Daeth yr ymgynghoriad i ben 14 Rhagfyr 2022.
Crynodeb o’r canlyniad
Mae crynodeb o'r ymateb bellach ar gael yn ogystal â strategaeth ymgysylltu â'r cyhoedd a'r crynodeb o ymchwil.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem glywed eich barn am strategaeth fydd yn pennu sut y byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i hysbysu, cefnogi ac annog y cyhoedd i weithredu ynghylch y newid yn yr hinsawdd.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mynegwyd ymrwymiad yn Cymru Sero Net Cyllideb Garbon 2 i gynnal cyfnod pwysig o ymgynghori ar y Strategaeth 5 mlynedd newydd ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd a Gweithredu gan y Cyhoedd ar y Newid yn yr Hinsawdd (2022-2026). Amcan y strategaeth derfynol fydd pennu fframwaith cytûn ac egwyddorion arweiniol ar gyfer:
- Ymgysylltu â’r cyhoedd ar bolisïau hinsawdd a fydd yn effeithio arnyn nhw ac ar eu cymunedau,
- Helpu pobl i weithredu; a
- Gweithio gyda phartneriaid yn Nhîm Cymru i alluogi a chefnogi pobl i weithredu yn eu hardaloedd a’u rhanbarthau.
Rhennir y Strategaeth yn ddwy:
- Rhan A: y brif strategaeth
- Rhan B: cyd-destun, tystiolaeth a gwyddor ymddygiadol
Dogfennau ymgynghori
Rhan A: Strategaeth , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 509 KB
Rhan B: Cyd-destun, tystiolaeth a gwyddor ymddygiadol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 732 KB
Help a chymorth
Am fwy o wybodaeth amdano’r ymgynghoriad hwn, e-bostiwch newidhinsawdd@llyw.cymru