Neidio i'r prif gynnwy

Beth sydd dan sylw yn yr ymgynghoriad hwn?

Diben yr ymgynghoriad hwn yw ceisio safbwyntiau ar y Cynllun Gweithredu ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd drafft. Nod y Cynllun Gweithredu yw cyfeirio gweithgarwch ar lefel uchel, ar gyfer y gwaith sy'n ofynnol gan Lywodraeth Cymru a'i phartneriaid i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. Rydym am i'r Cynllun Gweithredu fod yn adnodd hyblyg y gellir ei addasu i fodloni'r amgylchiadau newidiol a all effeithio ar bolisïau ac arferion atal digartrefedd. Bydd yn arbennig o berthnasol i dymor presennol Llywodraeth Cymru, ond rydym hefyd am sicrhau y caiff gwaith parhaus ei seilio arno.

Mae'r Cynllun Gweithredu yn defnyddio Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Atal a Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd a gwaith y Grŵp Gweithredu arbenigol ar Ddigartrefedd a'r tri adroddiad a luniwyd ganddo. Ymgysylltodd y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd yn helaeth ag amrywiaeth eang o randdeiliaid, yn cynnwys pobl sydd wedi cael profiadau personol o ddigartrefedd. Felly, ni fwriedir i'r Cynllun Gweithredu na'r ymgynghoriad arno ailedrych ar yr argymhellion a ystyriwyd yn fanwl gan y Grŵp.
Cyn yr ymgynghoriad hwn, rhannwyd drafft cynnar o'r Cynllun Gweithredu ag aelodau o'r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ar Ddigartrefedd a Chymorth Tai, y cymerodd llawer o'i aelodau ran yng ngwaith y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd.

Beth yw'r sefyllfa bresennol?

Mae'r cyd-destun ar gyfer gwaith atal digartrefedd wedi newid ers dechrau'r pandemig, gyda'r dull o sicrhau ‘nad oes neb yn cael eu gadael allan’ yn golygu bod mwy na 12,400 o bobl wedi cael cymorth i sicrhau llety dros dro ers mis Mawrth 2020. Felly, mae'r pandemig wedi rhoi darlun llawer cliriach o raddau'r hyn a arferai fod yn ddigartrefedd cudd yng Nghymru, yn ogystal â'r anghenion cymorth na chawsant eu diwallu'n flaenorol. Mae hyn wedi arwain at gynnydd mewn buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, gyda mwy na £185m wedi'i fuddsoddi mewn gwasanaethau cymorth tai a digartrefedd – a £250m wedi'i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol eleni yn unig, sef y swm uchaf erioed.

Er bod effaith y pandemig wedi newid y dirwedd yn sylweddol ym mhob agwedd ar ein bywydau yng Nghymru, nid yw'r cyfeiriad strategol a nodwyd yn ein Strategaeth yn 2019, ac a gefnogir gan yr argymhellion yn adroddiadau'r Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd, wedi newid. Mae'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru drwy'r pandemig a'r broses drawsnewid a roddwyd ar waith yn ein gwasanaethau digartrefedd wedi'u llywio gan argymhellion y Grŵp Gweithredu.

Pam rydym yn cynnig newid?

Ynghyd â'r cyd-destun gwahanol a gafwyd yn sgil y pandemig, a roddodd o bosibl ddarlun cliriach o'r gwir nifer o bobl yng Nghymru sy'n profi digartrefdd, nododd Gweinidogion Cymru na fyddwn yn dychwelyd i'r dull o atal digartrefedd a oedd yn bodoli cyn y pandemig. Mae'r ymgyrch i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru wedi'i hadlewyrchu drwy ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i ddiwygio'r ddarpariaeth digartrefedd yn sylfaenol er mwyn canolbwyntio ar atal ac ailgartrefu cyflym. Ceir cyfle nawr i gyflawni'r amcan hwn, o ystyried bod cynifer o bobl yn ymgysylltu â gwasanaethau naill ai am y tro cyntaf neu ar sail fwy cyson oherwydd y pandemig. Caiff gweithgarwch sy'n gysylltiedig â'r Cynllun Gweithredu ei gyflawni mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a sefydliadau allweddol eraill sy'n cefnogi pobl sy'n profi digartrefedd neu sy'n wynebu risg o ddigartrefedd. 

Pa newidiadau penodol rydym yn eu cynnig? / Pa opsiynau rydym yn eu hystyried?

Mae natur lefel uchel y Cynllun Gweithredu yn golygu ei fod wedi'i gynllunio i roi blaenoriaeth i nifer cyfyngedig o gamau allweddol, a fydd yn cael yr effaith fwyaf posibl ar ymdrechion i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. Bydd rhaglenni gwaith a phrosiectau eraill ledled Cymru yn ategu'r Cynllun Gweithredu ac yn berthnasol i bob cam gweithredu. Mae angen cael safbwyntiau rhanddeiliaid er mwyn deall a oes dull teg a chytbwys ar waith drwy ffocws polisi'r cynllun gweithredu ac yn y camau gweithredu eu hunain.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1

Mae'r Cynllun Gweithredu wedi'i rannu'n bedwar maes ffocws allweddol (Partneriaethau, Prin, Byrhoedlog a Ddim yn Digwydd Eto). Ydych chi'n cytuno mai dyma'r meysydd ffocws / themâu cywir i'r cynllun ganolbwyntio arnynt?

[Ydw, Nac ydw, Yn rhannol]

Esboniwch pam rydych o'r farn mai dyma'r meysydd ffocws / themâu cywir neu a ydych o'r farn bod angen dull gweithredu gwahanol.

Cwestiwn 2

A yw'r camau gweithredu yn y Cynllun Gweithredu yn adlewyrchu'r camau lefel uchel mwyaf effeithiol a fydd yn galluogi Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru?

[Ydynt, Nac ydynt, Yn rhannol]

Sut y gellir eu gwella?

Cwestiwn 3

A yw'r Cynllun Gweithredu yn cyd-fynd â meysydd polisi ac arferion perthnasol eraill?

[Ydy, Nac ydy, Yn rhannol]

Esboniwch pam ei fod yn cyd-fynd yn dda neu nodwch sut y gellid ei wella.

Cwestiwn 4

Rydym wedi datblygu nifer o gamau gweithredu a cherrig milltir allweddol. Ydych chi o'r farn mai dyma'r rhai cywir?

[Ydw, Nac ydw, Yn rhannol]

Cwestiwn 5

Ydych chi o'r farn bod unrhyw feysydd gweithredu allweddol na chânt eu cwmpasu gan y camau gweithredu lefel uchel? Os felly, pa rai?

Cwestiwn 6

Hoffem wybod eich barn am yr effeithiau y byddai'r Cynllun Gweithredu ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Beth fyddai'r effeithiau, yn eich barn chi? Sut y gellid cynyddu effeithiau cadarnhaol, neu leihau effeithiau negyddol? 

Cwestiwn 7

Esboniwch hefyd sut, yn eich barn chi, y gallai'r cynllun arfaethedig gael ei lunio neu ei newid er mwyn sicrhau effeithiau cadarnhaol neu effeithiau cadarnhaol cynyddol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, ac atal unrhyw effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Cwestiwn 8

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â hwy yn benodol, defnyddiwch y lle hwn i'w nodi:

Nodwch yma:

Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth i chi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl i wneud y canlynol:

  • i gael gwybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • gwrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu (o dan amgylchiadau penodol)
  • gofyn i'ch data gael eu ‘dileu’ (o dan amgylchiadau penodol)
  • i gludadwyedd data (o dan amgylchiadau penodol)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

e-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu
0303 123 1113

Gwefan: https://ico.org.uk/