Dengys arolygon stoc llety nifer y busnesau llety twristiaeth a chapasiti o ran lleoedd gwely yng Nghymru yn ôl categori llety ar gyfer Mehefin 2022.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Stoc llety
Crynhoir y canlyniadau yn ganolog gan Lywodraeth Cymru. Cesglir y wybodaeth fel angen Eurostat ac fe ddarpara fraslun o un o rannau mwyaf arwyddocaol y diwydiant twristiaeth. Defnyddir y wybodaeth yma ar gyfer ystod eang o ddibenion cynllunio a buddsoddi, o fewnbwn i gynlluniau busnes i gynllunio ar gyfer digwyddiadau mawr.
Mae darlun stoc llety yn newid yn wastadol fel y mae busnesau yn agor neu yn cau, yn tyfu neu’n crebachu, yn uwchraddio neu’n amrywiaethu. Yn gyffredinol, mae’r wybodaeth yn cael ei diweddaru’n flynyddol gan yr awdurdodau lleol, gydag arolwg cyfan fel arfer bob tair blynedd.
Adroddiadau
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Stoc llety: Mehefin 2022 (atodiad) , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 13 KB
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.