Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, bydd Ken Skates yn cyflwyno deddfwriaeth newydd gerbron y Senedd a fydd yn rhoi pwerau mentrus newydd i gynghorau i ddatblygu gwasanaethau bysiau ar draws Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r pecyn cymorth newydd yn y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yn cynnwys pwerau newydd i gynghorau fasnachfreinio gwasanaethau bysiau ar lwybrau ac mae'n llywio'r ffordd i awdurdodau lleol redeg eu cwmnïau bysiau eu hunain.

Wrth siarad cyn y lansiad, dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a'r Gogledd, Ken Skates, fod dadreoleiddio gwasanaethau bysiau yn yr 1980au wedi bod yn 'fethiant gwael' a dywedwyd bod angen gweithredu i roi teithwyr yn gyntaf ac i wella gwasanaethau.

Mae'r Bil newydd a gyflwynwyd yn y Senedd hefyd yn cynnwys pwerau ar gyfer cytundebau partneriaeth newydd rhwng gweithredwyr a chynghorau yn ogystal â phwerau i sicrhau bod gwybodaeth am amserlenni a llwybrau ar gael yn hawdd i deithwyr a gweithredwyr newydd posibl.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a'r Gogledd: 

"Mae gwasanaethau bysiau yn hanfodol i'n bywydau, naill ai drwy helpu pobl i gyrraedd y gwaith ac apwyntiadau meddygol pwysig neu ein helpu i gadw mewn cysylltiad â theulu, ffrindiau a phobl sy'n annwyl inni - mae pob un ohonom, mewn un ffordd neu'r llall, yn dibynnu ar fysiau.

"Ond mae'n glir bod dadreoli gwasanaethau bysiau yn yr 1980au wedi bod yn fethiant gwael. Mae niferoedd y teithwyr yn gostwng ac mae'n glir nad yw'r model marchnad agored yn gweithio. Nid oes modd gwerthu gwasanaethau bysiau fel powdr golchi neu afalau - maent yn wasanaeth cyhoeddus hanfodol sydd angen eu cynllunio mewn ffordd gydgysylltiedig a rhesymol.

“Mae’r ddeddfwriaeth hon yn ein helpu i ddod â’r model marchnad agored i ben. Mae’n rhoi teithwyr yn gyntaf drwy roi cyfle i awdurdodau lleol gynllunio a darparu gwasanaethau bysiau yn well drwy bwerau masnachfreinio newydd a thrwy gael gwared ar y gwaharddiad ar gynghorau rhag sefydlu eu cwmnïau bysiau eu hunain.

“Nid oes gan 15% o aelwydydd yng Nghymru'r mynediad i gar ac mae angen inni gymryd camau i wella pa mor hyfyw a deniadol yw defnyddio opsiynau eraill yn hytrach na cheir, megis bysiau. Mae gwella trafnidiaeth gyhoeddus hefyd yn rhan hanfodol o’n hymateb i’r argyfwng hinsawdd a’r angen am newid moddol yn ein cymunedau.

“Nid yw’r ddeddfwriaeth hon yn ateb perffaith ar ei phen ei hun - mae’n rhaid iddi fynd law yn llaw â’n buddsoddiad mewn systemau Metro a chynlluniau i fynd i’r afael â thagfeydd. Ond, mae’n becyn cymorth hanfodol sy’n gallu ein helpu ni i wireddu ein huchelgais ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus integredig a ddidrafferth sy’n sicrhau nad yw pobl yn defnyddio eu ceir.

Bydd y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yn cael ei gyflwyno gerbron y Senedd a bydd yn rhoi gwell amrywiaeth o arfau cynllunio i awdurdodau lleol. Bydd hefyd yn rhoi trefniadau newydd yn eu lle ar gyfer rhannu gwybodaeth.

  • bydd y Bil yn galluogi llunio cynlluniau partneriaeth rhwng awdurdodau lleol a chwmnïau bysiau, gan ganiatáu iddynt gytuno ar sut y mae modd gwella gwasanaethau. Bydd awdurdodau lleol yn gallu, er enghraifft, gyflwyno mesurau megis gorfodi lonydd bysiau a chyfleusterau, megis safleoedd bysiau, a gall gweithredwyr gytuno i ddarparu gwasanaethau ar amserau penodol, a chytuno ar amlder gwasanaethau a phrisiau tocynnau
  • mae’r Bil yn darparu pwerau newydd i wasanaethau Masnachfreinio sy’n golygu y gellid rhoi hawl neilltuedig iddynt redeg gwasanaethau bysiau ar lwybrau cytunedig
  • gallai awdurdodau lleol hefyd redeg eu gwasanaethau bysiau eu hunain, i ddarparu gwasanaethau sydd eisoes yn bod neu i lenwi bylchau yn y ddarpariaeth honno. Gallent weithio gydag awdurdodau lleol eraill i redeg gwasanaeth bysiau ar draws gwledydd gwahanol
  • bydd hefyd bwerau i hwyluso’r gwaith o wella’r ffordd y caiff gwybodaeth ei rhannu gyda theithwyr, fel bod yr wybodaeth ddiweddaraf ar gael i deithwyr. Gallai hyn gynnwys gwybodaeth ar lwybrau ac amserlenni, gwybodaeth am brisiau tocynnau a mathau o docynnau, a gwybodaeth byw am wasanaethau
  • yn olaf, bydd y Bil yn caniatáu i wybodaeth gael ei rhannu gydag awdurdodau lleol pan fo cwmnïau bysiau yn cynnig stopio neu newid gwasanaeth y maent yn ei redeg. Gallai hyn gynnwys gwybodaeth am niferoedd y teithwyr a’r arian y mae gweithredwyr yn ei wneud o’r gwasanaeth. Gallai cael mynediad i’r wybodaeth hon helpu awdurdodau lleol ddisodli gwasanaethau pe bai hynny’n angenrheidiol.

Gyda’i gilydd, bydd y mesurau hyn yn helpu i wella gwasanaethau bysiau fel rhan o raglen ehangach Llywodraeth Cymru i ddiwygio trafnidiaeth gyhoeddus integredig.