Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 30 Tachwedd 2021.

Cyfnod ymgynghori:
21 Medi 2021 i 30 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb o’r canlyniad

Mae'r crynodeb o'r ymatebion bellach ar gael ar gov.uk.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Hoffem glywed eich barn ynghylch y strategaeth ar y cyd ar gyfer Prydain Fawr ynghylch Bioddiogelwch Planhigion.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad yn cynnig:

  • Gweledigaeth newydd ar gyfer bioddiogelwch planhigion ym Mhrydain Fawr dros y pum mlynedd nesaf
  • Pedwar canlyniad, oll gyda chyfres arfaethedig o gamau gweithredu i’n helpu i gyflawni bioddiogelwch ym Mhrydain Fawr:
    • Cyfundrefn fioddiogelwch o’r radd flaenaf
    • Cymdeithas sy’n gwerthfawrogi planhigion iach
    • Cadwyn cyflenwi planhigion sy’n fioddiogel
    • Gallu technegol ar lefel uwch 

Bydd eich ymatebion yn sail i’r Strategaeth newydd ar gyfer Prydain Fawr ynghylch Bioddiogelwch Planhigion. Caiff hon ei chyhoeddi yn 2022.  

Mae ymgynghoriad arall yn cael ei gynnal, sy’n ymgynghoriad technegol a mwy manwl. Y nod yw ymgynghori ar fesurau bioddiogelwch ychwanegol ar gyfer rhywogaethau coed sy’n peri risg penodol o ran cyflwyno plâu drwy fewnforion.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar GOV.UK