Neidio i'r prif gynnwy

Dewch o hyd i safleoedd coetir Plant!

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Canolfan ymwelwyr Parc Coedwig Afan

Wedi’i lleoli ar hyd yr A4107 i/o Bort Talbot. O’r de, gadewch yr M4 yng Nghyffordd 40 a dilynwch yr arwyddion am Goedwig Afan.

Côd post: SA13 3HG

Bwlch Nant Yr Arian

Wedi’i lleoli ar Ponterwyd, Ceredigion. Mae’r ganolfan ar yr A44 sy’n arwain i/o Aberystwyth.

Côd post: SY23 3AD

Coed Cymunedol Caia

Wedi’i lleoli ar Parc Caia, Wrecsam. O’r A483, cymerwch gyffordd 6 (A534 a B445). Dilynwch yr arwyddion am Ystad Ddiwydiannol Wrecsam ar yr A5156, a theithio tua’r de-ddwyrain ar ffordd gyswllt Gwaunyterfyn – Llan-y-pwll. Ewch yn syth ymlaen ar y gylchfan gyntaf.  Ar yr ail gylchfan, cymerwch yr ail droad a dilyn yr A534 (Holt Road) tua’r gorllewin a thref Wrecsam. Ewch yn syth ymlaen ar y gylchfan gyntaf, ac ar yr ail gylchfan cymerwch yr ail droad a dilyn Cefn Road.

Cymerwch yr ail droad ar y dde a dilyn Churchill Drive. Ar y gylchfan cymerwch y trydydd troad i Deva Way. Dilynwch y ffordd nes cyrraedd cyffordd ar y chwith i Wynnstay Avenue. Trowch i Wynnstay Avenue a pharhau at y gyffordd â Garner Road. Trowch i’r chwith i Garner Road, a pharciwch ym mhen draw’r ffordd.  Mae llwybr troed i gerddwyr yn arwain at y ddau safle mwyaf ar 'The Dunks'.

Côd post: LL13 8SF

Coed Bryn Oer

Mae Parc Bryn Bach, ychydig oddi ar yr A465, o fewn tafliad carreg i Fannau Brycheiniog a’r Mynydd Du.

Dilynwch yr arwyddion i Barc Bryn Bach oddi ar yr A465 rhwng Merthyr Tudful a’r Fenni.

Côd post: NP22 3AY

Coed Cefn Ila

Mae Cefn Ila ger Brynbuga, Sir Fynwy. O Frynbuga, cymerwch y ffordd i Langybi. Wrth gyrraedd Llanbadog, cymerwch y tro cyntaf ar y dde (gyferbyn â’r eglwys) a dilynwch y ffordd hon.  Ar ôl tua ¾ milltir, fe welwch fwthyn ar y dde; trowch i’r dde i fyny’r lôn. Mae’r fynedfa i Gefn Ila tua 100 metr i fyny’r lôn.

Coed Ffos Las

Wedi’i lleoli yng Nghwm Gwendreath, Sir Gâr, rhwng Carwe a Thrimsaran ger cae rasio Ffos Las.

Dilynwch yr arwyddion twristiaeth brown i gae rasio Ffos Las o Lanelli neu’r M4 yng Nghaerfyrddin. Mae’r fynedfa yng Ngharwe, gyferbyn â neuadd y pentref.

Côd post: SA17 4HE

Coed McLaren a Choed Syfi

Mae Coed McLaren rhwng Abertyswg a Thredegar Newydd, dair milltir i’r de o Rymni a’r A465. Dilynwch yr arwyddion i Abertyswg o naill ai Pontlotyn neu dref Rhymni ar hyd y B4257 o briffordd yr A469. Ewch drwy Abertyswg a throwch i’r dde wrth arwydd cofeb y glowyr ar ôl yr ysgol.

I gyrraedd Coed Syfi, dilynwch yr arwyddion am Phillipstown o Dredegar Newydd ar yr A469.

Côd post: NP22 5BH

Coedwig y Plant! Cwm Garw

Hen ardal lofaol fach yw Cwm Garw, ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Morgannwg Ganol gynt).

O Gyffordd 36 yr M4 Pen-y-bont ar Ogwr, dilynwch yr arwyddion twristiaid brown i Gwm Garw (Pontycymer a Pharc Calon Lân ym Mlaengarw)

Côd post: CF31 9PS

Coed y Felin, Amlwch

Ar ochr ddeheuol Amlwch, ger y ganolfan hamdden a’r ysgol.

Cymerwch y B5111 tuag at Llannerchymedd.  Cymerwch y troad cyntaf ar y dde tuag at y ganolfan hamdden a’r ysgol (Ffordd Tanybryn).  Cymerwch y troad cyntaf ar y chwith, gydagarwydd Pentrefelin, ac fe welwch chi’r fynedfa â gât ymhen rhyw 250 metr ar yr ochr dde.

Mae’r cyfarwyddiadau ar gael gan Coed Cadw Woodland Trust.
Bydd manylion prosiect Plant! ar gael ar y safle.

Côd post: SA44 4PB

Coed y Foel

Wedi'i lleoli 1.3 milltir (2km) i’r gogledd-ddwyrain o Landysul yn Nyffryn Teifi.

Yn y gylchfan ar yr A486, dilynwch yr arwyddion am Landysul B4624. Ewch ymlaen am 1.3 milltir (2km) i dre Llandysul lle bydd yr hewl yn hollti'n system unffordd. Cymerwch y tro sydyn cyntaf i'r chwith ag arwydd Pen-gwyn B4476 a pharhau am hanner milltir (0.8km). Ar ôl cyrraedd pont fach, cymerwch y trroad cyntaf ar y dde tuag at Gapel Dewi a’r felin wlân. Dilynwch y ffordd tan iddi wyro i'r chwith. Mae’r fynedfa ar y chwith.

Côd post: SA44 4PB

Coed Ysgubor Wen

Mae Coed Ysgubor Wen yn Nyffryn Dysynni, ym mhen deheuol Parc Cenedlaethol Eryri.

Beicio neu gerdded: Llwybr Beicio Cenedlaethol 8 (Lôn Las Cymru - Gogledd).

Yn y car: O’r A493, trowch i gyfeiriad Llanegryn. Ewch ymlaen am ryw ddwy filltir (3 cilometr) a phasio tŷ o’r enw Tŷ’r Gawen – mae prif fynedfa’r goedwig ychydig pellach, ar y chwith.

Llynnoedd y Garn

Ochr ddeheuol y ffordd sy’n arwain i ‘Pontypool and Blaenavon Heritage Railway’ (nad yw ger y llynnoedd eu hunain), ar y glannau gorllewinol uwchlaw’r llwybr beicio.

Oddi ar Garn Road (B4248), Garn-yr-erw. Mae’r ffordd hon yn cysylltu Blaenafon a Brynmawr.

Côd post: NP4 9SF

Llyn Geirionnydd

Wedi'i lleoli yn Coedwig Gwydir ger Llanrwst.  Dilynwch yr arwyddion am Lyn Geirionnydd, neu Bont y Pair, Betws y Coed, ar yr A5 i Gapel Curig.

Mae’r oriau agor a’r cyfarwyddiadau ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru
Bydd manylion prosiect Plant! ar gael ar y safle.

Côd post: LL24

Parc Coedwig Cymunedol Pantside

Wedi'i lleoli i’r dwyrain o Drecelyn yng nghwm Nant Gawney, gydag arwyddion o’r A472.

Ewch oddi ar yr A472, a dilyn Central Avenue at y gylchfan ger Eglwys San Pedr. Cymerwch y trydydd troad ar y gylchfan i Heol Tir-y-pwll. Ym mhen draw Heol Tir-y-pwll ceir rhwystr / mynediad i'r safle. 

Côd post: NP11 5DB