Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn ymgynghori ar:

  • sut y bydd ein strategaeth yn helpu Cymru i fod yn wlad ddi-fwg erbyn 2030
  • y camau gweithredu o'n cynllun cyflawni cyntaf sy'n sail i hynny gan gynnwys:
    • gwneud bod yn ddi-fwg yn beth arferol yng Nghymru
    • cefnogi grwpiau a chymunedau sydd â lefelau smygu uwch
    • mynd i'r afael â gwerthu tybaco yn anghyfreithlon

Mae 'di-fwg' yn golygu bod llai na 5% o oedolion yng Nghymru yn smygu.

Trosolwg

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflawni Cymru Ddi-fwg. Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â'n Strategaeth a'n Cynllun Cyflawni ar reoli tybaco ac mae'n nodi sut y gellid cyflawni Cymru ddi-fwg ac yn gofyn am farn ar y cynigion hynny.

Cyflwyniad

Mae smygu yn niweidiol dros ben i iechyd. Er bod cyfraddau smygu wedi bod yn lleihau, yng Nghymru, smygu yw’r brif elfen sydd wrth wraidd marwolaethau ataliadwy - yn 2018 cafodd oddeutu 5,600 o farwolaethau ymhlith pobl 35 oed a hŷn eu priodoli i smygu. Mae smygu hefyd yn gysylltiedig ag amrywiaeth eang o glefydau a allai arwain at dderbyn unigolion i’r ysbyty. Yn 2018/19, amcangyfrifir bod oddeutu 28,000 o dderbyniadau i’r ysbyty ymhlith pobl 35 oed a hŷn i’w priodoli i smygu, sy’n cynrychioli 4.6 y cant o’r holl dderbyniadau yn y grŵp oedran hwn. Gwyddom hefyd bod smygu’n brif achos anghydraddoldeb gyda’r rheini sy’n byw yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig yn fwy tebygol o smygu na’r rheini yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Er ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf o ran lleihau nifer y bobl sy'n smygu yng Nghymru, gwyddom fod gennym lawer mwy o waith i'w wneud i greu Cymru lle mai amgylchedd di-fwg yw’r ‘norm’, i atal ein plant a'n pobl ifanc rhag dechrau smygu yn y lle cyntaf ac i gefnogi smygwyr i roi'r gorau iddi.

Rydym wedi ymrwymo i atal salwch a chynorthwyo pobl i wneud dewisiadau iachach er budd eu hiechyd a'u llesiant. Diben yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn ar y strategaeth hirdymor ar reoli tybaco yng Nghymru: Cymru Ddi-fwg a'n cynllun cyflawni dwy flynedd cyntaf: Tuag at Gymru Ddi-fwg: Cynllun Cyflawni ar Reoli Tybaco 2022-2024.

Rydym wedi ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid wrth ddatblygu'r strategaeth a'r cynllun cyflawni hwn, gan gynnwys gweithio gyda gweithgor ymgynghorol o randdeiliaid i gael eu safbwyntiau a'u cyngor. Ar ddechrau 2020, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ddigwyddiad hefyd fel cyfle i randdeiliaid ddod ynghyd a dechrau'r broses o rannu syniadau am yr hyn a ddylai fod yn uchelgais inni ar gyfer rheoli tybaco a'r meysydd y byddwn yn canolbwyntio arnynt. Cafodd y gwaith ei oedi ym mis Mawrth 2020 oherwydd pandemig COVID-19, ond ailgychwynnwyd y gwaith datblygu yn ystod haf 2021 a datblygwyd dogfennau'r strategaeth ddrafft a'r cynllun cyflawni.

Cymru ddi-fwg: ein strategaeth hirdymor ar reoli tybaco

Mae’r strategaeth ddrafft yn nodi ein gweledigaeth i gyflawni Cymru ddi-fwg erbyn 2030. Mae hyn yn golygu cyflawni cyfradd cyffredinrwydd smygu o 5% neu lai ymhlith oedolion dros yr wyth mlynedd nesaf.

Er mwyn gwireddu’r uchelgais hon, byddwn yn bwrw ymlaen â gwaith ar draws ein tair thema allweddol, sef Lleihau Anghydraddoldebau, Cenedlaethau’r Dyfodol a Dull System Gyfan ar gyfer Cymru Ddi-fwg.

Lleihau anghydraddolebau

Er gwaethaf y cynnydd a welwyd o ran lleihau smygu, gwyddom fod y cyfraddau ar gyfer smygu a defnyddio cynhyrchion tybaco eraill yng Nghymru yn amrywio rhwng gwahanol grwpiau o bobl. Mae’r gwahaniaethau hyn yn arwain at fwy o glefydau sy’n gysylltiedig â smygu mewn rhai grwpiau, ac yn eu tro maent yn cyfrannu at
anghydraddoldebau iechyd ac anghydraddoldebau o fathau eraill. Mae’r thema hon felly yn canolbwyntio ar leihau’r anghydraddoldebau sy’n deillio o smygu.

Cenedlaethau’r dyfodol

Mae smygu yn effeithio ar fywydau plant a phobl ifanc drwy gydol eu plentyndod, o feichiogrwydd hyd at flaenlencyndod. Mae’r thema hon yn canolbwyntio ar greu amgylchedd lle mai bod yn ddi-fwg yw’r ‘norm’ i holl blant a phobl ifanc Cymru, a’u bod yn aros yn ‘ddi-fwg’ hyd nes y byddant yn oedolion.

Dull system gyfan ar gyfer Cymru ddi-fwg

Er mwyn inni allu gwireddu ein huchelgais o gyflawni Cymru ddi-fwg, rhaid inni roi dull system gyfan ar waith wrth fynd ati i reoli tybaco. Golyga hyn fod angen i bawb weithio gyda’i gilydd mewn ymdrech ar y cyd i gyfrannu at y weledigaeth gyffredin hon er mwyn esgor ar newid. Mae’r thema hon yn cefnogi ymyriadau seiliedig ar dystiolaeth gyda gwelliannau parhaus yn y gwasanaeth, yn ogystal ag archwilio dulliau ac atebion arloesol a chwilio am ragor o gyfleoedd, yn genedlaethol ac yn lleol, i sicrhau dyfodol iachach a di-fwg.

I gefnogi’r gwaith o gyflawni’r strategaeth hon, byddwn yn rhoi cyfres o gynlluniau cyflawni dwy flynedd ar waith, gan ddechrau o 2022-2024. Bydd y cynlluniau hyn yn nodi’n fanwl pa gamau y byddwn yn eu cymryd ac yn mynd i’r afael â nhw wrth inni weithio tuag at Gymru ddi-fwg.

Trwy drefnu ein camau’n gynlluniau cyflawni dwy flynedd, ein nod yw creu a chynnal momentwm a chanolbwyntio ar y meysydd a fydd yn ategu ein huchelgais, ond byddwn hefyd yn sicrhau’r hyblygrwydd angenrheidiol i addasu i amgylcheddau a blaenoriaethau a all newid. Bydd trefnu ein camau yn y modd hwn yn ein galluogi i ddysgu o gynlluniau blaenorol, ac adeiladu arnynt. Hefyd, byddwn yn gwybod yn iawn pa newidiadau y bydd pob cynllun yn eu cyflawni wrth inni wneud cynnydd tuag at wireddu ein huchelgais.

Tuag at Gymru ddi-fwg: cynllun cyflawni ar reoli tybaco 2022-2024

Tuag at Gymru Ddi-fwg yw'r cyntaf yn y gyfres o Gynlluniau Cyflawni ac mae'n rhoi’r camau y byddwn yn eu cymryd rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2024 mewn grwpiau sy’n cyd-fynd â phum maes gweithredu â blaenoriaeth. Y rhain yw:

  1. Amgylcheddau Di-fwg – byddwn yn datblygu camau gweithredu sy'n hyrwyddo amgylcheddau di-fwg yng Nghymru.
  2. Gwelliannau parhaus a chefnogi arloesi – bydd y camau yn adeiladu ar y systemau presennol ar gyfer rheoli tybaco trwy archwilio sut gellir cynnwys ymyriadau arloesol, seiliedig ar dystiolaeth i ymestyn a chefnogi ein huchelgais o gyflawni Cymru ddi-fwg.
  3. Grwpiau blaenoriaeth – bydd y camau gweithredu'n cefnogi'r gwaith o ddatblygu ymyriadau penodol sy'n seiliedig ar dystiolaeth, sy'n briodol ac wedi'u teilwra i fynd i'r afael â chyffredinrwydd smygu mewn grwpiau blaenoriaeth.
  4. Mynd i'r afael â thybaco anghyfreithlon a'r fframwaith cyfreithiol rheoli tybaco – bydd y camau gweithredu'n ceisio sicrhau bod gennym yr offer cywir i ddiogelu'r cyhoedd, yn enwedig plant a phobl ifanc, rhag niwed yn sgil tybaco a chynhyrchion nicotin.
  5. Gweithio ar draws y DU – byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â gwledydd eraill y DU i rannu arferion gorau a hyrwyddo, cefnogi a gweithredu mesurau cadarn yn ymwneud â rheoli tybaco.

Mae’r pum maes uchod yn trawstorri’r tair thema a nodwyd yn y strategaeth a byddant yn cefnogi’r newidiadau angenrheidiol i sicrhau mai bod yn ddi-fwg yw’r ‘norm’, yn ogystal â hyrwyddo arferion gorau ac integreiddio’r arfer o reoli tybaco ar draws y system gyfan.

Monitro a chyflawni

Cyfrifoldeb y Bwrdd Strategol ar Reoli Tybaco fydd gwireddu’r strategaeth a’r cynlluniau cyflawni. Bydd y Bwrdd hwn yn cynnwys cynrychiolwyr o blith ein partneriaid allweddol ar reoli tybaco, ac yn rhoi’r arweiniad angenrheidiol a gwneud y penderfyniadau angenrheidiol o ran gwireddu’r strategaeth a’r cynlluniau cyflawni. Bydd grŵp gweithredu hefyd yn cael ei ffurfio. Cylch gwaith y grŵp hwn fydd cefnogi, monitro a gweithredu’r cynlluniau cyflawni, yn ogystal â mynd i’r afael â’r ymgysylltu a’r cydweithio angenrheidiol. Bydd y grŵp hwn yn atebol i’r Bwrdd Strategol ar Reoli Tybaco.

Cyffredinrwydd smygu

Er inni nodi mai ein dymuniad yw cyflawni Cymru ddi-fwg erbyn 2030 (cyffredinrwydd smygu o 5% neu lai ymhlith oedolion dros 18 oed yng Nghymru), nid ydym wedi pennu targedau cerrig milltir yn ymwneud â chyffredinrwydd smygu yn ein strategaeth nac ychwaith wedi gosod cyfradd cyffredinrwydd smygu y byddwn yn anelu at ei chyflawni erbyn diwedd y cynllun cyflawni hwn, a hynny oherwydd y cyfyngiadau presennol yn y data angenrheidiol. Rydym yn cydnabod mai un o’r pethau cyntaf y dylid ei wneud yw sicrhau bod y data iawn yn cael eu casglu ar yr adegau iawn trwy ddefnyddio’r ffynonellau iawn, er mwyn sicrhau y gellir monitro ein cynlluniau cyflawni a’n strategaeth yn barhaus ac yn drylwyr. Mae’r gwaith hwn eisoes ar y gweill, a’r bwriad wrth ei wraidd yw ein galluogi i fonitro ein cynnydd mewn modd llawer manylach. Hefyd, byddwn yn anelu at ddatblygu data a fydd yn dangos ein cynnydd ar draws demograffeg a chymunedau gwahanol ledled Cymru, gan ein galluogi i lunio adroddiadau rheolaidd ar sail ein cynlluniau mewn modd llawer mwy amserol nag y gwnawn ar hyn o bryd. Nid yw hyn yn golygu na fyddwn yn gosod targedau dros dro o gwbl wrth inni symud drwy’r cynlluniau. Os yw ein strwythurau llywodraethu’n mynnu bod angen targedau dros dro i gymell gwelliant, bydd hyblygrwydd y cynlluniau cyflawni yn ein galluogi i wneud hynny drwy gydol oes y strategaeth.

Ein nod yw gweld lleihad fesul cam mewn cyffredinrwydd smygu yn ystod y cyfnod y strategaeth ac wrth inni geisio cyflawni ein huchelgais ddi-fwg erbyn 2030 ein nod yw gweithio i sicrhau bod systemau monitro ar waith i ddangos hyn.

Llinell amser ymgynghoriadau

Bydd yr ymgynghoriad yn para deuddeg wythnos a bydd yn dod i ben ar 31 Mawrth 2022. Rydym am glywed barn a chael adborth ar ein cynlluniau ar gyfer rheoli tybaco yng Nghymru gan bawb y mae tybaco yn effeithio arnynt, gan gynnwys y cyhoedd, pobl ifanc a rhanddeiliaid.

Rydym hefyd yn cynllunio digwyddiadau ymgysylltu yn ystod y cyfnod ymgynghori. Os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â ni yn: PolisiTybaco@llyw.cymru i gael rhagor o fanylion.

Byddwn yn myfyrio ar yr adborth a'r ymatebion a gawn yn ystod yr ymgynghoriad gyda'r nod o gyhoeddi'r strategaeth derfynol a chynllun cyflawni 2022-2024 yn ystod gwanwyn 2022.

Cwestiynau'r ymgynghoriad

Cwestiwn 1

Ein huchelgais yw cyflawni Cymru ddi-fwg erbyn 2030 (mae di-fwg yn golygu bod 5% neu lai o oedolion yng Nghymru yn smygu). Bydd ein holl gamau gweithredu dros yr 8 mlynedd nesaf yn gweithio tuag at gyflawni hyn.

A ydych yn cytuno â'n huchelgais i gyflawni Cymru ddi-fwg erbyn 2030?

Esboniwch pam mai ein huchelgais yw’r peth iawn neu sut y byddai angen i'n huchelgais newid os credwch fod angen dull gweithredu gwahanol.

Cwestiwn 2

Mae’r strategaeth yn pennu’r tair thema ar gyfer ein gwaith wrth inni fwrw ymlaen â’r newidiadau mewn smygu yng Nghymru:

  • Thema 1: Lleihau anghydraddolebau
  • Thema 2: Cenedlaethau’r dyfodol
  • Thema 3: Dull system gyfan ar gyfer Cymru ddi-fwg

A ydych yn cytuno mai dyma'r themâu cywir i’r strategaeth ganolbwyntio arnynt?

Esboniwch pam rydych chi'n ystyried bod y themâu'n gywir neu os ydych chi'n meddwl bod angen dull gweithredu gwahanol.

Cwestiwn 3

Er inni nodi mai ein huchelgais yw cyflawni Cymru ddi-fwg erbyn 2030, nid ydym wedi pennu targedau cerrig milltir yn ymwneud â chyffredinrwydd smygu yn ein strategaeth nac ychwaith wedi gosod cyfradd cyffredinrwydd smygu y byddwn yn anelu at ei chyflawni erbyn diwedd y cynllun cyflawni cyntaf. Fodd bynnag, ein nod yw lleihau cyffredinrwydd smygu yn sylweddol dros yr 8 mlynedd nesaf. Byddwn yn defnyddio'r ffynonellau data canlynol i fonitro cyfraddau smygu yng Nghymru:

  • Arolwg Cenedlaethol Cymru sy’n darparu data’n ymwneud â smygu yng Nghymru ynghyd â chyfradd cyffredinrwydd smygu. Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr yng Nghymru mewn perthynas â smygu a’r defnydd o e-sigaréts ymhlith pobl ifanc 11-16 oed.
  • Ystadegau mamolaeth a genedigaethau ar gyfer cyfraddau smygu ymhlith mamau.

Ydych chi’n teimlo mai dyma'r dull gweithredu cywir?

Esboniwch pam mai dyma'r dull cywir neu os credwch fod angen dull gweithredu gwahanol.

Cwestiwn 4

A oes unrhyw ffynonellau data eraill y dylid eu defnyddio i fonitro llwyddiant y strategaeth a'r cynllun cyflawni? Os felly, beth ydynt?

Rhowch sylwadau ychwanegol isod.

Cwestiwn 5

Er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflawni'r strategaeth, ein bwriad yw cyhoeddi cyfres o gynlluniau cyflawni dwy flynedd. A ydych yn cytuno y dylem drefnu ein camau gweithredu yn gynlluniau cyflawni dwy flynedd?

Esboniwch pam mae'r strwythur yn gweithio'n dda neu amlinellwch sut y gellid ei wneud yn well.

Cwestiwn 6

Yn y cynllun cyflawni cyntaf, sy’n ymdrin â’r cyfnod rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2024, rydym wedi grwpio’r camau y byddwn yn eu cymryd a’u gosod mewn pump o feysydd gweithredu blaenoriaeth:

  • Maes gweithredu blaenoriaeth 1: Amgylcheddau di-fwg
  • Maes gweithredu blaenoriaeth 2: Gwelliant parhaus a chefnogi arloesi
  • Maes gweithredu blaenoriaeth 3: Grwpiau blaenoriaeth
  • Maes gweithredu blaenoriaeth 4: Mynd i’r afael â thybaco anghyfreithlon a’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer rheoli tybaco
  • Maes gweithredu blaenoriaeth 5: Gweithio ar draws y DU

A ydych yn cytuno mai dyma'r meysydd gweithredu blaenoriaeth cywir i ganolbwyntio arnynt yng nghynllun cyflawni 2022-2024?

Esboniwch pam rydych chi'n ystyried bod y meysydd gweithredu blaenoriaeth yn gywir neu os ydych chi'n meddwl bod angen dull gweithredu gwahanol.

Cwestiwn 7

Rydym wedi datblygu nifer o gamau gweithredu ym mhob maes gweithredu blaenoriaeth. Ydych chi o'r farn mai'r rhain yw'r rhai cywir?

Esboniwch pam bod y camau gweithredu'n gywir neu sut y gellir eu gwella.

Cwestiwn 8

A ydych yn credu bod unrhyw gamau allweddol nad ydynt wedi'u cynnwys yn y meysydd gweithredu blaenoriaeth? Os felly, beth ydynt?

Rhowch fanylion ychwanegol isod.

Cwestiwn 9

A yw'r strategaeth a'r cynllun cyflawni yn cyd-fynd â meysydd polisi ac ymarfer perthnasol eraill?

Esboniwch pam y mae'n cyd-fynd yn dda neu amlinellwch sut y gellid ei wneud yn well.

Cwestiwn 10

Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai Cymru Ddi-fwg: Ein strategaeth hirdymor ar Reoli Tybaco yng Nghymru a Tuag at Gymru Ddi-fwg: Cynllun Cyflawni ar Reoli Tybaco 2022-2024 yn eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Beth fyddai'r effaith yn eich barn chi? Sut fyddai modd cynyddu'r effeithiau cadarnhaol, neu leihau'r effeithiau negyddol?

Cwestiwn 11

Hefyd, esboniwch sut y gallai’r strategaeth arfaethedig a’r cynllun cyflawni gael eu llunio neu eu newid er mwyn cael effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, ac osgoi unrhyw effeithiau niweidiol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Cwestiwn 12

Rydyn ni wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych chi unrhyw faterion cysylltiedig sydd heb gael eu trafod yn benodol, mae croeso i chi ddefnyddio’r lle hwn i'w nodi:

Rhowch eich sylwadau yma.

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 31 Mawrth 2022 drwy ddefnyddio unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:

Tîm Ymddygiadau Risg
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych chi hawl:

  • i gael gwybod am y data personol sy’n cael eu cadw amdanoch chi, ac i gael gweld y data hynny
  • i fynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu neu atal prosesu (mewn rhai amgylchiadau)
  • i’ch data gael eu ‘dileu’ (mewn rhai amgylchiadau)
  • i gludo data (mewn rhai amgylchiadau)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael mwy o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a’r ffordd mae'n cael ei defnyddio, neu os ydych chi am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad GDPR, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

e-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru

Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: https://ico.org.uk/

Y rheoliad cyffredinol ar ddiogelu data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hwn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n ymdrin â'r materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgynghoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn hefyd. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod i ni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth hefyd.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau cyhoeddedig hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG43380

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.