Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Llywodraeth Cymru yn dilyn polisi economaidd blaengar sy'n canolbwyntio ar well swyddi, gan leihau'r rhaniad sgiliau a mynd i'r afael â thlodi, meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mewn Uwchgynhadledd Economaidd hybrid, mae'r Gweinidog wedi gwahodd busnesau, undebau llafur ac arweinwyr llywodraeth leol i drafod sut y gall Cymru greu dyfodol economaidd cryfach, tecach a gwyrddach.

Wrth nodi ei weledigaeth i symud economi Cymru yn ei blaen, bydd y Gweinidog yn ymrwymo i ymestyn model Tîm Cymru i gynnig 'cymaint o sicrwydd â phosibl' i fusnesau sy'n wynebu adferiad cyfnewidiol. 

Bydd yn addo cyfnod newydd o bartneriaeth i gryfhau datblygu economaidd rhanbarthol, cynllun cyflawni i gefnogi'r economi bob dydd a chefnogaeth eang i weithwyr mewn economi sy'n newid yn gyflym.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag undebau a busnesau i ddatblygu ei dull 'rhywbeth am rywbeth' fel bod arian cyhoeddus Cymru ynghlwm â gweithredu ar waith teg, datgarboneiddio a sgiliau.

Bydd y Gweinidog hefyd yn dechrau sgwrs am yr her ddemograffig hirdymor sy'n wynebu economi Cymru.

Mae cyfran y boblogaeth rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru wedi bod yn gostwng o flwyddyn i flwyddyn ers canol 2008, a gallai fod yn ddim ond 58% o'r boblogaeth erbyn 2043.

Mewn ymateb, bydd dull Gweinidogion Cymru yn anelu at greu economi lle mae mwy o bobl ifanc yn teimlo'n hyderus ynghylch cynllunio eu dyfodol yng Nghymru, gan gefnogi creu swyddi ac economïau lleol mwy deinamig.

Bydd Llywodraeth Cymru yn amlinellu gweledigaeth o'r hyn sy'n gwneud Cymru'n lle deniadol i fyw, astudio, gweithio a buddsoddi ynddo, gan gynnwys ansawdd bywyd mewn cenedl gynhwysol, agored a gwyrdd.

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn galw ar y Canghellor i ddangos uchelgais Llywodraeth y DU i Gymru drwy anrhydeddu addewidion a wnaed ar gronfeydd olynol yr UE, cefnogi ynni adnewyddadwy mawr fel ynni'r llanw a buddsoddi mewn ymchwil a datblygu yng Nghymru.

Yn ddiweddarach, bydd y Gweinidog yn ymweld â busnes teuluol sydd wedi derbyn cymorth gan Lywodraeth Cymru i dyfu, cyn cyflwyno araith i gynulleidfa rithwir yn bennaf o fusnesau, undebau llafur ac arweinwyr llywodraeth leol a phartneriaid eraill ym mhhencadlys newydd Trafnidiaeth Cymru ym Mhontypridd.

Wrth siarad cyn yr uwchgynhadledd, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau beiddgar i adeiladu economi Gymreig gryfach, decach a gwyrddach. Mae wedi cymryd ymdrech Tîm Cymru i gadw Cymru'n ddiogel a byddwn yn cyflawni Adferiad Tîm Cymru, a adeiladwyd gan bob un ohonom.

"Bydd adferiad Cymreig cryf yn seiliedig ar egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd wrth i ni fuddsoddi yn niwydiant a gwasanaethau'r dyfodol.

"Wrth i ni wynebu rhwystrau Brexit, rwy'n benderfynol y bydd ein cynlluniau yn cynnig cymaint o sicrwydd â phosibl i helpu busnesau i gynllunio ymlaen llaw. 

"Cyfnod newydd o bartneriaeth ar gyfer rhanbarthau cryfach, Gwarant i Bobl Ifanc, cynllun i gefnogi ein heconomi bob dydd a chydweithio â gweithgynhyrchu blaengar sy'n arwain y byd. Dyma'r rheswm dros y gobaith at y dyfodol sy’n cael ei adeiladu gennym yng Nghymru.

"Fy uchelgais yw gwneud Cymru'n lle lle mae mwy o bobl ifanc yn teimlo'n hyderus wrth gynllunio eu dyfodol yma.  Does dim rhaid i chi fynd i ffwrdd i lwyddo, gwnewch eich dyfodol yma yng Nghymru.

Mae dull Gweithredu Llywodraeth Cymru yn cynnwys:

  • buddsoddi yn ein pobl - drwy'r Warant i Bobl Ifanc a chynnig cyflogadwyedd a sgiliau cryf, gan gynnwys prentisiaethau
  • cefnogi'r rhai sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad Lafur i ddod o hyd i waith. Bydd y Strategaeth Cyflogadwyedd sydd ar y gweill yn tynnu sylw at y cymorth sydd ar gael i unigolion, yn enwedig y rhai y mae'r pandemig yn effeithio fwyaf arnynt a'r rhai sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur
  • cyflymu'r broses o addasu i sgiliau newydd sy'n ofynnol ar gyfer swyddi medrus a diogel, yn enwedig ym maes carbon isel. Mae'r her recriwtio bresennol hefyd wedi dangos bod angen gweithredu'n gyflym ar sgiliau mewn rhai sectorau
  • archwilio sut rydym yn cadw ein graddedigion a'n doniau yng Nghymru drwy feithrin cysylltiadau cryf â phrifysgolion, a rhwng prifysgolion a busnesau
  • cefnogi busnesau newydd, gan gynnwys busnesau newydd i raddedigion, gyda chymhellion posibl mewn rhai ardaloedd
  • sicrhau bod gennym gwmnïau wedi'u gwreiddio yng Nghymru sy'n gallu darparu cyfleoedd yn y dyfodol
  • gall Cymru hefyd elwa ar y cyfleoedd ar gyfer llawer mwy o opsiynau gweithio o bell a chymudo hyblyg.