rgb(86,213,216)
rgb(0,69,33)
Tybed a ydych chi’n gymwys i dalu llai o Dreth Gyngor?
rgb(75,158,160)
Codir Treth Gyngor ar bob cartref. Fel arfer, byddwch yn talu’r dreth os ydych dros 18 oed ac yn berchen neu’n rhentu eich cartref.
Efallai y byddwch yn gymwys i dalu llai o Dreth Gyngor os:
- rydych yn byw mewn aelwyd incwm-isel
- rydych yn derbyn Credyd Cynhwysol
- rydych yn byw ar ben eich hun
- rydych yn fyfyriwr
- mae gennych nam meddyliol difrifol
- rydych yn gofalu am rywun
- rydych yn anabl
- mae eich eiddo yn wag
- rydych wedi gadael gofal
Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein taflen.
Os ydych yn tybio y gallech fod yn gymwys, dylech gysylltu ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol.