Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r datganiad hwn, a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym mis Gorffennaf 2021, wedi'i ddiwygio ar ôl derbyn data diwygiedig gan dri sefydliad. Mae hyn oherwydd eu bod yn goramcangyfrif nifer y staff i ddechrau gan ddilyn cyfarwyddiadau newydd ar gyfer casglu data. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn yr adran ‘gwybodaeth ansawdd a methodoleg’.

Prif bwyntiau

Yn ystod 2019/20, roedd nifer y staff a gyflogwyd yn uniongyrchol gan sefydliadau addysg bellach yng Nghymru yn cyfateb i 8,730 (r) cyfwerth ag amser llawn (FTE). Mae hyn yn ostyngiad yn nifer y staff cyfwerth ag amser llawn o gymharu â'r flwyddyn academaidd flaenorol.

Gostyngodd nifer y staff cyfwerth ag amser llawn a gyflogir yn uniongyrchol gan sefydliadau addysg bellach yng Nghymru gan 0.3% (r) rhwng 2018/19 a 2019/20.

Roedd cynnydd yn nifer y staff FTE mewn 8 (r) o'r 13 sefydliad addysg bellach i wahanol raddau ond roedd y cynnydd mwyaf yng Ngholeg Cambria, lle gwelwyd cynnydd o 2% (cynnydd o 20 o staff FTE). Gwelwyd cwymp o 30 yn nifer staff FTE Coleg Sir Gâr (4%).

Staff cyfwerth ag amser llawn mewn sefydliadau addysg bellach

Mae Siart 1 yn dangos dosbarthiad staff FTE ar draws sefydliadau addysg bellach yn 2019/20. Yn ystod 2019/20, roedd nifer y staff yn cyfateb i 8,730 (r) o swyddi FTE. Roedd nifer y staff mewn sefydliadau unigol yn amrywio, o 110 o swyddi FTE yng Ngholeg Catholig Dewi Sant i 1,265 (r) o swyddi FTE yn Grŵp Llandrillo Menai.

Image
Mae'r siart bar yn dangos sut roedd cyfran y staff cyfwerth ag amser llawn yng Nghymru yn wahanol ar draws pob un o'r 13 sefydliad.

Nifer y staff cyfwerth ag amser llawn mewn sefydliadau addysg bellach yn ôl sefydliad ar StatsCymru

Newidiadau mewn niferoedd staff cyfwerth ag amser llawn

Cododd cyfanswm nifer y staff FTE a gyflogwyd yn uniongyrchol gan sefydliadau addysg bellach i uchafbwynt o 9,330 yn 2012/13, ac ar ôl hynny bu gostyngiad o flwyddyn i flwyddyn, gan gyrraedd lefel isaf o 7,815 yn 2015/16.

Cynyddodd nifer y staff FTE o flwyddyn i flwyddyn hyd at 2018/19. Arhosodd yn sefydlog yn 2019/20.

Cynyddodd nifer y staff FTE mewn wyth sefydliad yn 2019/20, yn cymharu â naw sefydliad yn 2018/19, gyda'r cynnydd mwyaf o ran canran yn digwydd yng Ngholeg Cambria a Coleg Catholig Dewi Sant (cynnydd tua 2% yn y ddau).

Gostyngodd cyfanswm nifer y staff FTE mewn pump sefydliad, y cyfrannau mwyaf yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg y Cymoedd, lle disgynnodd y niferoedd o ryw 4% yn y ddau.

Image
Mae'r siart bar yn dangos cyfanswm y nifer staff cyfwerth ag amser llawn yng Nghymru ar gyfer pob blwyddyn academaidd er 2007/08.

Nifer y staff cyfwerth ag amser llawn mewn sefydliadau addysg bellach yn ôl sefydliad ar StatsCymru

Nifer y staff cyfwerth ag amser llawn yn ôl categori gwariant ar gyflog

Y categori ‘adrannau addysgu a dysgu’ sy’n parhau i fod â’r nifer mwyaf o staff cyfwerth ag amser llawn sydd wedi’u cyflogi’n uniongyrchol gan sefydliadau addysg bellach, gyda 57% (r) o’r cyfanswm cyfwerth ag amser llawn.

Gwelodd ‘Gwasanaethau Cymorth Addysgu a Dysgu’ 10% (r) o gynnydd yn 2019/20 ac mae’n cyfrif am 10% (r) o’r cyfanswm cyfwerth ag amser llawn. Yng Ngholeg Penybont, Coleg y Cymoedd a Grŵp Llandrillo Menai y gwelwyd y cynnydd hwn yn bennaf. Mae’r categorïau ‘Adrannau Addysgu a Dysgu’ a ‘Gwasanaethau Cymorth Addysgu a Dysgu’ gyda’i gilydd yn 68% o’r cyfanswm cyfwerth ag amser llawn, yn aros yn sefydlog o 68% (r) yn 2018/19.

Y categori ‘Gwasanaethau Cymorth Eraill’ sydd wedi cyfrannu fwyaf at y cynnydd cyffredinol yn nifer y staff cyfwerth ag amser llawn ers 2015/16 yw’r categori ‘Gweinyddu a Gwasanaethau Canolog’, lan 230 FTE. Mewn termau canrannol, gwelwyd y cynnydd fwyaf yn y categori ‘Gwasanaethau Cymorth Eraill’ (i fyny 165, neu 39%). Rhwng 2018/19 a 2019/20, y prif gyfrannwr i’r gostyngiad fach yn y niferoedd o staff FTE yw’r categori ‘Adrannau Addysgu a Dysgu’ (lawr 105 staff FTE) (r).

Image
Mae'r siart bar wedi'i stacio yn dangos sut mae pob categori gwariant cyflog yn amrywio o ran nifer ar gyfer staff cyfwerth ag amser llawn ar gyfer pob blwyddyn academaidd er 2014/15.

Nifer y staff cyfwerth ag amser llawn mewn sefydliadau addysg bellach yng Nghymru, yn ôl categorïau gwariant ar gyflog ar StatsCymru

Nodiadau

Ffynhonnell ddata

Mae'r datganiad ystadegol cyntaf hwn yn rhoi gwybodaeth am nifer y staff FTE a gyflogir yn uniongyrchol gan sefydliadau addysg bellach ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn academaidd 2019/20. Mae'r data a ddefnyddir yn y datganiad hwn yn cael eu casglu o'r sefydliadau gan Lywodraeth Cymru drwy'r Cofnod Cyllid, fel sydd wedi digwydd ers 2009/10. Cafwyd datganiadau cynharach o'r Cofnod Staff Unigol (SIR). Mae'r datganiad hwn a ailgyhoeddwyd yn disodli'r un a gyhoeddwyd ar 8 Gorffennaf 2021, wrth i rai sefydliadau gamddehongli cyfarwyddiadau newydd ar gyfer casglu data a goramcangyfrif nifer y staff.

Ataliwyd y casgliad SIR ar ôl 2008/09 yn sgil gwaith blaenoriaethu gweithgarwch ystadegol ar y pryd ac er mwyn lleihau baich dau gasgliad data ar wahân.

Defnyddir data staff FTE ar gyfer monitro ac wrth ddatblygu strategaethau.  Yn ogystal â hynny, y data hyn yw’r ffynhonnell swyddogol o ystadegau ar gyfer staff addysg ôl-16 yng Nghymru.

Cesglir data staff FTE fel rhan o'r Cofnod Cyllid. Cofnodion ariannol a roddir i Lywodraeth Cymru gan sefydliadau addysg bellach yw'r Cofnod Cyllid yn bennaf ac mae'n cynnwys copi o'u datganiadau ariannol. Lle mae colegau addysg bellach wedi uno, mae'r ffigurau yn cynrychioli'r sefyllfa yn dilyn yr uno ac ni chaiff sefydliadau cyfansoddol eu nodi ar wahân o flwyddyn academaidd yr uno ymlaen.

Oherwydd bod rhai sefydliadau wedi camddehongli cyfarwyddiadau newydd ar gyfer casglu data a goramcangyfrif nifer y staff, mae'r bwletin ystadegol hwn wedi'i ailgyhoeddi. Mae cyfarwyddiadau pellach wedi'u cyhoeddi ac mae pob sefydliad bellach yn cyfrifo cyfwerth ag amser llawn ar yr un sail.

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn ffynhonnell wybodaeth ychwanegol ar staff mewn Sefydliadau Addysg Bellach.

Diffiniadau

Mae'r blynyddoedd academaidd a ddefnyddir drwy'r datganiad hwn yn cyfeirio at y cyfnod 1 Awst i 31 Gorffennaf.

Caiff ffigurau staff FTE eu cyflenwi'n uniongyrchol gan y Sefydliadau Addysg Bellach drwy'r Cofnod Cyllid.

Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Mae'r adran hon yn rhoi crynodeb o wybodaeth am yr allbwn hwn yn erbyn pum dimensiwn ansawdd.

Perthnasedd

Defnyddir y mesurau a nodir yn y cyhoeddiad hwn yn bennaf:

  • gan Lywodraeth Cymru i fonitro nifer y staff mewn sefydliadau addysg bellach
  • gan ddarparwyr addysg eu hunain, fel offeryn rheoli i fonitro lefelau staff
  • gan undebau a chyrff eraill sy’n cynrychioli darparwyr addysg

Defnyddir y data hefyd o fewn a thu allan i Lywodraeth Cymru i fonitro tueddiadau FTE staff. Dyma rai o'r prif ddefnyddwyr:

  • gweinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru
  • aelodau'r Senedd a Gwasanaeth Ymchwil yr aelodau yn Senedd Cymru
  • adrannau eraill y Llywodraeth
  • myfyrwyr, ymchwilwyr ac academyddion
  • dinasyddion unigol, cwmnïau preifat a'r cyfryngau

Defnyddir yr ystadegau mewn amryw o ffyrdd. Dyma rai enghreifftiau:

  • gwaith cefndir ac ymchwil cyffredinol
  • cynnwys mewn adroddiadau a briffiau
  • cyngor i Weinidogion
  • llywio a gwerthuso'r broses o lunio polisïau addysg yng Nghymru

Cywirdeb

Roedd y data mewn datganiadau hyd at 2008/09 yn dod o'r Cofnod Staff Unigol (SIR). Cafodd y casgliad hwn ei atal yn dilyn cyhoeddiad 2008/09 ac mae'r casgliad Cofnodion Cyllid wedi cael ei ddefnyddio fel ffynhonnell ddata ar gyfer datganiadau o 2009/10 ymlaen. Yn dilyn y newid hwn, mae data o fewn y gyfres hon bellach yn cael eu cymryd o'r Cofnod Cyllid ar gyfer pob blwyddyn gan ddisodli data hyd at 2008/09 a gafwyd gan y SIR. Gellir dod o hyd i wybodaeth o ansawdd am y newid hwn mewn fersiynau blaenorol o'r datganiad hwn.

Dylanwadwyd ar lefel y newid a welwyd rhwng 2016/17 a 2017/18 gan y ffaith bod Colegau Caerdydd a’r Fro wedi caffael cyfranddaliadau ACT Ltd yn ystod mis Hydref 2016 ac ALS Ltd yn ystod mis Ionawr 2018.

Roedd cyfrifon 2016/17 ond yn cynnwys cyfran o niferoedd staff ACT gan fod y caffaeliad wedi digwydd ran o'r ffordd drwy'r flwyddyn. Roedd nifer y staff 2017/18 yn cynnwys yr effaith blwyddyn lawn, a dyna pam y cafwyd cynnydd. Mae ACT Ltd ac ALS Ltd bellach yn is-gwmnïau sydd ym mherchnogaeth lwyr y coleg. Mae'n debygol bod caffael gwahanol ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith gan golegau wedi bod yn ffactor a welwyd ar draws y blynyddoedd.

Dylai cymariaethau ar lefel sefydliadau o ran niferoedd staff yn ôl categori gwariant ar gyflog (Siart 3) gael eu gwneud yn ofalus, oherwydd dehongliad lleol o gategorïau a gwahaniaethau sefydliadol eraill. Er enghraifft, gall y rhaniad rhwng Adrannau Addysgu a Dysgu a Gwasanaethau Cymorth Addysgu a Dysgu adlewyrchu'r arddull addysgu wahanol ym mhob coleg. Mewn rhai achosion, gall hyfforddwyr ac arddangoswyr gael eu cynnwys o dan y Gwasanaethau Cymorth Addysgu a Dysgu.

Oherwydd bod rhai sefydliadau yn camddehongli cyfarwyddiadau newydd ar gyfer casglu data, mae'r bwletin ystadegol hwn wedi'i ailgyhoeddi. Oherwydd y ffordd y cyflwynwyd y cyfarwyddiadau, defnyddiodd rhai o'r sefydliadau gyfrifon pen, yn hytrach na chyfwerth ag amser llawn. Roedd hyn yn golygu bod y niferoedd ar gyfer staff yn uwch nag y dylent fod. Cyhoeddwyd cyfarwyddiadau pellach ac mae pob sefydliad bellach yn cyfrifo cyfwerth ag amser llawn ar yr un sail.

Amseroldeb a phrydlondeb

Daw ystadegau ar gyfer blwyddyn academaidd benodol o'r Cofnod Cyllid, yn dilyn diwedd y flwyddyn academaidd, ac fe'u cyhoeddir ar hyn o bryd ym mis Mai y flwyddyn ganlynol.

Hygyrchedd ac eglurder

Mae'r datganiad ystadegol hwn yn cael ei gyhoeddi ymlaen llaw ac yna'i gyhoeddi ar adran Ystadegau gwefan Llywodraeth Cymru. Mae'r gyfres amser llawn ar gael trwy StatsCymru

Cymaroldeb

Data ar gyfer blynyddoedd blaenorol

Gellir dod o hyd i rifynnau blaenorol o'r datganiad hwn sy'n cwmpasu'r blynyddoedd academaidd 2003/04 i 2018/19 ar gael hefyd ar gyfer y cyhoeddiad hwn. Mae'r data yn y tablau sydd i’w gweld mewn rhifynnau blaenorol o'r datganiad hwn i gyd ar gael trwy StatsCymru.

Ni chasglwyd data ar gyfer Coleg Merthyr Tudful (MTC) rhwng y blynyddoedd academaidd 2006/07 a 2011/12 ar ôl iddo uno â Phrifysgol Morgannwg (sydd bellach yn rhan o Brifysgol De Cymru) yn 2006.  Ar gyfer y blynyddoedd hynny cafodd y data hyn eu cynnwys mewn cyhoeddiadau ar gyfer ystadegau addysg uwch. Ar gyfer 2012/13 ymlaen, mae data o MTC wedi dychwelyd i gael eu cyhoeddi fel rhan o ystadegau addysg bellach ac felly mae'r data hynny yn bresennol yn y datganiad hwn o'r pwynt hwnnw ymlaen. Mae unrhyw gymariaethau rhwng blynyddoedd academaidd cyn ac ar ôl y pwynt hwn yn ystyried hyn.

Cyhoeddiadau eraill ar niferoedd staff addysg bellach

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn cynhyrchu ystadegau blynyddol ar holl ymarferwyr cofrestredig CGA. Mae wedi bod yn ofynnol i athrawon addysg bellach gofrestru gyda CGA ers 1 Ebrill 2015, a gweithwyr cymorth dysgu addysg bellach (ac ysgolion) ers mis Ebrill 2016.

Nid oes modd cymharu'r ffigurau a gyhoeddwyd gan CGA ar gyfer addysg bellach yn uniongyrchol â'r rheini yn y datganiad hwn. Mae gwybodaeth CGA yn cynnwys nifer y rhai oedd wedi cofrestru ar ddyddiad pendant, tra bod y datganiad hwn yn darparu'r holl staff FTE ar draws y flwyddyn academaidd. Mae data presennol CGA yn ymwneud â'r sefyllfa ym mis Mawrth 2020 ac mae'n cofnodi 6,756 o athrawon addysg bellach cofrestredig a 5,407 o weithwyr cymorth dysgu addysg bellach. Mae'r data hwn yn ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth am ddosbarthiad rhyw ac oedran athrawon addysg bellach a staff cymorth, nad yw ar gael o'r data cofnod cyllid y seilir y datganiad hwn arno.

Data ar gyfer gweddill y Deyrnas Unedig

Gellir gweld enghreifftiau o'r defnydd o ddata ar staff mewn sefydliadau addysg bellach yn yr Alban a Lloegr ar wefannau Cyngor Cyllido'r Alban a'r Sefydliad Addysg a Hyfforddiant, yn y drefn honno.

Dangosyddion perfformiad myfyrwyr a staff ar gyfer colegau addysg bellach yr Alban (Cyngor Cyllido'r Alban)

Adroddiadau data gweithlu addysg bellach (Sefydliad Addysg a Hyfforddiant)

Fodd bynnag, oherwydd gwahaniaethau o ran methodoleg a chasglu data, dylid bod yn ofalus wrth wneud cymariaethau uniongyrchol â'r ffigurau a nodir yn y datganiad hwn.

Mae gwybodaeth am staff mewn sefydliadau addysg bellach ar draws y DU i'w gweld yn y datganiad ystadegol canlynol, sy'n cynnwys gwybodaeth am staff mewn sefydliadau addysg bellach yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Ystadegau addysg a hyfforddiant ar gyfer y DU: 2020 (Yr Adran Addysg)

Data cysylltiedig eraill ar gyfer Sefydliadau Addysg Bellach

Gellir gweld data ar gofrestriadau dysgwyr mewn Sefydliadau Addysg Bellach, ynghyd â gwybodaeth am ddysgu seiliedig ar waith a dysgu yn y gymuned, yn y cyhoeddiad Addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu cymunedol

Mae gwybodaeth fanylach am y ddarpariaeth mewn sefydliadau addysg bellach o 2012/13 ymlaen ar gael ar wefan StatsCymru.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Ian Shipley
Llinell Ymholiadau Cyffredinol: 0300 025 9528
E-bost: ystadegau.addysgol16@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 202/2021(R)