Canllawiau ar fframweithiau a llwybrau prentisiaethau gan gynnwys cymwysterau, gwerthoedd ariannu a datblygiad.
Cynnwys
Beth ydyn nhw?
Yng Nghymru, bydd prentis yn dilyn Fframwaith Prentisiaeth Gymreig gymeradwy. Maent yn sicrhau bod gan brentis yr wybodaeth, y sgiliau a'r cymwysterau perthnasol.
Ceir fframweithiau mewn 23 o sectorau. Mae pob fframwaith yn darparu'r llwybrau sydd ar gael ac yn cynnwys y canlynol:
- y gofynion mynediad (yr hyn fydd ei angen arnoch i ddechrau prentisiaeth mewn maes penodol)
- y lefelau sydd ar gael yn y sector a'r opsiynau i symud ymlaen
- enghreifftiau o swyddi
- y cymwysterau fyddwch yn eu cael ar ôl cwblhau prentisiaeth yn llwyddiannus
- yr amser y bydd yn ei gymryd ar gyfartaledd i gwblhau prentisiaeth, yn ôl lefel
- unrhyw ddysgu ychwanegol i gefnogi'r brentisiaeth
Llwybrau prentisiaeth
Mae llwybrau yn opsiynau sydd ar gael o fewn fframwaith prentisiaeth ac maent yn seiliedig ar alwedigaethau neu swyddi penodol. Maent yn cynnig opsiynau i'r prentis ar gyfer ei ddewisiadau gyrfa.
Mae ein crynodebau o'r fframweithiau'n amlinellu prif elfennau fframwaith.
Rhaid i bob fframwaith prentisiaeth fodloni'r gofynion statudol a nodir ym Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru.
Cymwysterau
Mae ein fframweithiau prentisiaethau'n cynnwys:
Cymhwysterau | Manylion |
---|---|
Cymhwyster cymwyseddau galwedigaethol | Mae hwn yn asesu'r sgiliau sy’n ofynnol i wneud y swydd. Mae'n berthnasol i'r maes neu’r alwedigaeth a ddewiswyd. |
Cymhwyster gwybodaeth dechnegol | Mae hwn yn asesu'r theori a'r wybodaeth sy’n ofynnol ar gyfer y swydd. Mae'n benodol i'r sgil, masnach neu alwedigaeth. |
Cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru | Mae hwn yn cynnwys:
Sylwer, efallai na fydd hyn yn berthnasol i bob fframwaith. |
Cymwysterau neu ofynion eraill | Fel y’i pennwyd ar gyfer yr alwedigaeth benodol. |
Caiff cymwysterau prentisiaeth eu rheoleiddio gan Cymwysterau Cymru.
Mae pob cymhwyster:
- yn rhan o Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru
- yn cael credyd (dyfernir 1 credyd ar gyfer pob 10 awr o amser dysgu tybiannol)
Gall Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru eich helpu i ddeall a chymharu cymwysterau.
Mae cymwysterau prentisiaethau hefyd yn dilyn Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (GOV.UK, Saesneg yn unig).
Gwerthoedd cyllid fframwaith
Mae gan bob un o'r fframweithiau prentisiaethau a gyhoeddir werth. Mae'r gost yn seiliedig ar nifer y credydau sydd eu hangen i ddarparu a chyflawni'r hyfforddiant. Gallai'r gwerthoedd newid oherwydd natur ein trefniadau contractio.
Mae cyfrifo gwerth prentisiaeth yn eich galluogi i:
- weld gwerth eich elw ar eich buddsoddiad fel talwr yr Ardoll Brentisiaethau
- weld gwerth yr hyfforddiant a roddwyd drwy brentisiaeth
Datblygu fframweithiau
Rhaid i fframweithiau prentisiaethau ddiwallu anghenion yr economi, diwydiant neu'r sector sgiliau.
Mae gwaith datblygu'n cynnwys:
- newid ac adolygu fframweithiau neu lwybrau cyfredol
- creu llwybr prentisiaeth newydd
Wrth adolygu prentisiaeth neu ddatblygu prentisiaeth newydd, rhaid ystyried a chynnwys y canlynol:
- gwybodaeth a gyhoeddwyd yng nghynlluniau'r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol
- ymgysylltu â rhanddeiliad a diwydiant
- y cymhwyster/cymwysterau perthnasol
- y galw a'r angen ymhlith cyflogwyr
- sut mae'n cyd-fynd â'n polisi prentisiaethau ni
Mae'r broses o ddatblygu fframwaith yn cynnwys 4 cam:
- llunio cynllun prosiect
- ymgynghori â rhanddeiliaid (gan gynnwys cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant) i lunio adroddiad tystiolaeth
- creu fframwaith drafft er mwyn sicrhau ei ansawdd
- llunio fframwaith terfynol i'w gyflwyno i'r awdurdod dyroddi
Caiff pob fframwaith ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru mewn ymgynghoriad â Bwrdd Cynghori ar Brentisiaethau Cymru.
Defnyddiwch ein ffurflen diwygio fframwaith er mwyn gofyn am newidiadau i fframwaith sydd eisoes yn bodoli.
Awdurdod dyroddi fframwaith prentisiaeth
Nid yw'r awdurdod dyroddi ar gyfer fframweithiau prentisiaethau. Golyga hyn ein bod yn sicrhau ansawdd fframweithiau prentisiaethau ac yn eu cymeradwyo a'u cyhoeddi.
Yr awdurdod dyroddi sy'n darparu'r mesur ansawdd terfynol i:
- brofi cydymffurfiaeth â Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru
- cadarnhau argymhelliad y Bwrdd Cynghori ar Brentisiaethau Cymru
- cyhoeddi'r fframweithiau
Awdurdod Ardystio Cymru
Pan fydd prentis yn cwblhau ei brentisiaeth, bydd yn cael tystysgrif. Caiff y dystysgrif ei roi gan Ffederasiwn Sgiliau a Safonau’r Sector Diwydiant (FISS).
Rydym yn talu'r Ffederasiwn am bob tystysgrif a roddir.