Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o bwrpas y Tasglu Ford Pen-y-bont ar Ogwr.

Nod

Mae Tasglu Ford Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael ei sefydlu i roi cyngor i weinidogion ar sut i amddiffyn a thyfu'r amgylchedd economaidd, i gefnogi'r gweithwyr a’r cymunedau hynny yr effeithir arnynt gan gau ffatri injans Pen-y-bont ar Ogwr. Er mwyn adeiladu cadernid a hyder ar gyfer y dyfodol, bydd yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • denu buddsoddiadau newydd gan amrediad o ddiwydiannau sy'n cynnig cyfleoedd ar gyfer swyddi o ansawdd uchel, i wneud iawn am y cyfraniad at werth ychwanegol gros yr oedd Ford yn ei wneud yn flaenorol
  • blaenoriaethu buddsoddiadau lleol i gael yr effaith orau posibl ar yr ardaloedd a'r bobl yr effeithir arnynt fwyaf gan y cau posibl
  • galluogi cyflenwad sgiliau tymor hir wedi'i alinio â buddsoddiadau wedi'i sicrhau
  • rhoi sylw i gynnal a gwella iechyd y gweithwyr yr effeithir arnynt a'u teuluoedd.

Ffocws

Bydd tair ffrwd gwaith yn cael eu sefydlu:

  • pobl: cefnogi pob gweithiwr a'i deulu yr effeithir arno’n uniongyrchol ac anuniongyrchol o ganlyniad i gau'r ffatri (swyddi, iechyd, lles, sefydlogrwydd ariannol)
  • posibiliadau: nodi a hyrwyddo cyfleoedd economaidd y safle, yr ardal, y gweithlu, a'r gadwyn gyflenwi er mwyn creu opsiynau masnachol hyfyw a chynaliadwy
  • lle: adeiladu ar gadernid economaidd a chymdeithasol cymuned Pen-y-bont ar Ogwr i gynnal, hyrwyddo a datblygu hyder economaidd.

Y Cyd-destun

Ar 6 Mehefin, dywedodd Graham Hoare, Cadeirydd Ford UK wrth llywodraeth Cymru a llywodraeth y DU fod y cwmni yn bwriadu dechrau ymgynghoriad â'r nod o gau ei ffatri injans ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym mis Medi 2020, gan symud y gwaith o wneud ei Injan Dragon i Fecsico, a dod â'r gwaith o gydosod a chynhyrchu pob eitem arall i ben.

Nifer y swyddi uniongyrchol a fydd yn cael eu colli yw dros 1,700 y nifer uchaf a welwyd yng Nghymru ers cenhedlaeth. Yn ogystal, effeithir ar fusnesau a gweithwyr yn y gadwyn gyflenwi, yn benodol busnesau lleol sy'n darparu gwasanaethau ar gyfer y ffatri.

Amcanion

Bydd y Tasglu yn nodi a goruchwylio camau ymarferol sy'n cefnogi'r bobl y lle a photensial y safle y gellir eu cymryd mewn ymateb i'r cyhoeddiad gan Ford.

Bydd yn:

  • nodi, asesu a blaenoriaethu buddsoddiadau newydd a  chyfleoedd ar gyfer swyddi o ansawdd uchel, er mwyn datblygu cyflenwad o gyfleoedd yn lle'r swyddi a'r cyfraniad at werth ychwanegol gros a gollir
  • nodi cadwyni cyflenwi uniongyrchol ac anuniongyrchol y ffatri yn y DU
  • cydlynu strwythurau a rhaglenni cymorth cymdeithasol ac economaidd a fydd yn cyfrannu at lesiant yr ardal
  • gwneud argymhellion neu gomisiynau camau gan aelodau'r tasglu i fynd i'r afael â'r bwlch yn y ddarpariaeth bresennol
  • nodi a grymuso'r rhanddeiliaid i ddylanwadu ar lesiant yr ardal er ei budd yn y tymor hir.

Cymorth

Bydd cymorth ysgrifenyddiaeth ar gyfer y Tasglu'n cael ei ddarparu gan swyddogion llywodraeth Cymru a llywodraeth y DU.

Amserlen

Mae'r Tasglu wedi cael ei sefydlu am gyfnod o chwe mis. Ar ôl y cyfnod hwn cynhelir adolygiad a gwneir argymhellion ynglŷn â gwaith arall sydd ei angen a sut y dylid gwneud y gwaith hwn.

Aelodaeth

Bydd yr aelodaeth yn hyblyg ac yn cynnwys rhanddeiliaid yr effeithir arnynt, a bydd yn cynnig arbenigedd yn unol â gofynion y Tasglu a'r ffrydiau gwaith.

  • Cadeirydd – Richard Parry Jones
  • Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
  • Y Gwir AnrhydeddusAlun Cairn, Ysgrifennydd Gwladol Cymru
  • Ford
  • arweinwyr ffrydiau gwaith
  • cynrychiolwyr yr undebau llafar
  • cynrychiolaeth awdurdod lleol (Pen-y-bont ar Ogwr)
  • cynrychiolydd Prifddinas Ranbarth Caerdydd
  • byrddau Iechyd lleol
  • cynrychiolwyr cyrff masnachu
  • addysg bellach ac uwch
  • Gyrfa Cymru
  • cynrychiolwyr gwleidyddol
  • swyddogion Llywodraeth Cymru
  • swyddogion Llywodraeth y DU (Yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol /yr Adran Masnach Ryngwladol /yr Adran Gwaith a Phensiynau /Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru).

Cyfathrebu

Bydd y Tasglu yn cyfathrebu ar y cyd, gan geisio cyngor yn ôl yr angen. Bydd cynllun cyfathrebu a thrafod â rhanddeiliaid yn cael ei ddatblygu er mwyn sefydlu'r egwyddorion a'r dulliau ar gyfer rhannu gwaith y Tasglu â'r gweithlu y gymuned a'r cyfryngau.

Egwyddorion Gweithredu

  • nid yw edliw na rhoi bai am y cau arfaethedig yn rhan o gylch gwaith na diben y Tasglu
  • bydd y Tasglu yn sefydlu a chynnal ymddiriedaeth o fewn y Tasglu, gyda llywodraethau a chyda'r gymuned
  • mae'r Tasglu yn fenter sy'n canolbwyntio ar swyddi, entrepreneuriaeth a lle, gyda'r nod o sicrhau canlyniadau
  • bydd y Tasglu yn dod â phartneriaid o'r holl sbectrwm gwleidyddol at ei gilydd, gyda ffocws ar gydweithredu er mwyn cyflawni nodau ac amcanion y Tasglu 
  • bydd y Tasglu yn cael ei gefnogi yn llawn gan weision sifil (gan gynnwys swyddogion y wasg) a fydd yn rhoi diweddariadau i weinidogion yn ôl yr angen.