Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad yn cyflwyno adolygiad o’r gwahaniaethau mewn tâl ac amodau ar draws y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan ystyried y goblygiadau o ran recriwtio a chadw gweithwyr gofal.

Mae hon yn astudiaeth ar raddfa gymharol fach. Mae’n arbrofol ei natur, gan geisio casglu gwybodaeth o bob rhan o Gymru a chynnwys pob sector gofal cymdeithasol a’r GIG.

Mae prif ganfyddiadau adolygiad llenyddiaeth, arolygon a chyfweliadau yn cynnwys y meysydd a ganlyn:

Tâl

Ceir amrywiad o ran tâl rhwng y tri sector gofal cymdeithasol (hy awdurdodau lleol, y sector annibynnol a’r trydydd sector) a’r GIG. Ymddengys bod awdurdodau lleol yn talu mwy ac yn cynnig telerau ac amodau ffafriol.

Ceir cystadleuaeth gan gyflogwyr o’r tu allan i’r sectorau gofal cymdeithasol (ee manwerthu). Ystyrir bod y cyflogwyr hyn yn rhoi tâl tebyg neu well, ac mae llai o gyfrifoldeb ynghlwm wrth y swyddi a gynigir.

Cyflogau isel a gaiff y gweithlu gofal cymdeithasol felly gall gweithwyr cymdeithasol wynebu anawsterau ariannol. 

Contractau

Ychydig o amrywiad a welwyd o ran cyfran y gweithwyr gofal a gyflogir ar gontractau oriau heb eu gwarantu ar draws y sectorau (tua un o bob pump). Roedd y trydydd sector yn eithriad, gan gyflogi ychydig iawn o bobl ar gontractau o’r fath (tua un o bob 20).

Roedd llai nag un o bob deg contract a gynigiwyd i uwch-weithwyr cymdeithasol a goruchwylwyr gan gyflogwyr y sector annibynnol ac awdurdodau lleol yn gontractau oriau heb eu gwarantu neu dim oriau.

Awgryma’r ymchwil bod manteision ac anfanteision ynghlwm wrth ddefnyddio contractau oriau heb eu gwarantu.

Yn fras, mae darparwyr awdurdodau lleol yn cyflogi dwywaith cymaint o staff parhaol rhan-amser ag o staff parhaol llawn-amser. Mae’r sector annibynnol, y trydydd sector a’r GIG yn cyflogi, yn fras, ddwywaith cymaint o staff parhaol llawn-amser ag o staff parhaol rhan-amser.

Taliadau chwyddo

Mae data’r arolwg yn darparu enghreifftiau o daliadau chwyddo o fewn cyflogwyr gofal cymdeithasol yr awdurdodau lleol, y sector annibynnol a’r trydydd sector unigol, a rhyngddynt. Cefnogir hyn gan dystiolaeth o’r cyfweliadau a’r grwpiau ffocws.

Mae mwy o daliadau chwyddo yn cael eu rhoi yn ychwanegol i dâl sylfaenol gan y GIG ac awdurdodau lleol. 

Cafodd costau amser hyfforddi a datblygu eu talu neu eu had-dalu gan bob awdurdod lleol a ymatebodd, ar gyfer pob math o weithiwr. Adroddodd y mwyafrif helaeth o gyflogwyr y Byrddau/Ymddiriedolaethau Iechyd Lleol y GIG, y trydydd sector a’r sector annibynnol a ymatebodd hefyd eu bod yn gwneud hynny.

Recriwtio staff a’u cadw

Mae amryw o faterion yn cyfrannu at anawsterau wrth recriwtio a chadw gweithwyr, gan gynnwys tâl, ymhlith cyflogwyr gofal cymdeithasol.

Adroddwyd bod cystadleuaeth o swyddi tebyg yn y GIG yn effeithio ar recriwtio mewn sectorau eraill. Ystyriwyd bod cystadleuaeth o fewn cyflogwyr gofal cymdeithasol a’r GIG, a rhyngddynt, yn cyfrannu at broblemau cadw staff yn y gweithlu gofal cymdeithasol. 

Mae lefelau trosiant staff a chyfraddau swyddi gwag uchel yn effeithio ar y gweithlu, a cheir anawsterau wrth recriwtio a chadw gweithwyr gofal. Adroddwyd am lai o anawsterau mewn perthynas â recriwtio a chadw uwch-weithwyr gofal a goruchwylwyr. 

Priodolir yr anawsterau wrth recriwtio a chadw staff i nifer o ffactorau eraill. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • swyddi sy’n cystadlu y tu allan i ofal cymdeithasol
  • y statws isel y mae rhai yn ei gysylltu â gwerth gofal cymdeithasol fel opsiwn gyrfa
  • oriau gweithio
  • phatrymau shifft

Adroddiadau

Arolwg o’r dystiolaeth am amrywiad mewn telerau ac amodau contractau cyflogaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 5 MB

PDF
5 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Arolwg o’r dystiolaeth am amrywiad mewn telerau ac amodau contractau cyflogaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 881 KB

PDF
881 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Chris Roberts

Rhif ffôn: 0300 025 6543

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.