Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am ddysgwyr sydd wedi cofrestru a'u gweithgareddau yn ôl oedran, rhyw, dull astudio, y math o raglen a lefel astudio ar gyfer Awst 2017 i Gorffennaf 2018.

Mae’r Datganiad Ystadegol Cyntaf hwn yn crynhoi data ar nifer y dysgwyr mewn addysg a hyfforddiant ôl-16, heb gynnwys y rheini mewn Sefydliadau Addysg Uwch (SAU) neu ysgolion, ond gan gynnwys Sefydliadau Addysg Bellach (SAB), darparwyr eraill Dysgu Seiliedig ar Waith a darpariaeth Dysgu Cymunedol a gasglwyd drwy Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) Llywodraeth Cymru.

Pwyntiau allweddol

  • Yn ystod 2017/18, roedd yna 166,640 o ddysgwyr mewn SAB, mewn lleoliadau Dysgu Cymunedol neu mewn lleoliadau Dysgu Seiliedig ar Waith. Oherwydd newidiadau(1) yn y data a gyflwynir, nid yw data 2017/18 yn cymharu’n hollol â data’r blynyddoedd blaenorol.
  • 118,590 o ddysgwyr unigol mewn sefydliadau addysg bellach, 44% ohonynt yn rhan-amser.
  • 12,680 o ddysgwyr unigol yn lleoliadau Dysgu Cymunedol Awdurdodau Lleol.
  • Cynyddodd y cyfanswm mewn lleoliadau dysgu seiliedig ar waith 15%.

(1) O 1 Awst 2017, ni chaiff gwybodaeth am weithgareddau dysgu nas ariennir gan Lywodraeth Cymru, ac am ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion mewn sefydliadau addysg bellach ei chasglu drwy Gofnod Dysgu Gydol Oes bellach.

Adroddiadau

Addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu cymunedol, Awst 2017 i Gorffennaf 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 964 KB

PDF
Saesneg yn unig
964 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Nifer y rhaglenni prentisiaeth fesul lefel ac yn ôl iaith, Awst 2017 i Gorffennaf 2018 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 15 KB

ODS
15 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.