwysfawr, gan adeiladu ar waith Grŵp Comisiynu’r Cynghorwyr Cenedlaethol i’w gweithredu. Bydd y grŵp hefyd yn ystyried cwestiwn atebolrwydd priodol i’r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol o ran mecanweithiau cynllunio lleol a rhanbarthol. Bydd modd i’r grŵp gydlynu’r cyllid a ddarperir gan bartneriaid, gan nodi unrhyw ddyblygu a bylchau, cyfleoedd i ategu a chefnogi amcanion eraill, a mynd i’r afael ag effeithiau negyddol strwythurau cyllid sydd weithiau yn gallu bod yn rhai tymor byr a chyfyngu ar y gallu i arloesi.

Pobl hŷn, plant a phobl ifanc

Yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad ar y strategaeth ddrafft, tynnwyd sylw at bwysigrwydd deall effaith trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar bob cam o fywyd dioddefwr. Mae yna berygl nad yw anghenion pobl hŷn a phlant a phobl ifanc wedi’u cydnabod yn ddigonol hyd yma. Fel rhan o’r ymgais i sicrhau dealltwriaeth gynhwysfawr o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, gall y gweithgor ystyried ein dealltwriaeth o anghenion plant, pobl ifanc a hŷn er mwyn gwneud yn siwr bod ymatebion gwasanaethau yn briodol, a bod niwed i’r grwpiau hyn yn cael ei atal ac yn cael sylw. Gan weithio ochr yn ochr â gwaith datblygu polisi ym maes diogelu, bydd y grŵp yn sicrhau bod yna eglurder a chydlyniant rhwng dulliau cyfochrog o ymdrin â diogelu a thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Bydd y grŵp hefyd yn gallu helpu i weithredu amcanion cwricwlwm Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb i hyrwyddo cydberthnasau iach, yn ogystal â mynd i’r afael â chamdriniaeth o fewn cylch cyfoedion.

Llais goroeswyr

Bydd gwrando ar brofiadau bywyd goroeswyr yn hanfodol ym mhob rhan o fframwaith y Glasbrint, ond elfen allweddol fydd y panel craffu a sefydlir fel gweithgor Llais Goroeswyr. Unigolion sydd â phrofiadau go iawn o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol fydd ar y grŵp, a bydd modd iddynt gyfrannu ar sail eu profiad eu hunain yn hytrach na bod gweithwyr proffesiynol yn siarad ar ran eraill. Bydd modd i’r grŵp ddatblygu cyngor polisi ar gyfer y Bwrdd Cenedlaethol ar y graddau y caiff defnyddwyr gyfrannu at benderfyniadau a gwaith ymgysylltu. Fodd bynnag, eu prif rôl fydd gweithio fel panel craffu, y caiff cyngor polisi grwpiau eraill ei gyfeirio atynt i’w ystyried. Bydd persbectif goroeswr yn nodweddu’r cyngor a gyfeirir i’r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol bob amser, felly.

Themâu trawstoriadol

Sicrhau newid diwylliannol mewn agweddau

Mae hyn yn golygu mynd i'r afael â thrais gan ddynion a rhoi'r gorau i feio'r dioddefwr. Er mwyn gwneud hynny, rydym yn cydnabod bod angen inni gynnwys dynion yn y drafodaeth. Mae llawer o ddynion yn dangos agweddau cefnogol tuag at fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, fel y dangosir gan yr ymateb i'r ymgyrch Rhuban Gwyn a #MeToo. Mae angen inni fynd ymhellach nawr a chael trafodaethau ymhlith dynion ynghylch mynd i'r afael â thrais gan ddynion er mwyn sicrhau bod ein hatebion yn cael eu derbyn ymhlith y gymuned rydym eisiau effeithio arni fwyaf.

Hyrwyddo a chefnogi cydberthnasau iach

Mae hyrwyddo a chefnogi cydberthnasau iach eisoes yn rhan allweddol o'n dull gweithredu a, chan gydnabod natur hirdymor ein huchelgais, mae eisoes wedi llywio'r Cwricwlwm i Gymru newydd. Mae'r strategaeth hon yn cwmpasu'r cyfnod pan fydd y Cod a chanllawiau Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb newydd yn cael eu rhoi ar waith. Bydd eu rhoi ar waith yn llwyddiannus yn cefnogi hawliau dysgwyr i fwynhau cydberthnasau cadarnhaol, iach a diogel drwy gydol eu hoes.  Felly, mae ein strategaeth yn dibynnu ar waith i sicrhau bod hyn yn cael ei roi ar waith yn llwyddiannus. Gan weithredu'n ehangach, byddwn yn parhau i hyrwyddo cydberthnasau iach yn y ffordd y byddwn yn cefnogi teuluoedd ac unigolion agored i niwed. Drwy hyrwyddo cysyniad cyson o'r hyn sy'n gyfystyr â chydberthnasau iach, byddwn yn cefnogi ein dull cymdeithas gyfan ac yn hwyluso'r drafodaeth angenrheidiol. 

Cyfathrebu ac ymgysylltu

Mae codi ymwybyddiaeth wedi bod yn rhan bwysig o'r dull gweithredu hyd yma. Bydd hyn yn parhau'n adnodd allweddol i hwyluso gweithgarwch ataliol ac mae'r Rhaglen Lywodraethu yn ymrwymo i ehangu ein gwaith cyfathrebu. Felly, bydd codi ymwybyddiaeth yn parhau'n rhan annatod o'n strategaeth. Rydym am ddatblygu hyn mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, rydym am barhau i ddatblygu ein gwaith gyda gweithwyr proffesiynol i'w galluogi i adnabod, herio ac atgyfeirio achosion o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Gall gweithwyr proffesiynol ym meysydd Addysg, Iechyd, a Thai, ymysg eraill, fod yn amddiffyniad llinell gyntaf pan ddaw at drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a diogelu dioddefwyr. Hefyd, rydym am atgyfnerthu ein hymyriadau ehangach i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd er mwyn adlewyrchu ein dull iechyd y cyhoedd.   Diben hyn fydd hwyluso newid mewn ymddygiad ar lefel cymdeithas gyfan drwy drafodaeth gyhoeddus a fyddai'n dadnormaleiddio trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a'r agweddau sy'n ei gefnogi. 

Addysg a chymorth i'r rhai sy'n wynebu risg o gyflawni camdriniaeth

Yn fwy na hyn, byddwn hefyd yn sicrhau bod ein hymgyrchoedd cyhoeddus yn rhoi cyfleoedd i'r rhai sy'n wynebu risg o gyflawni camdriniaeth a thrais ddewis addysg a chymorth i'w dargyfeirio oddi wrth y risg y maent yn ei pheri i eraill. Bydd hyn yn cynnwys ehangu'r gwasanaeth a gynigir gennym ar y cyd. Mae'r dull gweithredu hwn yn cydnabod bod yn rhaid i'r ffordd yr ymdrinnir â'r rhai sy'n cam-drin fod yn ataliol er mwyn torri cylchoedd ac atal aildroseddu

Cynllunio strategol effeithiol

Mae comisiynu effeithiol wedi'i adeiladu ar gynllunio strategol effeithiol gan gynnwys dealltwriaeth gadarn o anghenion, a'r hyn sy'n gweithio. Fel rhan o'r gwaith o roi ein Glasbrint partneriaeth ar waith, byddwn yn adolygu ein dulliau cynllunio er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu ein dull system gyfan o gynnwys pob partner comisiynu allweddol. Byddwn yn sicrhau bod cynlluniau strategol wedi'u llywio gan farn rhanddeiliaid a llais y defnyddiwr ac yn cydgynhyrchu lle y bo hynny'n bosibl. Byddwn yn sicrhau y caiff Comisiynwyr wybodaeth well am drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, tystiolaeth o anghenion a pha ymyriadau y dylid buddsoddi ynddynt h.y. yr hyn sy'n gweithio. Fel rhan o'r broses hon, byddwn hefyd yn gweithio i wella'r cysylltiad rhwng strwythurau rhanbarthol presennol, fel Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, er mwyn sicrhau bod gwaith ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cael ei ategu gan waith cynllunio mewn meysydd eraill ac yn cyflawni'r camau integreiddio a chydweithredu sy'n ofynnol gennym.

Datblygu fframwaith cenedlaethol o safonau

Mae'r gallu i alw ar wasanaethau arbenigol effeithiol yn hanfodol er mwyn cyflawni ein gweledigaeth. Er bod angen inni ymateb i anghenion lleol, mae hefyd yn bwysig sicrhau cysondeb ledled Cymru.  Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn datblygu fframwaith cenedlaethol o safonau a fydd yn dangos sut beth yw gwasanaeth da a'r lefelau gwasanaeth gofynnol y dylid eu disgwyl. Nod hyn fyddai sicrhau bod modd i'r model darpariaeth gydweithredol yng Nghymru gael ei ymgorffori mewn gwasanaethau cynhwysfawr sy'n diwallu anghenion pawb. Y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol fyddai'n gyfrifol am fonitro a chyflawni'r fframwaith hwn, a byddai'n dibynnu ar ymrwymiad yr holl bartneriaid cyllido.  Bydd y fframwaith yn cefnogi cynaliadwyedd gwasanaethau a bydd gan y partneriaid ddisgwyliadau clir o'r ymrwymiad y bydd disgwyl iddynt ei wneud. Am y rhesymau hyn, bydd pob partner, gan gynnwys noddwyr, darparwyr a defnyddwyr, yn cydweithio i ddatblygu'r fframwaith.

Adolygu'r dangosyddion cenedlaethol

Er mwyn gwerthuso effaith ein strategaeth, mae'n bwysig inni ddefnyddio mesurau sy'n adlewyrchu ein dull system gyfan ac yn adlewyrchu cyfraniad yr holl bartneriaid. Am y rheswm hwn, byddwn yn adolygu'r Dangosyddion Cenedlaethol er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu'r bartneriaeth lawn ac y gallant fesur cynnydd ein dull iechyd y cyhoedd. Wrth wneud hynny, byddwn yn cydnabod y cyfrifoldeb sydd ar gyrff annatganoledig i adlewyrchu dulliau gweithredu a nodir gan Lywodraeth y DU.

Mynd i'r afael â chroestoriadedd

Bydd deall effaith cydraddoldeb trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar sail groestoriadol yn hanfodol os ydym am fynd i'r afael â'r broblem i bawb yng Nghymru a chydnabod yr effaith gronnol y gall mathau rhyngblethol o anfantais ei chael. Bydd edrych o safbwynt effaith croestoriadedd hefyd yn ein helpu i feithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, gan gynnwys anghenion pob un o'r rhai yr effeithir arnynt gan gynnwys plant, pobl hŷn, pobl o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, pobl anabl a chymunedau LHDTC+. Nid yw trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cael yr un effaith ar bawb, mae'n effeithio ar bobl wahanol mewn ffyrdd gwahanol, ac felly byddwn yn ymateb mewn ffyrdd penodol er mwyn sicrhau bod ein canlyniadau yn hyrwyddo cydraddoldeb.

Pa ddulliau gweithredu y byddwn yn eu mabwysiadu?

Yr Egwyddorion sy'n sail i'n strategaeth

Er mwyn cyflawni ein gweledigaeth i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol, mae angen inni weithredu gyda'n gilydd mewn ffordd benodol. Mae'r dull gweithredu strategol rydym am ei fabwysiadu yn adeiladu ar gyflawniadau a chynnydd presennol. Nid ydym am golli'r tir a enillwyd. Fodd bynnag, bydd y strategaeth hon yn canolbwyntio ar gamau gweithredu y bydd angen inni eu blaenoriaethu er mwyn datblygu ein dull gweithredu ymhellach.

Yr egwyddorion canlynol fydd yn diffinio ein dull gweithredu:

  • dull cymdeithas gyfan
  • mynd i'r afael â thrais gan ddynion
  • dealltwriaeth gynhwysfawr o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
  • dull gweithredu yn seiliedig ar gydraddoldeb
  • llais goroeswyr
  • dull iechyd y cyhoedd
  • dull gweithredu wedi ei lywio gan drawma
  • cydweithio a chydgynhyrchu.

Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a'r gallu i roi terfyn arno, yn rhan o gymdeithas yn ei chyfanrwydd. Er y bydd y profiad personol o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn benodol, mae'r agweddau a'r ymddygiadau sy'n ei ategu wedi'u gwreiddio mewn cymdeithas ac agweddau ehangach. Gall casineb at fenywod ac agweddau gwenwynig am wrywdod, oedran, gallu, hil, beio dioddefwyr ac anghydraddoldebau diwylliannol gyfrannu at amgylchedd lle y caiff ymddygiadau negyddol eu normaleiddio ac na chaiff trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ei herio. Mae effaith yr agweddau hyn yn cael ei theimlo ar draws sbectrwm cyfan trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, o aflonyddu ar y stryd neu yn y gweithle, yr hyn a elwir yn drais ar sail ‘anrhydedd’, lladdiadau trais domestig, stelcio neu drais.  Ein strategaeth ni yw effeithio ar yr agweddau cymdeithasol hynny ar draws y sbectrwm gyda dulliau ‘iechyd y cyhoedd’, a darparu arweinyddiaeth ar gyfer y drafodaeth gyhoeddus sy'n cael ei chynnal ar hyn o bryd.

Mae gan arweinwyr cyhoeddus, dinesig a chymunedol rôl wrth lywio newid diwylliannol a llywio'r drafodaeth.   Ein strategaeth yw harneisio pob agwedd ar yr arweinyddiaeth hon er mwyn sicrhau bod Cymru'n dod yn genedl lle nad oes dim goddefgarwch am drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a lle y caiff yr agweddau a'r ymddygiadau sy'n sail iddo eu herio.

Mae rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a chefnogi'r rhai sydd ei angen yn fusnes i bawb. Mae'n gyfrifoldeb ar yr unigolyn, y teulu, y gymuned a'r sefydliadau, y sectorau, y llywodraeth a'r genedl gyfan.   Mewn Cymru lle na cheir trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig na thrais rhywiol, caiff pawb eu hystyried yn gyfartal, cydnabyddir ac eir i'r afael â'r anghydraddoldeb strwythurol sy'n achosi'r broblem, ymdrinnir â stigma, ac yn bwysig ddigon, caiff ymddygiadau niweidiol eu herio. 

Mynd i'r afael â thrais gan ddynion

Byddwn yn torri'r cylch ac yn mynd i'r afael ag achosion sylfaenol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol drwy fynd i'r afael â thrais gan ddynion, a'r casineb at fenywod a'r anghydraddoldeb rhywiol sy'n sail iddo. Mae trais gan ddynion, a'r ymddygiadau rheoli cysylltiedig, yn gamddefnydd o bŵer sy'n deillio o anghydraddoldeb rhywiol. Mae'r strategaeth hon yn cydnabod bod yn rhaid inni herio agweddau a newid ymddygiadau'r rhai sy'n ymddwyn yn gamdriniol. Ni ddylai fod angen i fenywod newid eu hymddygiad. Camdrinwyr ddylai fod yn newid eu hymddygiad nhw.

Dynion yw'r mwyafrif helaeth o'r rhai sy'n cyflawni trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ond nid bob amser. Felly, mae'n bwysig cydnabod nad menywod yw'r dioddefwyr bob amser a'i fod yn gallu effeithio ar ddynion a phobl â hunaniaeth anneuaidd hefyd.  Caiff pob cyflawnwr, ni waeth beth fo'i rywedd, ei ddwyn i gyfrif am ei weithredoedd. Fodd bynnag, mae'r strategaeth hon yn cydnabod bod trais gan ddynion yn diffinio trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a bod mynd i'r afael â'r dynamig pŵer a rheolaeth a grëir gan anghydraddoldeb rhywiol yn gywir yn allweddol.

Felly, bydd y strategaeth hon yn herio trais gan ddynion yn benodol a'r pethau sy'n ei achosi.   Rhaid i hyn ddechrau gyda bechgyn a dynion ifanc er mwyn i genedlaethau'r dyfodol gael cyfle i dorri'r cylch hwn a datblygu cydberthnasau iach yn seiliedig ar barch a chydsyniad.

Mae'r profiad o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn seiliedig ar rywedd ac felly mae'n rhaid cael strategaeth felly i sicrhau bod dynion yn deall ac yn teimlo cymhelliant i weithredu hefyd. Nid lle menywod ydyw i newid ymddygiad dynion. Lle dynion ydyw i gamu i fyny a mynd i'r afael â chasineb at fenywod ac agweddau mewnol sy'n arwain at drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Dealltwriaeth gynhwysfawr o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol

Mae'r trais dan sylw yn cwmpasu trais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Ni ddylid ei ddeall mewn ffordd gul – mae'n cynnwys cysyniadau fel camfanteisio rhywiol, anffurfio organau cenhedlu benywod, yr hyn a elwir yn drais ar sail ‘anrhydedd’, cam-drin pobl hŷn, stelcio a rheolaeth drwy orfodaeth, yn ogystal â cham-drin domestig a thrais rhywiol. Serch hyn, gall canfyddiad cyhoeddus a phroffesiynol ganolbwyntio'n ormodol ar gam-drin domestig. Mae hyn yn gallu, ac wedi, arwain at ymatebion yn dechrau a gorffen gyda cham-drin domestig, a bod y cysyniadau ehangach yn cael eu colli. Gall hyn olygu bod gweithwyr proffesiynol yn ddall i faterion y dylid eu hatgyfeirio, gan drin camdriniaeth fel mater diogelu yn hytrach na throsedd, neu fod comisiynwyr yn ystyried bod darpariaeth cam-drin domestig yn ddigon i ymdrin â phopeth. Yn ystod oes y strategaeth hon, rydym am sicrhau bod y ddealltwriaeth o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn gynhwysfawr, a'n bod mor llwyddiannus wrth ymdrin â thrais rhywiol ag yr ydym wrth ymdrin â cham-drin domestig, er enghraifft.

Rhaid i'r ddealltwriaeth gynhwysfawr hon hefyd gynnwys sbectrwm cyfan trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.  Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn cynnwys yr ymrwymiad i atgyfnerthu ein strategaeth “i gynnwys ffocws ar drais yn erbyn menywod ar y stryd ac yn y gweithle yn ogystal â’r cartref.” Mae hyn yn golygu ein bod yn ymgysylltu yn y parth cyhoeddus yn ogystal â'r parth preifat. Drwy fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ble bynnag y bydd yn digwydd, byddwn yn cefnogi ein dull ataliol a'n dull cymdeithas gyfan.

Dull gweithredu yn seiliedig ar gydraddoldeb

Mae cysylltiad annatod rhwng y profiad o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a ffactorau sy'n ymwneud â nodweddion cydraddoldeb.  Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn ymwneud â chamddefnyddio pŵer ac fel y cyfryw mae cyflawnwyr yn gweithredu lle bynnag y mae anghydraddoldebau yn dadrymuso'r rhai sy'n cael eu fictimeiddio. Felly, wrth weithio, mae'n rhaid inni ystyried agweddau eraill ar wahaniaethu a sut maent yn rhyngblethu ag anabledd, rhywedd, hil a LHDTC+.

Yn ôl data o Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr, yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020, roedd pobl anabl yn fwy tebygol o fod wedi dioddef cam-drin domestig yn y flwyddyn ddiwethaf o gymharu â phobl eraill; mae hyn yn wir am ddynion (7.5% o gymharu â 3.2%) a menywod (14.7% o gymharu â 6.0%). Yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd gan SafeLives yn 2017, mae dioddefwyr cam-drin domestig anabl hefyd yn dioddef camdriniaeth fwy difrifol a mynych dros gyfnodau hwy o gymharu â dioddefwyr nad ydynt yn anabl.

Gwyddom fod gwasanaethau cam-drin domestig yng Nghymru yn diwallu anghenion y gymuned LHDTC+, ond mae'r ffaith na chofnodir pob digwyddiad a bod diffyg data yn llesteirio ein gallu i ddangos tystiolaeth o'r darlun llawn yng Nghymru. Mae llawer o astudiaethau cydnabyddedig yn dynodi y bydd hyd at 40% o'r boblogaeth LHDTC+ yn profi cam-drin domestig o ryw fath yn ystod eu bywydau, sy'n cynyddu i tua 80% ar gyfer y gymuned draws.

Er mwyn gweithio tuag at fynd i'r afael â hyn, mae gennym gam gweithredu yn y Cynllun Gweithredu LHDTC+ i ‘fynd ati yn benodol i dargedu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn y gymuned LHDTC+ er mwyn gwella ei dealltwriaeth o'r rhesymau dros y cyfraddau isel o roi gwybod am achosion o'r fath ymhlith y gymuned yn y gorffennol, gan sicrhau bod pob llenyddiaeth, neges a menter codi ymwybyddiaeth yn gynhwysol a, phan fo angen, yn benodol i'r gymuned LHDTC+. Dylai'r data a gaiff eu casglu gan ddarparwyr gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ynghyd â gwasanaethau proffesiynol a gwasanaethau cyhoeddus, yn cynnwys data'r heddlu, nodi achosion lle mae pobl LHDTC+ yn rhoi gwybod am y digwyddiadau hyn, ynghyd ag atgyfeiriadau, achosion ac ati.’

Gall gwahaniaethau diwylliannol effeithio ar faterion fel cam-drin a thrais ar sail ‘anrhydedd’. Gall rhywioldeb a hunaniaeth rhywedd lywio'r profiad o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.  Gall fod achosion cudd o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ymhlith pobl hŷn ac felly caiff ei danamcangyfrif yn ein hymateb. Gall hil fod yn ffactor trawstoriadol pwysig sy'n effeithio ar ganlyniadau i unigolion ac, wrth gwrs, mae rhan fawr o'r her yn ymwneud â rhywedd. 

Bydd y strategaeth hon yn gweithio i sicrhau cysondeb â'n Cynllun Cydraddoldeb Strategol, y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol drafft, y Cynllun Gweithredu LHDTC+ drafft a'r Cynllun Gweithredu Hawliau Anabledd wrth iddo gael ei ddatblygu. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn deall ac yn adlewyrchu materion cydraddoldeb, a bod ein hymateb yn cael ei deilwra i sicrhau bod mewnbynnau yn benodol a bod canlyniadau yn gyfartal.

Mae'r materion hyn yn gorgyffwrdd â materion diogelu. Er na chaiff trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ei gwmpasu gan ddyletswyddau a chanllawiau diogelu statudol, mae'n hanfodol bod ein hymateb yn cael ei gydgysylltu â chamau gweithredu i ddiogelu plant ac oedolion sy'n wynebu risg o gael eu cam-drin. 

Llais goroeswyr

Er mwyn cyflawni'r egwyddorion hyn a chynnig yr ymateb i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol rydym am ei sicrhau, mae'n hanfodol ein bod yn gwrando ar lais goroeswyr. Mae'r strategaeth hon wedi'i hysgogi gan y ffyrdd o weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'n canolbwyntio ar yr effaith hirdymor rydym am ei chael. Mae'n canolbwyntio ar atal er mwyn lleihau problemau at y dyfodol. Mae'n integredig, gan ddwyn ynghyd amcanion cyrff gwahanol dan un nod ac mae'n gydweithredol, yn seiliedig ar gydweithio i fynd i'r afael â materion gyda'n gilydd. Yn bwysicaf oll, mae'n cynnwys goroeswyr a phobl sy'n wynebu risg o fynd yn gyflawnwyr, nid yn unig er mwyn deall natur yr atebion sy'n gweithio ond hefyd er mwyn manteisio ar eu gallu hwy i greu atebion cynaliadwy. Bydd y gwaith hwn yn ymgorffori'r strategaeth ymgysylltu â goroeswyr bresennol ac yn ei datblygu. Yn strwythurol, bydd gweithgor Llais Goroeswyr yn darparu mecanwaith i lais goroeswyr gael ei fynegi. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod y llais hwn yn cael ei glywed ym mhob rhan o broses weithredu’r strategaeth.

Dull Iechyd y Cyhoedd

Mae egwyddorion iechyd y cyhoedd yn cynnig fframwaith defnyddiol ar gyfer deall ein dull a'r ‘theori newid’ y byddwn yn ei ddefnyddio i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.  Mae dull iechyd y cyhoedd yn deall achosion trais, cam-drin a rheolaeth, a'u heffeithiau.  Mae'r dull yn seiliedig ar boblogaethau cyfan ac, fel y cyfryw, yn dibynnu ar ymdrech gydgysylltiedig sy'n cydnabod achosion problemau iechyd a chymdeithasol drwy ymatebion amlasiantaethol.

Mae dull iechyd y cyhoedd o atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn gwella diogelwch pawb drwy fynd i'r afael â'r ffactorau risg sylfaenol sy'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd unigolyn yn dod yn oroeswr neu'n mynd yn gyflawnwr. Mae pedwar cam i ddull iechyd y cyhoedd llwyddiannus sy'n hanfodol i'r strategaeth hon:

  • Diffinio'r broblem drwy fynd ati'n systematig i gasglu gwybodaeth am raddfa, cwmpas, nodweddion a chanlyniadau trais.
  • Sefydlu pam y mae trais yn digwydd gan ddefnyddio ymchwil i bennu achosion a ffactorau cydberthynol trais, y ffactorau sy'n cynyddu neu'n lleihau'r risg o drais, a'r ffactorau y gellid eu haddasu drwy ymyriadau.
  • Ymchwilio i'r hyn sy'n gweithio drwy ddylunio ymyriadau, eu rhoi ar waith a'u gwerthuso.
  • Rhoi ymyriadau effeithiol ac addawol ar waith mewn amrywiaeth eang o leoliadau, gan gynnwys monitro'r effeithiau ar ffactorau risg a chanlyniadau.

Mae Cynghrair Atal Trais Sefydliad Iechyd y Byd yn disgrifio ‘fframwaith ecolegol’ sy'n cynrychioli'r cydadwaith rhwng ffactorau'n ymwneud ag unigolyn, cydberthynas, cymuned a chymdeithas sy'n rhyngweithio i bennu'r risg o drais. Wrth gyflawni'r strategaeth hon, rydym yn disgwyl i bob penderfyniad gael ei lywio gan ddealltwriaeth o'r model hwn ac ymdrechu i sicrhau bod ymyriadau unigol yn cael yr effaith fwyaf bosibl ar y fframwaith.

Bydd atal yn rhan greiddiol o'r strategaeth. Er bod cefnogaeth i oroeswyr a newid system er mwyn gwella canlyniadau i oroeswyr yn dal i fod yn arfau pwysig, rydym am symud y pwyslais oddi ar y symptomau a chanolbwyntio ar yr achos drwy ddull iechyd y cyhoedd. Nid yw hyn yn golygu y bydd goroeswyr yn cael, nac y dylent ddisgwyl cael llai o'r dull gweithredu hwn. Mae hyn yn ymwneud ag ehangu effaith yr hyn a wnawn er mwyn sicrhau y caiff goroeswyr eu cefnogi'n gyfannol fel unigolion, a bod effaith ehangach ar y gymdeithas sy'n lleihau'r tebygolrwydd y byddant yn profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn y lle cyntaf. Yn y cyd-destun hwn, mae ‘atal’ yn derm mantell sy'n golygu bod trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a'r niwed y mae'n ei achosi yn cael eu hatal dros y sbectrwm, gan gynnwys:

  • atal sylfaenol – atal trais cyn iddo ddigwydd
  • atal eilaidd – ymateb i drais i leihau niwed cymaint â phosibl, gwella gwasanaethau ac atal trais pellach
  • atal trydyddol – atal atgwympo a chylchoedd trais sy'n pontio cenedlaethau.

Bydd ein dulliau iechyd y cyhoedd yn codi ymwybyddiaeth rhan eang o'r boblogaeth o fesurau atal ac yn lleihau ac atal trais ar lefel y boblogaeth. Bydd hyn yn golygu y byddwn yn ceisio nodi unigolion a all ddod yn oroeswyr, neu fynd yn gyflawnwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn gynharach, ond byddwn hefyd yn defnyddio ymyriadau ar draws y boblogaeth i ‘ddadnormaleiddio’ trais, rheolaeth drwy orfodaeth ac aflonyddu.   Mae'r strategaeth hon yn mabwysiadu dull cwrs bywyd at drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, sy'n cynnwys plant ac oedolion o bob oed, gan gynnwys pobl hŷn, gan adnabod arwyddion cam-drin drwy gydol camau bywyd unigolyn.

Mae profiadau o gam-drin domestig a thrais rhywiol yn cael eu cydnabod fel profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Mae sylfaen sylweddol o dystiolaeth ar y risgiau i'r rhai sy'n profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a/neu drais rhywiol wrth iddynt dyfu i fyny a'r ffordd y gall y profiad gyfrannu at ganlyniadau iechyd a chymdeithasol negyddol iddynt pan fyddant yn oedolion.  Mae hwn yn wahanol i brofiad oedolion fel dioddefwyr neu gyflawnwyr camdriniaeth, ond mae angen i wasanaethau a chomisiynwyr ddeall yr effaith ar y plentyn a gweithredu i'w lliniaru, ac yna darparu'r gefnogaeth i blant ac oedolion sy'n cydnabod y trawma maent wedi'i brofi.  Er mwyn gwneud hyn, mae angen i sefydliadau sicrhau y gall y bobl sy'n gweithio iddynt, yn ogystal â'r bobl y maent yn eu cefnogi, deimlo'n ddiogel a bod ymddiriedaeth yn cael ei meithrin. Er mwyn gwneud hyn, mae'n rhaid i ni sicrhau bod y rhai sy'n gweithio yn y maes, yn ogystal â goroeswyr, yn cael cefnogaeth gan gymheiriaid a gweithwyr proffesiynol.  Bydd y gwaith rydym yn ei wneud ar y fframwaith trawma cenedlaethol yn cefnogi hyn.

Mae angen inni leihau nifer y profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a brofir gan blant a phobl ifanc, lliniaru eu heffeithiau a deall yr effaith y maent wedi eu cael ar y rhai sydd wedi profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol; gan gynnwys y rhai sydd wedi cyflawni'r gamdriniaeth eu hunain. Mae hyn yn golygu bod angen i'r rhai sy'n darparu gwasanaethau ddeall effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a'r angen i ddarparu gwasanaethau mewn ffordd sydd wedi'i llywio gan drawma, wedi'i harwain gan anghenion ac yn seiliedig ar gryfderau. Dylai dealltwriaeth o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac ymateb mewn ffordd sydd wedi'i llywio gan drawma, felly, lywio prosesau dylunio, comisiynu a gwerthuso er mwyn sicrhau canlyniadau llwyddiannus.

Cydweithio a chydgynhyrchu

Yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, rydym wedi mabwysiadu dull cydweithredol wrth ddatblygu'r strategaeth hon. Wrth roi'r strategaeth hon ar waith, byddwn yn parhau i gydweithredu yn ogystal â chynnwys yr holl randdeiliaid. Bydd atebion gwasanaeth yn cael eu cydgynhyrchu lle bynnag y bo'n bosibl, gan adeiladu ar gryfderau goroeswyr a chyflawnwyr, a bydd cyfranogiad yn allweddol i ddyluniad ein strwythur llywodraethu glasbrint.

Beth yw ein blaenoriaethau uniongyrchol?

Ein cynllun cyflawni

Mae'r strategaeth a nodir uchod yn rhoi ymdeimlad clir o gyfeiriad, a'r Glasbrint yw ein cynllun gweithredu a'n strwythur ar gyfer cyflawni. Fodd bynnag, mae pethau allweddol y gellir eu cyflawni o'r cychwyn a gallwn ymrwymo i'r rheini nawr:

  • Sefydlu Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol a'r strwythur llywodraethu oddi tano.
  • Creu ‘storfa ganolog o wybodaeth’ ar ffurf corff wedi'i staffio i gydgysylltu a lledaenu gwybodaeth am drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a'r hyn sy'n gweithio ac i lywio ymchwil yn y dyfodol.   Bydd y Storfa hon yn ceisio cydgysylltu a dwyn ynghyd y gwaith ymchwil a gwerthuso sy'n cael ei wneud gan bob parti perthnasol er mwyn sicrhau bod y sylfaen dystiolaeth sydd ar gael i lywio penderfyniadau, gan gynnwys penderfyniadau comisiynu, yn fwy cynhwysfawr. Bydd yn cydgysylltu'r data ansoddol a meintiol er mwyn llywio dealltwriaeth o amlder, angen ac effaith sy'n hanfodol i sicrhau'r ddealltwriaeth orau o gymhlethdodau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a chyflwyno hyn yn y ffordd fwyaf defnyddiadwy, mesur llwyddiant a llywio'r hyn rydym yn ei wneud. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sefydlu Uned Gwahaniaethau ar sail Hil, Uned Gwahaniaethau ar sail Anabledd ac Uned Data Cydraddoldeb a fydd yn canolbwyntio ar ddarparu tystiolaeth i gefnogi'r gwaith o lunio polisïau a mynd i'r afael â bylchau mewn data. Bydd y storfa ganolog yn gweithio ochr yn ochr â'r unedau hyn ac yn eu hategu.
  • Adolygu a mireinio rôl Byrddau Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Rhanbarthol er mwyn sicrhau atebolrwydd i'r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol, gweithgarwch ymgysylltu gan bartneriaid ar lefel uchel, cydberthnasau cydlynol â strwythurau rhanbarthol eraill ac eglurder o ran y gydberthynas â gwasanaethau cynllunio a chomisiynu lleol.
  • Datblygu ymgyrch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd er mwyn mynd i'r afael ag aflonyddu ar y stryd a datblygu dull gweithredu cyffredin ar gyfer yr Heddlu ac asiantaethau eraill i orfodi deddfwriaeth bresennol sy'n berthnasol i aflonyddu ar y stryd.
  • Gweithio gyda'r Undebau Llafur a Chynghorau Gweithluoedd a Chynghorau Partneriaethau Cymdeithasol i ddatblygu dull gweithredu cyffredin i leihau nifer yr achosion o aflonyddu yn y gweithle.
  • Newid diben Grŵp Comisiynu Cynghorwyr Cenedlaethol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol er mwyn ffurfio is-grŵp y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol a sefydlu fframwaith cydweithredu ac atebolrwydd newydd sy'n nodi'r cydberthnasau rhwng y Bwrdd Cenedlaethol, strwythurau Rhanbarthol a Lleol a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol er mwyn sicrhau bod gwaith cynllunio a chomisiynu yn cyflawni yn erbyn y fframwaith cenedlaethol ac yn darparu gwasanaethau cynaliadwy o safon.
  • Datblygu model ar gyfer gweithgarwch ymgysylltu lleol a rhanbarthol er mwyn llywio gwaith cynllunio a chomisiynu.
  • Sefydlu ‘pecyn cymorth ar gyfer gweithgarwch ymgysylltu’ i ddarparu dull unffurf a all lywio gwelliant ar draws pob parti sy'n ymrwymo i'r strategaeth.
  • Sefydlu fframwaith safonau er mwyn nodi hanfodion gwasanaeth a gynigir ar gyfer gwasanaethau a gomisiynir, a llywio ansawdd a chynaliadwyedd y gwasanaethau a ddarperir sy'n cynnwys materion croestoriadol ac sy'n gyson â'r model cymdeithasol o anabledd hefyd. 
  • Datblygu deunyddiau hyfforddi ac addysgol sy'n addas i ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus er mwyn helpu i hyrwyddo cydberthnasau iach drwy'r gwasanaethau a ddarperir ganddynt. 
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu'r Dangosyddion Cenedlaethol er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu'r strategaeth hon a bod modd eu defnyddio i fesur ein cynnydd wrth gyflawni ein nodau a'n hamcanion.
  • Parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a phartneriaid eraill i ddod o hyd i atebion priodol i ddiwallu anghenion goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol nad oes ganddynt unrhyw ffordd o gael gafael ar arian cyhoeddus oherwydd eu statws mewnfudo, yn unol â Chynllun Gweithredu Cenedl Noddfa Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am gwmpas a chyd-destun y strategaeth hon, gweler Atodiad A.

Atodiad A: cwmpas a chyd-destun

Cwmpas y strategaeth hon

Rydym yn cydnabod bod achosion o gamddefnyddio pŵer yn fwy cyffredin ymhlith cyflawnwyr sy'n ddynion o achos ac o ganlyniad i anghydraddoldebau cymdeithasol rhwng dynion a menywod a'r pŵer sydd gan ddynion yn aml oherwydd bioleg a normau cymdeithasol hirhoedlog.  Rydym hefyd yn cydnabod mai menywod yn bennaf yw'r dioddefwyr a'r goroeswyr, a bod pob math o drais a chamdriniaeth yn effeithio'n anghymesur ar fenywod. Mae'n digwydd i fenywod am eu bod yn fenywod. Nid yw hyn gyfystyr â dweud na all dynion fod yn destun achosion o gamddefnyddio pŵer. Gall menywod fod yn gyflawnwyr weithiau.    Nid yw'n gwadu ychwaith fod llawer o ffurfiau ar hunaniaeth rhywedd, a'r gamdriniaeth sy'n diffinio cwmpas y strategaeth hon, nid rhywedd y cyflawnwr neu'r goroeswr.

Fodd bynnag, er bod yr ymateb i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn gyffredin i bawb yn hyn o beth, mae'n bwysig cydnabod bod cyfran sylweddol o'r broblem rydym yn ceisio'i datrys yn ymwneud yn benodol ag un rhyw, a'i bod wedi'i diffinio gan drais a chamdriniaeth gan ddynion. I'r graddau hyn, mae'r strategaeth hon yn seiliedig ar y ddealltwriaeth honno ar sail rhyw, o ran y cymorth a ddarperir i oroeswyr a'r her a'r cymorth a gynigir i gyflawnwyr. Mae'r strategaeth hon yn cwmpasu dioddefwyr sy'n ddynion a chyflawnwyr sy'n fenywod, ond mae ganddi bwrpas clir hefyd wrth newid agweddau at drais gan ddynion, a hynny ar gyfer unigolion ac mewn cymdeithas yn ehangach, fel rhan allweddol o'n huchelgais ar gyfer sicrhau dim trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig na thrais rhywiol.

Mae cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol wedi bod yn ffocws canolog i bob Llywodraeth Cymru ers dechrau'r broses ddatganoli. Mae'r llywodraeth hon yn fwy penderfynol nag erioed i greu Cymru fwy teg a chyfartal, a bydd yn canolbwyntio ar wneud hynny. Fel rhan o'r daith honno, cyhoeddwyd adroddiad ymchwil yn ddiweddar ar gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Mae'r Rhaglen Lywodraethu bresennol hefyd yn cynnwys ymrwymiad i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yng nghyfraith Cymru. Mae gweinyddiaethau blaenorol wedi nodi eu hymrwymiad hwy i Gonfensiwn Istanbwl hefyd.  Mae'r Strategaeth hon yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i egwyddorion y Confensiwn hwn drwy nodi rhagor o fesurau sy'n uniongyrchol berthnasol i ddarpariaethau'r Confensiwn.

Mae dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gydymffurfio â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol wrth arfer eu swyddogaethau, yn yr un modd â phob awdurdod cyhoeddus arall. Mae Gweinidogion Cymru hefyd yn cefnogi egwyddorion Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig. Mae hyn yn cynnwys nod 5 – Cyflawni Cydraddoldeb Rhywiol a grymuso pob menyw a merch sy'n cynnwys targed yn ymwneud â thrais yn erbyn menywod a merched.

Mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn nodi'n glir y gall plant brofi'r math hwn o drais hefyd.  Mae'n bwysig bod hyn yn cael ei gydnabod wrth ddeall cwmpas y strategaeth hon.

Mae dyletswydd ar Weinidogion Cymru hefyd i roi sylw i ofynion Rhan I o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Mae'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, y Strategaeth hon a'n rhaglen bolisi ehangach yn cefnogi dioddefwyr ac yn cydnabod bod trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn effeithio ar blant a phobl ifanc. Mae'r camau gweithredu a'r egwyddorion sydd wedi'u cynnwys yn y Strategaeth hon wedi'u nodi a'u datblygu yn ysbryd egwyddorion yr holl offerynnau rhyngwladol hyn a, lle y bo'n bosibl, i ymgorffori'r egwyddorion hynny ymhellach yn y mesurau a fabwysiadwyd yng Nghymru i drechu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae hefyd yn bwysig cydnabod bod gan blant a phobl ifanc yr hawl i fod yn ddiogel o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a'r canllawiau a'r cyngor ymarferol cysylltiedig.

Y Cyd-destun Cymreig

Mae mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn trawsdorri swyddogaethau datganoledig ac annatganoledig, a cheir cyd-destunau deddfwriaethol yng Nghymru yn ogystal ag ar lefel y DU. Mae dyletswyddau statudol yn berthnasol i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol a byrddau iechyd Cymru sy'n deillio o ddeddfwriaeth Cymru, yn benodol Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.  Mae cyrff eraill, fel partneriaid cyflawni yn y trydydd sector a gwasanaethau arbenigol, hefyd yn atebol am eu cyfraniad hwy, drwy drefniadau comisiynu.

Dyma elfennau allweddol o'r cyd-destun deddfwriaethol sy'n effeithio ar yr amcanion a'r camau gweithredu a nodir yn y Strategaeth hon:  

  • Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn nodi saith nod llesiant sy'n berthnasol i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a chefnogi goroeswyr, gan gynnwys Cymru gyfartal, Cymru iach a Chymru o gymunedau cydlynus. Mae'n rhaid i gyrff perthnasol sector cyhoeddus Cymru weithredu i gyflawni'r nodau hyn.
  • Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn darparu fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwella llesiant pobl (oedolion a phlant) y mae angen gofal a chymorth arnynt, gofalwyr y mae angen cymorth arnynt, ac ar gyfer trawsnewid gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Mae angen asesiadau o anghenion y boblogaeth leol er mwyn llywio'r gwaith o ddatblygu strategaethau lleol. Mae Rhan 7 o'r Ddeddf a chanllawiau cysylltiedig yn cefnogi fframwaith diogelu cadarn i amddiffyn plant ac oedolion sy'n wynebu risg o niwed, esgeulustod neu gamdriniaeth.
  • Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn nodi mewn deddfwriaeth rôl yr awdurdod lleol wrth atal a lliniaru digartrefedd. Mae'r Ddeddf hon yn nodi, os yw unigolyn neu aelod o aelwyd yr unigolyn hwnnw yn wynebu risg o gael ei gam-drin, gan gynnwys cam-drin domestig, fod hynny'n ffactor sy'n pennu a yw'n rhesymol iddo barhau i feddiannu llety.
  • Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn nodi trefniadau newydd ar gyfer contractau ar y cyd a fydd yn helpu goroeswyr drwy ei gwneud yn bosibl i dargedu camau troi allan at gyflawnwyr.

Cysylltiadau polisi

Mae cyflawni ein gweledigaeth hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gydgysylltu polisi ar draws nifer o feysydd sy'n ymwneud ag achosion ac effeithiau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.  Mae'r rhain yn arbennig o berthnasol i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol;  

Polisi camddefnyddio sylweddau. Gall camddefnyddio sylweddau mewn ffordd niweidiol fod yn sail i amgylchiadau'r rhai sy'n cyflawni trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a'r rhai sy'n ei brofi. Mae sicrhau bod cymorth i gyflawnwyr a goroeswyr yn mynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau gan ddefnyddio dull system gyfan, lle y bo'n berthnasol, yn hanfodol i ganlyniadau llwyddiannus. Mae hyn yn golygu nid yn unig cydgysylltu ar lefel strategol ond hefyd arlwy o wasanaethau cydgysylltiedig.   Caiff y strategaeth hon ei rhoi ar waith ochr yn ochr â'n dull o leihau niwed drwy ein Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau 2019-22.

Gall tai gwael a digartrefedd gyfrannu at achosion o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.  Mae'n rhaid i ddarparu tai dros dro a pharhaol o ansawdd da, yn ogystal â diogelu hawliau tai y rhai sy'n profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, chwarae rhan bwysig yn ein hymateb. Mae hyn yn golygu diwallu anghenion penodol pob grŵp gan gynnwys, er enghraifft, bobl hŷn sydd wedi profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a, lle bynnag y bo'n bosibl, ddisgwyl i'r cyflawnwyr adael y cartref yn hytrach na'r goroeswyr. Caiff y strategaeth hon ei rhoi ar waith ar y cyd â'r “Strategaeth ar gyfer Atal a Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd”.

Ceir amgylchiadau lle y bydd bregusrwydd dioddefwr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn golygu mai mater diogelu sydd dan sylw. Mae'n bwysig bod yr ymateb i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a'r trefniadau diogelu yn ategu ei gilydd. Caiff y strategaeth hon ei rhoi ar waith ar y cyd â “Gweithio Gyda'n Gilydd i Ddiogelu Pobl”.

Mae gan Wasanaethau Cymdeithasol rôl allweddol i'w chwarae wrth gefnogi llawer o bobl a all fod yn oroeswyr neu'n gyflawnwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Caiff y strategaeth hon ei rhoi ar waith ar y cyd â “Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol.” 

Mae Rhan 7 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a chanllawiau statudol cysylltiedig yn cefnogi fframwaith diogelu cadarn ar gyfer amddiffyn plant ac oedolion sy'n wynebu risg o niwed, esgeulustod neu gamdriniaeth. Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru a Chanllawiau Ymarfer Cymru Gyfan yn egluro'r hyn y mae'n ei olygu i ymarfer ar draws asiantaethau ac ar draws Cymru. Mae hyn yn cynnwys niwed yn ymwneud â cham-drin domestig, trais rhywiol, cam-drin plant yn rhywiol, camfanteisio rhywiol, trais ar sail anrhydedd, anffurfio organau cenhedlu benywod a cham-drin pobl hŷn.

Bydd gan addysg, drwy'r cwricwlwm newydd, rôl allweddol i'w chwarae wrth gyfleu'r cysyniad o ‘gydberthnasau iach’.

Mae'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol, y Cynllun Cydraddoldeb Rhwng y Rhywiau, y Cynllun Gweithredu LHDTC+ a fframwaith a chynllun gweithredu Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw'n Annibynnol yn cynnig dull ategol a fydd yn mynd i'r afael ag agweddau croestoriadol ar y gwahaniaethu a wynebir gan oroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Byddwn yn defnyddio'r broses o roi'r cynlluniau hyn ar waith er mwyn cefnogi'r broses o gyflawni'r strategaeth hon drwy sicrhau llinellau atebolrwydd a goruchwyliaeth. Bydd hyn yn sicrhau bod ein dull o ymdrin â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn diwallu anghenion pawb ac yn cyfrannu at gyflawni'r amcanion a nodir yn y cynlluniau hynny.

Cyd-destun y DU

Mae'r Strategaeth hon hefyd yn gweithredu yng nghyd-destun ehangach y DU. Mae llawer o'r partneriaid sy'n ymrwymedig i roi'r strategaeth hon ar waith yn atebol, fel cyrff annatganoledig, i Lywodraeth y DU; mae Heddluoedd, Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi i gyd yn y categori hwn, er enghraifft. Mae sicrhau llwyddiant y strategaeth hon yn dibynnu ar ddeall cyd-destun y DU, cydnabod gwahaniaethau, a datblygu a defnyddio dulliau i osgoi tensiynau, gan gefnogi dull mwy cyson o fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.  Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei Strategaeth ar gyfer Mynd i'r Afael â Thrais yn erbyn Menywod a Merched ac mae'n bwriadu cyhoeddi Strategaeth Cam-drin Domestig ar wahân. Rydym yn ymrwymedig i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau y bydd y fframwaith deddfwriaethol, gweinyddol a chyllidol, fel y mae'n effeithio ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, yn cefnogi'r hyn rydym yn ceisio'i gyflawni yng Nghymru ac y bydd Cymru'n gwneud cyfraniad cadarnhaol at fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ledled y DU. Bydd hyn yn cynnwys parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddiwallu anghenion goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol nad ydynt yn gallu cael gafael ar arian cyhoeddus. 

Mae amrywiaeth o ddeddfwriaeth y DU, yn enwedig mewn perthynas â throseddau, yn effeithio ar yr amgylchedd y caiff y strategaeth hon ei rhoi ar waith ynddo yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys: Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015, Deddf Troseddau a Diogelwch 2010, Deddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod 2003 a Deddf Troseddau Difrifol 2015. Deddf Cam-drin Domestig 2021 yw'r ychwanegiad mwyaf diweddar i hyn ac mae ei darpariaethau'n cynnwys datblygiadau pwysig ar faterion fel mynd i'r afael â rheolaeth drwy orfodaeth, llindagu nad yw'n angheuol, a threfniadau Llys Teulu. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod y Ddeddf yn cael ei rhoi ar waith yn llwyddiannus. Mae'r Ddeddf hefyd yn creu swydd Comisiynydd Cam-drin Domestig. Er nad oes gan y Comisiynydd awdurdodaeth dros faterion datganoledig, bydd awdurdodau cyhoeddus Cymru yn cydweithio â'r Comisiynydd i ddatblygu'r agenda a rennir er mwyn ysgogi gwelliannau. 

Yn ogystal, gall y system lles a budd-daliadau effeithio'n gryf ar allu goroeswyr i gynnal neu ddatblygu annibyniaeth ariannol a byddwn yn parhau i wthio am drefniadau sy'n cydnabod yr effaith hon.

Y Cyd-destun Byd-eang

Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn broblem fyd-eang. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi egwyddorion Confensiwn Cyngor Ewrop ar atal a threchu trais yn erbyn menywod a thrais domestig (‘Confensiwn Istanbwl’), ac mae'r DU yn un o lofnodwyr y confensiwn. Mae'n nodi'r safonau gofynnol i atal trais yn erbyn menywod, amddiffyn dioddefwyr ac erlyn cyflawnwyr. Drwy gyflawni'r strategaeth hon, rydym yn bwriadu gwella'r safonau gofynnol hyn yn ogystal â chyfrannu ar ran Cymru at yr her fyd-eang o fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Atodiad B: Datganiad y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Trais yn erbyn Menywod

Mae Datganiad y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Trais yn erbyn Menywod yn diffinio trais yn erbyn menywod fel a ganlyn: 

  • pob gweithred o drais ar sail rhywedd sy’n arwain at, neu sy’n debyg o arwain at, ddioddefaint neu niwed corfforol, rhywiol, seicolegol neu economaidd i fenywod, gan gynnwys bygythiadau o weithredoedd o’r fath, gorfodaeth neu golli rhyddid mympwyol, boed yn digwydd mewn bywyd preifat neu gyhoeddus.
  • Mae hyn yn cynnwys, ymysg pethau eraill:
    • Trais corfforol, rhywiol a seicolegol sy’n digwydd yn y teulu, gan gynnwys curo, cam-drin plant benywaidd yn rhywiol yn y cartref, trais yn ymwneud â gwaddol, trais o fewn priodas, anffurfio organau cenhedlu benywod ac arferion traddodiadol eraill sy’n niweidiol i fenywod, trais gan rywun ac eithrio’r priod a thrais yn ymwneud â chamfanteisio
    • Trais corfforol, rhywiol a seicolegol sy’n digwydd o fewn y gymuned yn gyffredinol, gan gynnwys trais, cam-drin rhywiol, aflonyddu rhywiol a bygwth yn y gwaith, mewn sefydliadau addysgol ac mewn mannau eraill, masnachu mewn menywod a phuteinio gorfodol
    • Trais corfforol, rhywiol a seicolegol sy’n cael ei gyflawni neu ei oddef gan y Wladwriaeth, ble bynnag y bo’n digwydd.

Dylid ystyried bod unrhyw gyfeiriadau yn y strategaeth at “drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol” neu “drais a cham-drin” yn cwmpasu pob math o drais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Er ei bod yn bwysig bod y strategaeth hon yn cydnabod ac yn cyfleu profiad anghymesur menywod a merched, nid yw hyn yn negyddu'r trais na'r gamdriniaeth a gyfeirir at ddynion a bechgyn neu a gyflawnir gan fenywod. Mae'r strategaeth hon yn cydnabod bod unrhyw un (menywod, dynion, pobl hŷn, plant a phobl ifanc) yn gallu profi a chael ei effeithio gan drais yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol ac y gall hyn ddigwydd mewn unrhyw gydberthynas ni waeth beth fo rhyw, oedran, ethnigrwydd, rhywedd, rhywioldeb, anabledd, crefydd neu gred, incwm, daearyddiaeth na ffordd o fyw yr unigolyn.