Neidio i'r prif gynnwy

Grwpiau Cyfranogiad y Strategaeth a fydd yn ein helpu i gyflawni ein dull gweithredu strategol yn cael eu ffurfio, ac mae cyfle i chi gymryd rhan.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd pob un o’r grwpiau yn edrych ychydig yn wahanol, gydag aelodau’n cynnwys pobl sydd â brwdfrydedd a/neu wybodaeth arbenigol am y maes dan sylw. Mewn rhai achosion, bydd mecanweithiau presennol yn cael eu defnyddio a’u hehangu. Mae mwy o fanylion am y grwpiau isod.

Mae pobl ifanc yn ffynnu: arweinir gan Sharon Lovell

Mae’r gynrychiolaeth bresennol yn cynnwys yr Urdd, Promo Cymru, CWVYS, Youth Cymru, Gwasanaeth Ieuenctid Sir Benfro, Llywodraeth Cymru a gweithiwr ieuenctid annibynnol. Bydd y grŵp hwn yn canolbwyntio ar lais pobl ifanc ac yn sicrhau bod pobl ifanc yn cyfrannu at lywio’r ffordd mae polisi gwaith ieuenctid yn cael ei ddatblygu yng Nghymru.

Mae Sharon yn arbennig o awyddus i gael cynrychiolwyr ychwanegol o awdurdodau lleol.

Mae gwaith ieuenctid yn hygyrch a chynhwysol: arweinir gan Dusty Kennedy

Bydd y grŵp hwn yn edrych ar sut y gallwn ni sicrhau bod gwybodaeth a chyfleoedd gwaith ieuenctid ar gael i bawb, gan adlewyrchu pob math o wahanol leoliadau, cefndiroedd, hunaniaethau, profiadau ac anghenion. 

Hoffai’r grŵp hwn adeiladu ar y gwaith ieuenctid gorau hyd yma, ond edrych ar ffyrdd newydd o sicrhau bod mwy o waith ieuenctid cynhwysol ar gael.

Mae Gwirfoddolwyr a Gweithwyr Proffesiynol Cyflogedig yn cael eu Cefnogi: arweinir gan Jo Sims

Bydd y grŵp hwn yn ystyried y cymwysterau, y llwybrau datblygu a’r cyfleoedd ar gyfer y rhai sydd eisiau cael mynediad at y sector gwaith ieuenctid neu gamu ymlaen yn y sector hwnnw.

Bydd y grŵp hwn yn defnyddio mecanweithiau presennol megis y grŵp ETS sydd â chynrychiolwyr o bob rhan o’r sector, ond bydd y grŵp yn trefnu cyfarfodydd gyda grŵp ehangach o randdeiliaid i gynnwys eraill sy’n gallu ac sydd eisiau ychwanegu rhywbeth at y gwaith hwn.

Mae gwaith Ieuenctid yn cael ei Werthfawrogi a’i Ddeall: arweinir gan Keith Towler

Bydd y gwaith hwn yn canolbwyntio ar ddangos effaith gwaith ieuenctid y tu mewn a’r tu allan i’r sector. Yn rhannol, bydd hyn yn canolbwyntio ar farchnata a chyfathrebu cryfach, a bydd yn defnyddio’r grŵp gorchwyl a gorffen presennol i wneud hyn.

Nid yw dull y ffrwd waith hon wedi’i sefydlu eto. Mae’n waith allanol, gyda’r angen i ddeall sut i ddatblygu a chryfhau cysylltiadau â sectorau eraill megis datblygu’r cwricwlwm, iechyd, gwasanaethau iechyd meddwl, gofal cymdeithasol, yr heddlu a chyfiawnder ieuenctid a’r celfyddydau, ynghyd â chodi proffil gwaith ieuenctid, er enghraifft, gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.

Grwpiau ychwanegol ochr yn ochr â Grwpiau Cyfranogiad y Strategaeth

Grŵp gorchwyl a gorffen y Rhwydwaith Trawsnewid Gwaith Ieuenctid Digidol

Nod y grŵp hwn, dan arweiniad Dusty Kennedy, yw annog defnydd ehangach o ddulliau gwaith ieuenctid digidol i rymuso gwybodaeth, cyfraniad a mwynhad pobl ifanc o waith ieuenctid.

Bydd y Rhwydwaith yn sicrhau bod pob un o’r ffrydiau gwaith hyn o dan y cynllun gweithredu yn ymgorffori digidol fel ystyriaeth allweddol o’u gweithgarwch.

Mae’r Rhwydwaith yn fyw nawr ar Slack. Ymunwch â’r rhwydwaith.

Grŵp Gwaith Ieuenctid Cymraeg

Mae’r grŵp hwn yn cyfarfod yn rheolaidd i hyrwyddo a rhannu arfer da. Does dim angen i chi allu siarad Cymraeg i fod yn awyddus i ddarparu Gwaith Ieuenctid cyfrwng Cymraeg, ac efallai y bydd gennych chi safbwynt unigryw ar gyflwyno ffyrdd unigryw o weithio i gyflwyno darpariaeth Gymraeg.

Cymryd rhan

Os hoffech fwy o wybodaeth am unrhyw un o’r grwpiau hyn, neu i fynegi diddordeb mewn ymuno, anfonwch e-bost i flwch negeseuon e-bost bwrddgwaithieuenctid@llyw.cymru erbyn dydd Mercher 20 Tachwedd.

Dylai eich datganiad o ddiddordeb amlinellu’r sgiliau unigryw y teimlwch y gallwch chi eu hychwanegu at y grŵp. Ym mhob achos, bydd y Bwrdd yn awyddus i ddenu aelodau newydd a fydd yn gallu cyfrannu arbenigedd a gwybodaeth newydd.