Mae'n disgrifio ein hamcanion strategol ar gyfer ansawdd a sut rydym yn eu gweithredu. Mae'n cynnwys ein polisi ar ddigwyddiadau arbennig ystadegol.

Gweler y manylion

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol
, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 412 KB

PDF
412 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Cais am fformat gwahanol. Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digital@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.

Manylion

Bydd ansawdd ein ystadegau yn effeithio ffydd ein defnyddwyr yn yr ystadegau ac ynom ni. Wrth i ddefnyddwyr wneud penderfyniadau, bydd angen iddyn nhw fod yn glir ynghylch ansawdd y data y maent yn ei ddefnyddio ac mae'n rhaid i ni ymdrechu i ddarparu ystadegau o ansawdd uchel.

Byddwn yn sicrhau bod ein ystadegau yn addas i’r diben, yn defnyddio prosesau priodol a byddwn yn dryloyw ynghylch ein dulliau. Byddwn hefyd yn sicrhau bod ansawdd ffeithiol a chyflwyno ein ystadegau yn cwrdd â gofynion ein defnyddwyr.

Dyma ein pedwar amcan ansawdd ystadegol:

  • sicrhau bod staff wedi’u hyfforddi ym maes sicrhau ansawdd a rheoli ansawdd effeithiol
  • annog staff i ddefnyddio'u chwilfrydedd deallusol, cwestiynu eu data a pherchnogi'r sicrwydd ansawdd y maent yn gyfrifol amdano
  • cyhoeddi adroddiadau neu ddangosyddion ansawdd addas ar gyfer ein hystadegau
  • cynnal adolygiadau rheolaidd o’n prosesau a’r allbynnau yr ydym yn eu cynhyrchu, gan sicrhau ein bod yn gweithio gyda darparwyr data i ddeall y prosesau o’u dechrau i’w diwedd.