Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Mae prentisiaethau yng Nghymru yn ffordd o ennill cyflog a gweithio ochr yn ochr â staff profiadol er mwyn dysgu’r sgiliau penodol sy’n berthnasol i’r gwaith hwnnw.
Bydd y prentis hefyd yn cael hyfforddiant gan ddarparwr hyfforddiant sy’n rhan o’r bartneriaeth, a bydd yn gweithio tuag at ennill cymwysterau sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol.
Y prentis
Caiff unrhyw un dros 16 oed nad yw mewn addysg amser llawn, ac sy’n byw yng Nghymru, wneud cais i fod yn brentis. Mae prentisiaeth yn gyfle i ddysgu sgiliau ac ennill gwybodaeth sy’n benodol i waith arbennig, yn ogystal ag ennill cymwysterau proffesiynol. Byddwch yn gweithio tuag at ennill cymhwyster seiliedig ar waith ar Lefel 2 o leiaf o dan y Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru.
Byddwch yn gwneud gwaith go iawn i gyflogwr go iawn, a byddwch yn cael targedau i’w cyflawni. Bob hyn a hyn, bydd rhywun yn cysylltu i wneud yn siŵr eich bod yn datblygu yn eich gwaith ac yn cael digon o gefnogaeth gan eich cyflogwr.
Byddwch yn cael cyflog rheolaidd, gwyliau gyda thâl a’r un buddion â gweithwyr eraill. Bydd eich cyflog yn cynyddu wrth i’ch sgiliau ddatblygu. Mae’n bosibl y cewch arian ychwanegol i brynu llyfrau hanfodol, dillad neu offer, neu gymorth i’ch helpu gydag anabledd.
I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais am brentisiaeth, ewch i adran Beth yw Prentisiaeth? (dolen allanol) ar wefan Gyrfa Cymru.
Y cyflogwr
Mae unrhyw fusnes yng Nghymru, waeth beth yw ei faint neu ei sector, yn cael recriwtio prentis drwy’r Rhaglen Prentisiaethau. Caiff unigolion o bob oed ymgymryd â phrentisiaeth, felly cewch gyflogi rhywun sy’n dechrau yn ei swydd gyntaf, neu hyfforddi rhywun sydd eisoes yn gweithio ichi. Mae cymorth ar gael tuag at y costau hyfforddi ac asesu.
Mae pob prentisiaeth yn cynnwys:
cymhwyster sgiliau priodol hyd at o leiaf Lefel 2 o dan y Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru
cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru, ee cyfathrebu, cymhwyso rhif a’r dewis o wneud Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
cymwysterau neu ofynion eraill fel sy’n briodol ar gyfer y gwaith dan sylw.
Chi’r cyflogwr fydd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o’r hyfforddiant, er y byddwch yn gweithio gyda darparwr hyfforddiant cymeradwy a fydd yn rheoli’r rhaglen hyfforddi ac asesu a ddilynir gan y prentis.
I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i’r adran Prentisiaethau (dolen allanol) ar wefan Busnes Cymru neu i gofrestru eich diddordeb mewn prentisiaethau, gallwch gwblhau ein ffurflen Datganiad o Ddiddordeb.
Fel arall, gallwch gysylltu â Darparwr Hyfforddiant dan gontract all ddarparu fframwaith Prentisiaethau yn eich ardal – gweler isod am ragor o wybodaeth.
Treth gyflogaeth gan Lywodraeth y DU yw’r Ardoll Prentisiaethau, am ragor o wybodaeth ewch i Busnes Cymru.
Rhaglen Cymehlliant i Gyflogwyr i Gynnal Prentisiaethau
Bydd y Rhaglen Cymhelliant i Gyflogwyr I Gynnal Prentisiaethau yn rhoi cymorth i fusnesau bach a chanolig eu maint i recriwtio prentisiaid 16-19 oed, ac yn helpu unigolion a chyflogwyr i gael y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y tymor hir er mwyn atal prinder sgiliau.
Dim ond ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint sydd yn newydd i fyd prentisiaethau neu nad ydynt,wedi recriwtio prentis ers 30 mis y mae’r cymhelliant hwn ar gael. Cynigir cymorth ar gyfer hyd at tri prentis i bob cyflogwr a beth bynnag fo lefel y brentisiaeth. Y Rhaglen Cymehlliant i Gyflogwyr i Gynnal Prentisiaethau cynigir taliad o £3,500 ar gyfer pob prentis sy’n cael ei recriwtio yn ystod y cyfnod Gorffennaf-Medi ac Ionawr-Mawrth a thaliad o £2,500 (ar gyfer pob prentis) sy’n cael ei recriwtio ar adegau eraill o’r flwyddyn. Caiff y taliad olaf ei wneud ar ôl i’r prentis fod mewn cyflogaeth ers 8 mis.
Mae’r Rhaglen Prentisiaethau’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.