Cylch gorchwyl
Crynodeb o bwrpas y grŵp.
Cynnwys
Cyflwyniad
Cyhoeddodd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru adroddiad ar seilwaith digidol yng Nghymru ym mis Rhagfyr 2020 ar seilwaith digidol yng Nghymru ym mis Rhagfyr 2020. Gwnaeth yr adroddiad nifer o argymhellion i gefnogi'r gwaith o wella cwmpas a mynediad i seilwaith digidol. Un o'u hargymhellion allweddol oedd sefydlu tasglu chwalu rhwystrau dan arweiniad uwch swyddog o Lywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno y dylid sefydlu tasglu.
O ystyried yr ystod o faterion sy'n ymwneud â rhwystrau i ddefnyddio seilwaith digidol, mae'r tasglu'n cynnwys trawstoriad o gynrychiolwyr o ddiwydiant, y llywodraeth a'r sector cyhoeddus ehangach.
Cwmpas
Bydd y cynllun gwaith ar gyfer y tasglu yn canolbwyntio ar nifer o feysydd lle nodwyd rhwystrau gan gynnwys: gwaith stryd, mynediad at asedau cyhoeddus, cynllunio, rheoleiddio a chyfathrebu.
Llywodraethu
Nodir trefniadau llywodraethu'r tasglu yn fanylach mewn mannau eraill ond yn fyr byddant yn cynnwys bwrdd sy'n pennu cyfeiriad cyffredinol y tasglu, grŵp trosolwg a fydd yn goruchwylio gweithgarwch y tasglu o ddydd i ddydd a phum gweithgor, un yr un ar gyfer gwaith stryd, mynediad at asedau cyhoeddus, cynllunio, rheoleiddio a chyfathrebu.
Nodau
Nod y tasglu yw creu'r amgylchedd cywir i ddarparu seilwaith digidol yn gyflym er mwyn darparu cysylltedd ffonau symudol a band eang sefydlog i gartrefi a busnesau yng Nghymru drwy gydweithio ar draws y sector cyhoeddus a'r diwydiant telathrebu a defnyddio'r ysgogiadau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ac eraill i:
- archwilio'r rhwystrau i ddefnyddio seilwaith digidol yng Nghymru i ddeall eu hachosion a'u heffeithiau
- nodi ffyrdd o fynd i'r afael â'r rhwystrau hynny
- lle bo'n briodol, datblygu a darparu atebion ar gyfer chwalu rhwystrau
- dod â gwybodaeth a phrofiad i helpu i ddatblygu gwasanaeth da
- lle bo modd helpu i gefnogi a chyflwyno arloesedd
Aelodaeth
Bydd yr aelodaeth yn cynnwys cynrychiolwyr o:
- Llywodraeth Cymru
- Awdurdodau Lleol
- Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
- Bargeinion Dinesig a Thwf
- Asiantaethau Cefnffyrdd Cymru
- CLlLC
- Openreach
- Mobile UK
- Virgin Media
- DMSL
- Cornerstone
- MBNL
- Ogi
- Voneus
- Ofcom
Ysgrifenyddiaeth
Llywodraeth Cymru fydd yn cyflawni swyddogaeth ysgrifenyddol y tasglu.