Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair y gweinidog

Rwy’n falch o fod yn aelod o Lywodraeth i Gymru sydd bob amser wedi rhoi plant a hawliau plant wrth wraidd popeth a wna. Bu trechu tlodi plant yn flaenoriaeth i bob Gweinidog yn y llywodraeth hon, ac erys yn flaenoriaeth.

Mae Strategaeth Tlodi Plant Llywodraeth Cymru yn nodi amcanion ar gyfer trechu tlodi plant. Mae’n hollbwysig ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar yr hyn y gwyddom ei fod yn llwyddo wrth drechu tlodi a buddsoddi yn hynny drwy ddefnyddio’r ysgogiadau sydd ar gael inni. Mae hyn yn cynnwys parhau i atgyfnerthu teuluoedd a chymunedau drwy ein rhaglenni ymyrryd yn gynnar ac atal, Dechrau’n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf, datblygu system Gofal ac Addysg Plant yn y Blynyddoedd Cynnar, gan wella cyflogadwyedd a chreu gwaith teg, diogel, gan gynnwys hyrwyddo Cyflog Byw Cymru.

Gwnaeth ein Rhaglen Lywodraethu ymrwymiad i ail-lunio rhaglenni sydd eisoes yn cael eu hariannu er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf posibl ar fywydau plant sy’n byw mewn tlodi. Er mwyn cefnogi’r ymrwymiad hwn, rydym wedi parhau i adolygu beth yn rhagor y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i leihau costau i deuluoedd, rhoi hwb i incymau a sicrhau bod y buddsoddiad mewn rhaglenni a gwasanaethau sy’n cyfrannu at drechu tlodi yn gwella canlyniadau i blant a phobl ifanc, yn y byrdymor ac yn yr hirdymor.  

Ni fu adeg mor bwysig â hyn erioed i wneud popeth o fewn ein gallu yn ymarferol i liniaru effeithiau tlodi. Mae tlodi plant yn annerbyniol ac mae’r lefelau yng Nghymru yn ystyfnig o uchel. Mae ein data diweddaraf yn dangos inni fod bron un o bob tri phlentyn (28%) yn byw mewn tlodi incwm cymharol ar hyn o bryd (ar ôl costau tai). Ym mis Mawrth 2018, nododd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y byddai diwygiadau treth a lles Llywodraeth y DU yn rhoi 50,000 yn ychwanegol o blant yng Nghymru mewn tlodi erbyn 2021-22. Bydd argyfwng y Coronafeirws yn gwaethygu’r sefyllfa hon. Ar hyn o bryd, nid oes modd dweud pa mor fawr fydd yr effaith ond, mae dadansoddiad cychwynnol yn rhagweld y bydd 200,000 yn fwy o blant o bosibl yn byw o dan y llinell dlodi erbyn diwedd 2020.

Rydym yn gwerthfawrogi cyfraniad rhanddeiliaid a phartneriaid at ein gwaith ar dlodi. Mae’r cynllun gweithredu sy’n dilyn yn adlewyrchu’r cyfraniad hwnnw ac, o ystyried y pwysau ariannol mawr y mae llawer o deuluoedd yn debygol o’i wynebu o ganlyniad i’r pandemig, rydym am ganolbwyntio ar y pethau y gallwn eu gwneud nawr. Mae’r Gweinidogion wedi cytuno ar gyfres o gamau gweithredu ymarferol y byddwn yn gweithio arnynt dros y chwe mis nesaf er mwyn helpu teuluoedd sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru i wneud o gorau o’u hincwm a rhoi cymorth iddynt feithrin cadernid ariannol. 

Julie James AS

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Amcan 1: Mae teuluoedd yng Nghymru yn cael cymorth i hawlio’r holl gymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo

Camau gweithredu Gweithgareddau a cherrig milltir

1.1 Rhoi strategaeth gyfathrebu ar waith i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r budd-daliadau, y gwasanaethu a’r rhaglenni sydd eisoes ar gael i liniaru tlodi incwm.

Hydref 2020 - Tachwedd 2020

Gweithio gyda’r trydydd sector ac awdurdodau lleol i godi ymwybyddiaeth o’r budd-daliadau a’r mathau eraill o gymorth ariannol sydd ar gael drwy gyfryngau traddodiadol, y cyfryngau cymdeithasol a rhaglenni a rhwydweithiau presennol.

1.2 Cynnal gweithgareddau wedi’u targedu i godi ymwybyddiaeth o’r budd-daliadau y gellir eu hawlio, annog pobl i’w hawlio a hwyluso newid mewn ymddygiad yn y tymor hwy ymhlith y grwpiau sy’n lleiaf tebygol o hawlio’r cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo. 

Hydref 2020 - Mawrth 2021

Darparu cyllid ar gyfer chwe phrosiect peilot ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth o’r budd-daliadau y gellir eu hawlio a helpu pobl i gynyddu eu hincwm ymhlith grwpiau penodol â blaenoriaeth, gan gynnwys:

  • aelwydydd BAME;
  • teuluoedd sydd â phlant anabl/oedolyn/oedolion anabl;
  • pobl sy’n profi cam-drin domestig
  • aelwydydd incwm isel
1.3 Paratoi a darparu pecynnau gwybodaeth â ffocws penodol a hyfforddiant codi ymwybyddiaeth i weithwyr rheng flaen a chyfryngwyr dibynadwy sy’n helpu plant a theuluoedd sy’n byw mewn tlodi.

Hydref 2020 - Mawrth 2021

Comisiynu darparwr allanol i ddatblygu a darparu pecynnau gwybodaeth a hyfforddiant ar gyfer gweithwyr rheng flaen (gan gynnwys gweithwyr cymorth i deuluoedd; gweithwyr cymorth tai; arweinwyr cymunedol; timau iechyd cymunedol) i’w galluogi i roi cymorth i deuluoedd sy’n byw mewn tlodi i wneud y gorau o’u hincwm.

Bydd gwerthusiad o’r rhaglen yn nodi canran y cyfranogwyr sy’n dweud eu bod yn gwybod mwy am fudd-daliadau lles ac yn gallu helpu defnyddwyr gwasanaethau’n well.

1.4 Cynllun Peilot Ymchwil Weithredol i roi mwy o gyngor a chymorth ynglŷn â budd-daliadau lles drwy fodelau cymorth i deuluoedd sy’n bodoli eisoes, er mwyn eu helpu i wneud y gorau o’u hincwm.

Hydref 2020 – Mawrth 2021

Nodi awdurdod lleol i gymryd rhan yn y cynllun peilot ymchwil weithredol.

Darparu cyllid ar gyfer yr elfen o’r cynllun peilot sy’n ymwneud â hyfforddiant i’w ddyfarnu i awdurdodau lleol a sicrhau darparwyr.

Rhoi hyfforddiant dwys i garfan o weithwyr cymorth mewn awdurdodau lleol dethol.

Monitro a gwerthuso’r ffordd y mae cyfranogwyr yn rhoi eu gwybodaeth a’u sgiliau cynyddol ar waith a’u defnyddio ac olrhain yr effeithiau ar unigolion a theuluoedd.

1.5 Cyflwyno system o ‘drosglwyddo’ rhwng budd-daliadau awdurdodau lleol er mwyn ei gwneud yn haws ac yn gyflymach i bobl wneud cais am gymorth yng Nghymru.

Hydref 2020 – Rhagfyr 2020

Nodi awdurdodau lleol sy’n dangos arferion gorau o ran symleiddio prosesau hawlio. 

Gweithio gyda’r awdurdodau lleol hyn fel ‘arloeswyr’ er mwyn rhannu arferion gorau rhwng grwpiau clwstwr rhanbarthol.

Tachwedd 2020 - Mawrth 2021

Sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen gyda phartneriaid perthnasol er mwyn datgloi a goresgyn unrhyw rwystrau i newid a helpu pob awdurdod lleol i fabwysiadau arferion gorau.

Ionawr 2021 – Mawrth 2021

Gweithio gydag awdurdodau lleol sy’n ‘arloeswyr’ i ddatblygu canllawiau a rhannu adnodd ar-lein ledled Cymru.

1.6 Mabwysiadu dull gweithredu ‘dim drws anghywir’ rhwng rhaglenni a gwasanaethau trechu tlodi, gan gynnwys ‘atgyfeiriadau cynnes’ rhwng gwasanaethau lle y bo modd.

Hydref 2020 – Tachwedd 2020

Cynnal ymarfer mapio i ddeall yn well y ffordd y mae awdurdodau lleol a phartneriaid cyflawni eraill ledled Cymru yn rhoi’r dull ‘dim drws anghywir’ ar waith ar hyn o bryd drwy ddefnyddio ‘pwyntiau mynediad sengl’ a hybiau cymorth cynnar.

Tachwedd 2020 – Rhagfyr 2020

Archwilio’r trefniadau rhannu data presennol o fewn a rhwng asiantaethau gwahanol er mwyn helpu i hwyluso ‘atgyfeiriadau cynnes’ rhwng gwasanaethau.

Rhagfyr 2020 – Mawrth 2021

Datblygu canllawiau ar fabwysiadau ‘pwyntiau mynediad sengl’ i gael cymorth, gan gysylltu asiantaethau allweddol, gwasanaethau a rhaglenni cyflogadwyedd. 

Gan weithio gyda’r trydydd sector, iechyd ac awdurdodau lleol, gweithredu dull ‘dim drws anghywir’ ac ‘atgyfeiriadau cynnes’ rhwng rhaglenni a gwasanaethau cynghori perthnasol yng Nghymru.

1.7 Parhau i weithio gyda phartneriaid er mwyn helpu pob teulu sy’n ceisio lloches yng Nghymru i gael gafael ar y gwasanaethau cymorth a chynghori perthnasol.

Medi 2020 - Chwefror 2021

Rhoi hyfforddiant arbenigol i swyddogion Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol awdurdodau lleol er mwyn iddynt ddeall hawliau ymfudwyr, gan gynnwys y rhai na allant droi at ‘arian cyhoeddus’.

Hydref 2020 - Mawrth 2021

Caffael a chyhoeddi canllawiau arbenigol i awdurdodau lleol er mwyn iddynt ddeall eu cyfrifoldebau a’u llwybrau at gymorth i’r rhai na allant droi at ‘arian cyhoeddus’.

Rhoi argymhellion ar waith i ymestyn a phroffesiynoli atebion lletya i’r rhai nad yw opsiynau tai eraill ar gael iddynt.

Annog awdurdodau lleol i arfer eu disgresiwn i roi prydau ysgol am ddim i blant o deuluoedd na allant droi at ‘arian cyhoeddus’ ac na allant fod yn gymwys fel arall.

Parhau i annog awdurdodau lleol i ddarparu llety i unrhyw un sy’n ddigartref, ni waeth beth fo’i statws mewnfudo.

Dadlau o blaid newidiadau i system Fewnfudo Llywodraeth y DU sy’n lliniaru ac yn atal tlodi ymhlith teuluoedd mudol.

Gwneud gwaith ataliol i annog dinasyddion yr UE i gofrestru i gael Statws Preswylydd Sefydlog, a thrwy hynny osgoi mynd yn rhywun na all droi at ‘arian cyhoeddus’ ar ôl mis Mehefin 2021.

1.8 Rhannu arferion gorau o ran sut mae hybiau cymunedol a lleoliadau eraill yn dwyn mynediad at amrywiaeth o raglenni, gwasanaethau ac asiantaethau ynghyd mewn un man.

Hydref 2020 - Tachwedd 2020

Nodi modelau sy’n cynnig arferion gorau ledled Cymru, gan adeiladu ar yr enghreifftiau o ddarparu gwybodaeth a chyngor mewn lleoliadau cymunedol gwahanol a welir yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Casnewydd, Caerdydd ac Abertawe. 

Tachwedd 2020 – Mawrth 2021

Rhannu dysgu drwy adnoddau ar-lein a rhwydweithiau rhanddeiliaid er mwyn annog mwy o gyrhaeddiad a chyfranogiad mewn digwyddiadau cymunedol.

1.9 Parhau i ymgysylltu â chymunedau drwy rwydweithiau rhanddeiliaid sy’n bodoli eisoes a gweithwyr cymorth rheng flaen er mwyn casglu rhagor o wybodaeth a data am y ffordd y mae’r argyfwng presennol yn effeithio ar deuluoedd sy’n byw mewn tlodi mewn amser real ac ystyried atebion priodol.

Hydref 2020 – Tachwedd 2020

Datblygu rhwydweithiau rhanddeiliaid mewnol ac allanol sy’n bodoli eisoes ymhellach.

Tachwedd 2020 – Mawrth 2021

Sicrhau y caiff yr holl wybodaeth a/neu ddata perthnasol eu cyfleu drwy rwydweithiau rhanddeiliaid a cheisio adborth rheolaidd.

Casglu’r holl wybodaeth a data perthnasol i brofi yn erbyn y camau gweithredu sy’n cael eu cymryd drwy’r Cynllun hwn a llywio’r broses o ddatblygu polisi yn seiliedig ar dystiolaeth yn y maes hwn yn y dyfodol.

Amcan 2: Mae costau anfon plant i’r ysgol yn cael eu gostwng

Camau gweithredu

Gweithgareddau a cherrig milltir
2.1 Mynd i’r afael â rhwystrau i gael prydau ysgol am ddim a’r Grant Datblygu Disgyblion - Mynediad ledled Cymru.

Erbyn mis Rhagfyr 2020

Cynnal adolygiad mewnol mewn camau o ddarpariaeth prydau ysgol am ddim yn ystod pandemig COVID-19, gan nodi gwersi a ddysgwyd ac a oes arferion y gellir eu mabwysiadu yn y tymor hwy. Caiff y cam cyntaf (mis Mawrth i fis Medi 2020) ei gwblhau erbyn diwedd mis Tachwedd 2020. 

Hydref 2020 – Mawrth 2021

Annog awdurdodau lleol i sicrhau bod y prosesau ar gyfer hawlio prydau ysgol am ddim a’r Grant Datblygu Disgyblion - Mynediad mor syml â phosibl (gweler Cam Gweithredu 1.5).

Dadansoddi canlyniadau ymgyrch gyfathrebu Llywodraeth Cymru i hyrwyddo’r Grant Datblygu Disgyblion - Mynediad a dangosyddion hawlio yn ystod mis Hydref.

Ionawr 2021

Penderfynu ar feini prawf cymhwysedd a chymorth i ddarparu’r Grant Datblygu Disgyblion - Mynediad.

2.2 Gweithio gydag awdurdodau lleol i gynnig brecwast am ddim mewn ysgolion i ddisgyblion blwyddyn 7 sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Ionawr 2021

Cyflwyno lwfans brecwast i ddisgyblion blwyddyn 7 sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

2.3 Sicrhau y bydd pob disgybl sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn parhau i gael y ddarpariaeth os bydd yn gwarchod ei hun neu’n gorfod hunanynysu.

Parhaus

Darparwyd £420K at y diben hwn ac mae’r sefyllfa’n cael ei hadolygu’n fanwl.

2.4 Parhau i roi cyllid ychwanegol i ddarparu prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau ysgol.

Hydref - Pasg 2021

Mae £11 miliwn wedi’i glustnodi i awdurdodau lleol roi mesurau ar waith er mwyn sicrhau bod plant sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn parhau i gael budd o’r ddarpariaeth yn ystod gwyliau ysgol hyd at a chan gynnwys Pasg 2021. Dyrannwyd £700K o’r cyllid hwn i gefnogi colegau sydd â darpariaeth gyfatebol i ddysgwyr cymwys.  

2.5 Hyrwyddo’r canllawiau statudol sydd wedi’u diweddaru ar bolisïau gwisg ysgol, gan gynnwys yr angen i gyrff llywodraethu flaenoriaethu cost a fforddiadwyedd.

Parhaus

Cynnal gweithgareddau sy’n hyrwyddo’r canllawiau statudol wedi’u diweddaru ar bolisïau gwisg ysgol, gan gynnwys yr angen i gyrff llywodraethu flaenoriaethu cost a fforddiadwyedd.

2.6 Parhau i ddarparu cyllid er mwyn sicrhau bod cynhyrchion mislif ar gael am ddim mewn ysgolion a cholegau er mwyn gwrthsefyll tlodi mislif.

Ionawr 2021

Cyhoeddi Cynllun Gweithredu Strategol ar Urddas Mislif a fydd yn mynd i’r afael â’r broses o barhau i ddarparu cynhyrchion am ddim a’r stigma a’r tabŵau o hyd ynghylch mislif.

2.7 Parhau i drwyddedu Microsoft tools (Office a Minecraft: Education Edition) yn ganolog ar gyfer pob ysgol a gynhelir yng Nghymru drwy raglen EdTech Hwb. Drwy hyn, caniateir i’r feddalwedd gael ei defnyddio mewn ysgolion, a hefyd i athrawon a dysgwyr ei gosod ar eu dyfeisiau personol gartref.

Parhaus

Darparu meddalwedd i’w defnyddio mewn ysgolion, a hefyd ganiatáu i bob athro a disgybl ei gosod ar eu dyfeisiau personol gartref.

Hyrwydd drwy’r cyfryngau cymdeithasol a llwyfan Hwb, ar y cyd ag ysgolion ac awdurdodau lleol ledled Cymru.

2.8 Sicrhau bod y canllawiau ar Ddull Ysgol Gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl yn cynnwys yr adnoddau sydd ar gael er mwyn helpu i ddeall effaith tlodi. 

Medi 2020 – Rhagfyr 2020

Diwygio’r canllawiau ar y Dull Ysgol Gyfan i gynnwys adnoddau ar effaith tlodi megis ‘Canllawiau Pris Tlodi Disgyblion’ a’r adnodd ‘Check with Ceri’.

2.9 Gweithio gyda chyrff cyhoeddus eraill, gan gynnwys Chwaraeon Cymru, Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, i sicrhau bod gweithgareddau y tu allan i’r ysgol sy’n cyfoethogi bywydau plant mewn tlodi ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal yn cael yr effaith fwyaf posibl.

Hydref 2020 – Rhagfyr 2020

Rhannu adnoddau a ddatblygwyd i ysgolion â chyrff cyhoeddus eraill er mwyn eu helpu i ddeall effaith tlodi ar blant a phobl ifanc yn well.

Amcan 3: Ymdrinnir â chost a hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus i bobl ifanc

Camau gweithredu

Gweithgareddau a cherrig milltir

3.1 Blaenoriaethu mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus a’i fforddiadwyedd i bobl ifanc, yn enwedig pobl ifanc sy’n byw mewn tlodi.

Ionawr 2021

Cynnal ymgyrch gyfathrebu i roi cyhoeddusrwydd i’r mesurau sydd eisoes ar waith ar gyfer teithio ar y rheilffyrdd am ddim i blant o dan 11 oed, a theithiau gostyngol ar y rheilffyrdd i bobl ifanc 18 oed. Bydd y broses o ddatblygu’r ymgyrch yn dibynnu ar gyfyngiadau COVID-19 a phwysigrwydd teithio diogel yn ystod y pandemig fel y maent ym mis Ionawr 2021.

Parhaus

Parhau i dreialu ffyrdd newydd ac arloesol o ddarparu gwasanaethau bws integredig sy’n ymateb i’r galw er mwyn gwella cysylltedd a mynediad at wasanaethau hanfodol, megis addysg ac iechyd, mewn ardaloedd trefol a gwledig. Mae’r cynlluniau peilot ‘Fflecsi’ ar gamau gwahanol yn eu datblygiad mewn ardaloedd gan gynnwys Sir Benfro, Conwy, Blaenau Gwent a Chasnewydd. Bydd canlyniad y cynlluniau peilot yn helpu i lywio manyleb y rhwydwaith fydd ei hangen arnom yn y dyfodol.

Tachwedd 2020

Caiff Strategaeth Drafnidiaeth Cymru ar ffurf ddrafft ei chyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad. Bydd y Strategaeth yn mynd i’r afael â fforddiadwyedd trafnidiaeth gyhoeddus i’r rhai sydd â nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys plant a phobl ifanc.

Awst 2020 - Mawrth 2021

Parhau i weithio ar yr Adolygiad o Deithio gan Ddysgwyr, gan weithio’n agos gyda’r Comisiynydd Plant, Comisiynydd y Gymraeg ac awdurdodau lleol, er mwyn llywio newidiadau posibl i’r Mesur Teithio gan Ddysgwyr.

Hydref 2020 – Mawrth 2021

Gweithio gyda’r Llysgenhadon Cymunedol newydd eu penodi sy’n gwneud gwaith ymgysylltu â chymunedau ynghylch y rheilffyrdd er mwyn datblygu Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol yng Nghymoedd y De, fel bod barn plant a phobl ifanc sy’n byw mewn tlodi yn cael eu hystyried.

Amcan 4: Mae teuluoedd yng Nghymru yn cael cymorth i fod yn ariannol gadarn

Camau gweithredu

Gweithgareddau a cherrig milltir
4.1 Cynyddu’r cyngor a’r cymorth ar ddyled a ddarperir, gan ddefnyddio cyllid yr Ardoll Ariannol ychwanegol a ddyrannwyd yn ddiweddar i Lywodraeth Cymru.

Awst 2020 - Mawrth 2021

Cynyddu adnoddau drwy’r Gronfa Gynghori Sengl er mwyn targedu cyngor ar ddyled a gwasanaethau cymorth cofleidiol at denantiaid y Sector Rhentu Preifat er mwyn sicrhau llwybrau cynaliadwy tuag at ad-dalu dyled.

Parhaus

Sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen o randdeiliaid mewnol ac allanol er mwyn rhagweld goblygiadau ariannol yr argyfwng ac argymell mentrau a pholisïau a fydd yn helpu pobl i gadw at eu hymrwymiadau ariannol yn well.

4.2 Sicrhau bod cynhwysiant ariannol yn parhau’n flaenoriaeth allweddol, gan gynnwys parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau cynghori; camau gweithredu i gynyddu mynediad at gredyd fforddiadwy drwy Undebau Credyd, a gwella addysg ariannol i blant a’u rhieni/gwarcheidwaid

Awst 2020 - Mawrth 2021

Cytunwyd i barhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau cynghori drwy ymestyn cyllid grant ar gyfer y Gronfa Gynghori Sengl tan ddiwedd y flwyddyn ariannol.

Gweithio gyda’r Gwasanaeth Cynghori ar Arian a Phensiynau er mwyn datblygu Cynllun Llesiant Ariannol i Gymru a fydd yn cynnwys camau gweithredu i hyrwyddo mynediad at gredyd fforddiadwy a gwella addysg ariannol i blant a’u rhieni/gwarcheidwaid.

4.3 Cadw’r hyblygrwydd yn y Gronfa Cymorth Dewisol a gyflwynwyd mewn ymateb i effaith COVID-19 ar aelwydydd mewn caledi mawr.

Awst 2020 - Mawrth 2021

Ymestyn yr hyblygrwydd dros dro yn y Gronfa Cymorth Dewisol tan ddiwedd y flwyddyn ariannol er mwyn cefnogi aelwydydd sy’n wynebu mwy o galedi oherwydd COVID-19, gan gynnwys pan fydd oedi cyn cael y taliad Credyd Cynhwysol cyntaf y cytunwyd arno iddynt.

Fel rhan o strategaeth ymadael ar ôl COVID-19 (ar ôl mis Mawrth), penderfynu a ddylid dychwelyd at y sefyllfa cyn COVID-19 o ran hyblygrwydd neu gadw’r trefniadau newydd "yn barhaol".

4.4 Datblygu system atgyfeirio’r Gronfa Cymorth Dewisol at y Gronfa Gynghori Sengl ymhellach er mwyn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i ddiwallu anghenion y rhai sy’n cael cymorth o dan y Gronfa Cymorth Dewisol yn y tymor canolig i’r tymor hwy.

Hydref 2020 - Mawrth 2021

Bydd sefydliad arweiniol y Gronfa Cymorth Dewisol a’r Gronfa Gynghori Sengl yn datblygu’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ac yn cytuno arno, a chaiff y llwybr atgyfeirio ei roi ar waith.

4.5 Cyflwyno cynigion o dan y Strategaeth Tlodi Tanwydd ddiwygiedig yn gynt er mwyn cefnogi aelwydydd yn well, yn enwedig teuluoedd â phlant ifanc, er mwyn arbed arian drwy sicrhau cynigion ynni gwell a manteisio ar fesuryddion deallus.

Ionawr 2021 – Mawrth 2021

Cynnal prosiect peilot i ddatblygu Gwasanaethau Cymorth a Chynghori ar Ynni Domestig. Bydd y prosiect yn cael ei gynnal mewn nifer o ardaloedd peilot dros gyfnod o naw mis. Bydd yn rhoi tystiolaeth ar sut y gall gwasanaethau cymorth a chynghori helpu aelwydydd incwm is ostwng eu biliau tanwydd, gwneud y gorau o’u hincwm, a gwella perfformiad ynni eu cartrefi.

Bydd canlyniad y cynllun peilot yn llywio’r ffordd y gellir darparu gwasanaethau cymorth a chynghori ar effeithlonrwydd ynni ar gyfer aelwydydd incwm is sydd â theuluoedd ifanc yn y dyfodol.

Medi 2020 – Rhagfyr 2020

Ymgynghori ar gynllun tlodi tanwydd drafft 2020-2035. Mae’r cynllun drafft yn amlinellu pedwar nod polisi, targedau a argymhellir i’w cyflawni erbyn 2035 a 10 cam gweithredu yn y byrdymor i’w cwblhau o fewn dwy flynedd.     

Chwefror 2021

Cyhoeddi’r cynllun tlodi tanwydd terfynol.

4.6 Adolygu canllawiau ar ddarpariaeth tariffiau cymdeithasol gan gyflenwyr dŵr yng Nghymru er mwyn rhoi cyngor mwy cytbwys ar fforddiadwyedd ac effeithlonrwydd dŵr.

Hydref 2020 – Mawrth 2021

Comisiynwyd Cyngor Defnyddwyr Cymru i gynnal adolygiad o dariffau cymdeithasol.

Ymateb i’r Coronafeirws

Rydym wedi cefnogi teuluoedd yng Nghymru drwy gydol pandemig y Coronafeirws mewn ymdrech i liniaru effeithiau’r argyfwng ar blant sy’n byw mewn tlodi.  Mae’r buddsoddiad hwn yn cynnwys:

Darparu Prydau Ysgol Am Ddim

  • £40m o gyllid ychwanegol i sicrhau y parheir i ddarparu Prydau Ysgol Am Ddim i ddisgyblion cymwys pan nad oeddent yn gallu mynd i’r ysgol hyd at ddiwedd mis Awst.
  • £1.28m i helpu awdurdodau lleol i dalu costau ychwanegol darparu Prydau Ysgol am Ddim yn ystod pythefnos cyntaf tymor yr hydref pan oedd rhai ysgolion wedi mabwysiadu dull hyblyg o gael disgyblion yn ôl i’r ysgol yn llawn amser.
  • £420,000 i sicrhau bod disgyblion sy’n cael Prydau Ysgol Am Ddim yn parhau i gael y ddarpariaeth os na allant fynd i’r ysgol am fod yn rhaid iddynt yn wirioneddol warchod eu hunain neu hunanynysu.

Gwyliau ysgol

  • £2.6m i helpu awdurdodau lleol i ddarparu gofal plant a chwarae yn ystod haf 2020.

Tlodi Mislif

  • Gwnaeth awdurdodau lleol yn siwr fod ysgolion yn dosbarthu hyd at dri mis o gynhyrchion mislif i ddysgwyr roedd eu hangen arnynt cyn i ysgolion gau ym mis Mawrth. Lle na fu modd gwneud hyn, darparodd ysgolion gynhyrchion ochr yn ochr â darparu Prydau Ysgol am Ddim. Gwnaethom hefyd gynnig hyblygrwydd er mwyn galluogi awdurdodau lleol i ddosbarthu cynhyrchion drwy ddulliau cymunedol.

Dysgu digidol

  • £3m i gefnogi dysgwyr ‘wedi’u hallgáu’n ddigidol’ fel rhan o’n rhaglen ‘Cadw’n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu’. Awdurdodau lleol, gan weithio’n agos gyda’u hysgolion, i ddarparu dyfeisiau ysgol wedi’u hailbwrpasu a chysylltedd MiFi 4G i ddysgwyr sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol lle y bo angen.Hefyd, ariannwyd dyfeisiau cyfnewid i ysgolion o dan y rhaglen seilwaith Hwb ehangach.

Tlodi Bwyd

  • Dros £1 filiwn ar gyfer prosiectau sy’n ymwneud â dosbarthu bwyd i bobl sy’n agored i niwed o dan ein cynllun grant newydd o dan Gronfa Argyfwng y Gwasanaethau Gwirfoddol.
  • Dyrannwyd dros £98,000 i FareShare Cymru i ddatblygu system gynaliadwy i drechu tlodi bwyd a mynd i’r afael ag ansicrwydd bwyd yn y gogledd drwy ailddosbarthu bwyd dros ben.
  • £2m i gefnogi camau gweithredu i drechu tlodi bwyd a mynd i’r afael ag ansicrwydd bwyd fel rhan o baratoi ar gyfer Brexit. Mae’r Gronfa wedi helpu i sicrhau mynediad at fwy o fwyd dros ben a’i ddosbarthu yn y rhwydwaith cyflenwi bwyd brys.  Mae hefyd wedi helpu i ddarparu adnoddau cludo a storio ychwanegol i sefydliadau bwyd cymunedol, gan gynnwys storfeydd oer.

Y Gronfa Cymorth Dewisol

  • £13.9m ychwanegol ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol er mwyn helpu unigolion a theuluoedd ledled Cymru gyda’r pwysau ariannol ychwanegol a’r heriau y maent yn eu hwynebu yn sgil pandemig COVID-19.
  • Llacio’r rheolau ar gyfer hawlio cymorth o dan y Gronfa Cymorth Dewisol er mwyn helpu’r rhai sydd wedi colli incwm ac wedi mynd i dreuliau ychwanegol o ganlyniad i COVID-19.

Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor

  • Darparwyd £2.85m ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru er mwyn helpu i ymateb i’r cynnydd yn nifer y ceisiadau o dan Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.

Gwasanaethau Cynghori

  • £1.4m i hybu gwasanaethau sy’n helpu pobl yng Nghymru i ymdopi â dyled sy’n broblem a gwneud y gorau o’u hincwm fel aelwyd. 

Digartrefedd

  • Cyllid er mwyn sicrhau nad oedd neb heb fynediad at lety yn ystod y pandemig.
  • £50m o fuddsoddiad er mwyn sicrhau nad oes angen i neb ddychwelyd i lety amhriodol.
  • Ers dechrau’r pandemig, mae dros 2,200 o bobl wedi cael cymorth i symud i lety dros dro neu lety argyfwng.

Ochr yn ochr â’n hymateb uniongyrchol i’r Coronafeirws a rhoi’r camau gweithredu a amlinellir yn y Cynllun hwn ar waith, rydym hefyd yn mynd ati’n ddi-oed i nodi pa ymyriadau ychwanegol a allai helpu i liniaru lefelau tlodi plant yng Nghymru yn y tymor hwy, yn unol â’r blaenoriaethau adfer a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru.

Bydd rhai o’r camau gweithredu yn y Cynllun yn rhoi’r dystiolaeth a’r data inni i lywio’r broses o ddatblygu polisïau a strategaethau yn y maes hwn yn y dyfodol er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf posibl ar fywydau plant sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru.