Neidio i'r prif gynnwy

Hawliadau ac eitemau a gymeradwywyd (y broses o fis Tachwedd 2021)

O fis Tachwedd ymlaen, oeed angen i chi ddilyn y broses ar gyfer cymeradwyo gwariant prosiect, cyn cyflwyno hawliad newydd.

Pan fyddwch yn cyflwyno'ch hawliad, rhaid i chi:

  • dim ond cynnwys gwariant sydd wedi'i gymeradwyo drwy eich Proffil Cyflenwi a'ch Cofrestr Wariant (DPv2).
  • rhoi’r cyfeirnod cyfatebol a ddefnyddir yn y DPv2 ar gyfer pob trafodiad yn y golofn Sylwadau Ariannol (nid oes angen hyn ar gyfer Costau Syml a gymeradwywyd).
  • gall gwariant amrywiol o dan £500 gael ei gynnwys yn yr hawliad ond rhaid nodi'r cod MISC yn y golofn Sylwadau Ariannol, a rhoi esboniad ynghylch pam mae hyn yn gymwys yn y golofn Gwybodaeth Ategol.

Os byddwch yn methu â bodloni'r gofynion hyn, bydd eich hawliad yn cael ei ddychwelyd gyda chopi o'ch DPv2 diweddaraf a gymeradwywyd i chi ei ddiweddaru a'i ailgyflwyno, yn ôl yr angen.

Os oes gwariant yn yr hawliad nad oedd wedi'i gynnwys yn eich DPv2 a gymeradwywyd yn flaenorol, bydd angen i chi ddiweddaru eich DPv2 a chael cymeradwyaeth cyn y gallwch gyflwyno'ch hawliad eto.

Os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, dylech wneud eich hun yn gyfarwydd â'r broses newydd ar gyfer cymeradwyo gwariant prosiect. Mae rhagor o fanylion ar gael ar yma: Proses newydd ar gyfer cymeradwyo gwariant prosiect.

Wrth ailgyflwyno'ch hawliad, nid oes angen i chi ail-lanlwytho'r holl ddogfennau ategol. Fodd bynnag, bydd angen i chi roi croesgyfeiriad i ni rhwng yr hen rifau adnabod trafodiadau a'r rhifau adnabod trafodiadau newydd.

Yn olaf, os ydych yn defnyddio cyflenwr gwahanol i'r un a nodir yn y DPv2 a gymeradwywyd, bydd angen i chi:

  • egluro mewn nodyn atodol pam yr oedd hyn yn angenrheidiol
  • cadarnhau a yw'r fanyleb a dendrwyd yr un fath neu'n well nag yn y dyfynbris a gymeradwywyd.

Cau'r rhaglen

Bydd Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, yn cau ar 31 Rhagfyr 2023.

Rydych bellach yn agosáu at y 12 mis olaf i’r prosiect i gyflawni’r amcanion prosiect y cytunwyd arnynt a chyflwyno eich hawliad terfynol erbyn dyddiad cau'r rhaglen, sef 30 Mehefin 2023.

Bydd nodiadau atgoffa ynghylch hawlio yn cael eu cyhoeddi'n fisol dros y 12 mis nesaf, yn unol â'ch proffil cyflenwi a gymeradwywyd.

Mae dyddiad cau'r rhaglen ar gyfer hawliadau terfynol er mwyn rhoi digon o amser i RPW:

  • gwblhau'r holl archwiliadau gweinyddol angenrheidiol a gwirio hawliadau

cyn cau'r rhaglen yn ffurfiol ar 31 Rhagfyr 2023.

Gall methu â chyflawni amcanion eich prosiect fel y'u cymeradwywyd yn y llythyr cymeradwyo grant arwain at adennill unrhyw arian grant a dalwyd.

Archwiliadau Gweinyddol (diweddarwyd ar 7 Mehefin)

Ar ddiwedd cyfnod y prosiect, bydd RPW yn gorfod archwilio cofnodion gwaith sydd wedi’i gymeradwyo, er mwyn sicrhau’ch bod wedi cydymffurfio â'r cynllun.

I archwilio hawliad ac felly i allu talu’r arian sydd heb ei dalu, bydd gofyn i chi roi o leiaf yr wybodaeth ganlynol i ni:

  • Diweddariad am y Prosiect: esboniwch sut mae'r prosiect yn mynd rhagddo. Sut mae'r cyllid wedi bod o fudd i'ch busnes/sefydliad/ sector a manylion gwariant yr holl grantiau sydd wedi’u cymeradwyo.
  • Gwybodaeth a thystiolaeth am ddangosyddion ac allbynnau a gyflawnwyd.
  • Manylion caffael, yn unol â Nodiadau Cyfarwyddyd Tendro Cystadleuol a Chaffael Cyhoeddus, os nad ydych eisoes wedi'u cyflwyno fel rhan o broses cymeradwyo cofrestr wariant y tendr cystadleuol

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid cwblhau’r archwiliadau gweinyddol yn gyntaf cyn dechrau prosesu hawliadau. Ymatebwch yn gyflym felly i unrhyw geisiadau am y wybodaeth er mwyn osgoi unrhyw oedi wrth brosesu’ch hawliad.

Canolfan gyswllt i gwsmeriad (diweddarwyd ar 7 Mehefin)

Mae staff Canolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW wrth law i helpu a chynorthwyo gyda'ch ymholiadau prosiect.

Mae gwasanaeth ffôn y Ganolfan Gyswllt yn gweithio fel a ganlyn:

Cyfnod Oriau agor
Dydd Llun i ddydd Gwener  9:00yb i 4:yh

Lle bo modd, dylid cyflwyno ymholiadau arferol ynghylch prosiectau drwy eich cyfrif RPW Ar-lein, sydd ar gael 24 awr y dydd.