Neidio i'r prif gynnwy

Bydd sector twristiaeth Cymru yn gallu dechrau ailagor dydd Sadwrn 27 Mawrth wrth i'r rheol aros yn lleol gael ei chodi, yn ôl cyhoeddiad gan Mark Drakeford, y Prif Weinidog.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y rheolau hefyd yn cael eu newid i ganiatáu gweithgareddau awyr agored a chwaraeon wedi'u trefnu i blant a phobl ifanc dan 18 oed a hyd at chwech o bobl o ddwy aelwyd wahanol i gyfarfod ac ymarfer corff yn yr awyr agored.

Mae'r llacio'n parhau â dull cam wrth gam arfaethedig Llywodraeth Cymru o lacio'r cyfyngiadau coronafeirws, gan ystyried yr amrywiolyn hynod heintus yng Nghaint, sef ffurf amlycaf y feirws yng Nghymru erbyn hyn.

Dyma gamau olaf y llacio yn y cylch adolygu tair wythnos hwn ac maent yn dilyn llwyddiant disgyblion cynradd a llawer o fyfyrwyr hŷn mewn ysgolion uwchradd a cholegau yn dychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb a dechrau ailagor manwerthu nad yw'n hanfodol fesul cam, gan gynnwys agor siopau trin gwallt.

Mae Cymru'n symud allan o rybudd lefel pedwar, ac yn awr yn dechrau symud i lefel tri. Bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried mesurau rhybudd lefel tri pellach yn yr adolygiad nesaf o'r rheoliadau.

Meddai y Prif Weinidog Mark Drakeford:

"Mae'r llacio pellach hwn yn rhan o'n dull gofalus a graddol o ddatgloi'r cyfyngiadau a galluogi pobl a busnesau i ailddechrau eu gweithgareddau yn y ffordd fwyaf diogel posibl.

"Dim ond oherwydd yr aberth y mae pawb ledled Cymru wedi'i wneud dros y misoedd diwethaf y gallwn wneud hyn – mae popeth rydych chi'n ei wneud i gadw'ch anwyliaid yn ddiogel hefyd yn cadw Cymru'n ddiogel.

"Mae sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau'n sefydlog; mae ein rhaglen frechu anhygoel yn mynd o nerth i nerth – mae’n bosibl gwneud y newidiadau hyn."

Bydd llety gwyliau hunangynhwysol, gan gynnwys gwestai â chyfleusterau en-suite a gwasanaeth ystafell, yn gallu ailagor i bobl o'r un aelwyd neu swigod cymorth.

Bydd y rheol aros yn lleol yn cael ei disodli gan ardal deithio dros dro i Gymru gyfan, a fydd yn parhau i fod ar waith tan 12 Ebrill, yn amodol ar sefyllfa iechyd y cyhoedd. Am y pythefnos nesaf, dim ond y rhai sydd ag esgus rhesymol, megis gwaith, fydd yn gallu teithio i mewn i Gymru neu allan o Gymru. 

Bydd y cyfyngiadau presennol ar deithio rhyngwladol ar gyfer gwyliau yn parhau.

Newidiadau eraill:

  • bydd chwech o bobl o ddwy aelwyd wahanol, ac eithrio plant o dan 11 oed, yn gallu cyfarfod ac ymarfer corff yn yr awyr agored ac mewn gerddi preifat
  • bydd gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu a chwaraeon i blant a phobl ifanc dan 18 oed yn gallu ailddechrau
  • bydd rhai ardaloedd awyr agored yn agor gyda chyfyngiadau a rhai lleoedd a gerddi hanesyddol
  • bydd llyfrgelloedd ac archifau yn gallu ailagor

Meddai y Prif Weinidog Mark Drakeford:

"Rydym yn cymryd dull cam wrth gam tuag at lacio'r cyfyngiadau ac eisiau parhau i allu agor Cymru.

"I wneud hynny mae angen help pawb arnom. Mae hynny'n golygu cadw'n wyliadwrus am arwyddion o’r haint; ynysu os oes gennym symptomau a threfnu i gael prawf.

"Mae hefyd yn golygu dilyn y camau sylfaenol i'n cadw ni i gyd yn ddiogel tra byddwn ni allan – gan gadw ein pellter oddi wrth eraill; peidio â chymysgu dan do; osgoi torfeydd; golchi ein dwylo'n rheolaidd a gwisgo gorchuddion wyneb."

Cynhelir yr adolygiad nesaf o'r rheoliadau yr wythnos nesaf. Bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried y llacio canlynol, a ddaw i rym o’r 12 Ebrill, yn amodol ar sefyllfa iechyd y cyhoedd: 

  • gall pob disgybl a myfyriwr ddychwelyd i ysgolion, colegau ac addysg arall
  • gall pob siop a gwasanaeth cyswllt agos agor
  • llacio’r cyfyngiad dros dro o ardal deithio ledled Cymru