Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cymru) 2021: asesiad effaith integredig
Ystyried effaith targedau hinsawdd fwy uchelgeisiol ar lesiant.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Teitl y cynnig |
Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cymru) 2021:
|
---|---|
Swyddog(ion) sy’n cwblhau’r Asesiad Effaith Integredig | Graham Craig Y Tîm Datgarboneiddio |
Adran | Yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol |
Pennaeth yr Is-adran/Uwch-swyddog Cyfrifol (enw) | Chris Wheeler |
Y Gweinidog sy’n gyfrifol | Lesley Griffiths AS Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig |
Dyddiad Cychwyn | 12 Mai 2020 |
Noder: Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, mae adrannau 1, 7 ac 8 wedi eu cyhoeddi ochr yn ochr â’r rheoliadau. Mae adrannau eraill ar gael ar gais.
Adran 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?
Ar ffurf naratif, disgrifiwch y mater a’r camau a gynigir gan Lywodraeth Cymru.
Mae gwyddoniaeth hinsawdd yn parhau i ddangos bod gweithgarwch dynol yn cynhesu’r blaned a bod yr effaith ddilynol ar batrymau tywydd yn arwain at ganlyniadau cynyddol negyddol i ecosystemau, economïau a phobl. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cynyddu targedau hinsawdd Cymru mewn ymateb i’r wyddoniaeth hinsawdd ddiweddaraf ac argymhellion y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd:
- Cyllideb Garbon 2 (2021-2025): 37% islaw’r llinell sylfaen ar gyfartaledd gyda therfyn credyd (‘gwrthbwyso’) o 0%
- Cyllideb Garbon 3 (2026-2030): 58% islaw’r llinell sylfaen ar gyfartaledd
- targed 2030, gostyngiad o 63% i allyriadau o’u cymharu â’r llinell sylfaen
- targed 2040, gostyngiad o 89% i allyriadau o’u cymharu â’r llinell sylfaen
- targed 2050, gostyngiad o 100% neu fwy i allyriadau o’u cymharu â’r llinell sylfaen (‘sero net’)
Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn amcangyfrif costau a buddion y Llwybr Cytbwys tuag at sero net yn 2050 a argymhellir gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd. Fodd bynnag, mae effaith wirioneddol cyflawni ein targedau ar ein nodau a’n hamcanion llesiant yn dibynnu ar y mesurau a’r polisïau a ddewisir. Nodir y polisïau hyn mewn adroddiad ar gyfer pob cyfnod cyllideb garbon, a chyhoeddir y nesaf ym mis Tachwedd 2021. Mae polisïau i gyflawni ein cyllidebau carbon yn ddarostyngedig i broses ymgysylltu a’u hasesiadau effaith eu hunain.
Sut ydych chi wedi / a wnewch chi gymhwyso’r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i’r camau arfaethedig, drwy gydol y polisi a’r cylch cyflenwi?
Tymor hir
Trwy bennu fframwaith hirdymor ar gyfer cyflawni’r targed sero net erbyn 2050, mae’r Rheoliadau yn darparu cerrig milltir a chyfeiriad ar gyfer llwybr datgarboneiddio Cymru, ac mae’r cyllidebau carbon yn helpu i ganolbwyntio camau gweithredu tymor agos er mwyn ein galluogi i gyrraedd ein nod hirdymor. Maent yn darparu eglurder i weledigaeth Gweinidogion Cymru ar gyfer dyfodol sero net, ac ymrwymiad iddo. O’r herwydd, maent yn darparu cyd-destun fel y gall rhai sy’n gwneud penderfyniadau heddiw amddiffyn anghenion cenedlaethau’r dyfodol.
Sut bynnag y cyflawnir y targedau a’r cyllidebau, bydd lleihau allyriadau Cymru yn helpu i leihau’r effeithiau ar Gymru a’r byd sy’n deillio o dymheredd uwch. Mae’r effeithiau hyn yn cynnwys llifogydd, risgiau i iechyd, prinder dŵr a risgiau i fioamrywiaeth.
Atal
Trwy ymdrin ag allyriadau nwyon tŷ gwydr, mae’r Rheoliadau yn gosod y fframwaith ar gyfer mynd i’r afael ag achos sylfaenol y materion a’r risgiau sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd. Maent yn creu angen am fesurau a pholisïau a fydd yn lleihau allyriadau ac felly’n helpu i leihau effeithiau byd-eang newid yn yr hinsawdd. Bydd cyflawni targedau gostwng allyriadau Cymru a byd-eang yn cyfyngu ar effeithiau newid yn yr hinsawdd, gan leihau’r angen am gamau i ymaddasu ac osgoi’r effeithiau ar ein hamgylchedd, ein cymdeithas a’n heconomi.
Integreiddio
Yn ogystal â lleihau effeithiau yn fyd-eang, mae cymryd camau i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd yn helpu i gefnogi’r nodau datblygu cynaliadwy byd-eang. Mae’r Rheoliadau yn cyflawni ymrwymiad Ffyniant i Bawb i “[b]ennu llwybr carbon isel gan roi eglurder a sicrwydd fel bod modd gweithredu a buddsoddi…drwy osod targedau ar gyfer 2020, 2030 a 2040”. Wrth weithio tuag at y targedau, bydd modd mabwysiadu mesurau a pholisïau sy’n cefnogi blaenoriaethau ac ymrwymiadau eraill Llywodraeth Cymru a chyflawni buddion y tu hwnt i leihau allyriadau. Mae enghreifftiau o bolisïau o’r fath yn cynnwys:
- Mae newid o ddefnyddio cerbydau preifat i gerdded neu feicio yn lleihau allyriadau ac yn gwella iechyd
- Mae inswleiddio cartrefi yn lleihau allyriadau, yn gostwng biliau ynni ac yn gwella iechyd
- Mae lleihau’r allyriadau sy’n deillio o ddefnyddio cerbydau preifat yn gwella ansawdd yr aer ac iechyd
Ystyrir effaith mesurau a pholisïau ar gyrff cyhoeddus eraill a’u hamcanion llesiant.
Cydweithio
Mae’r Rheoliadau yn darparu’r dulliau technegol a’r fframwaith llywodraethu ar gyfer cyflawni’r targed sero net erbyn 2050 o ran lleihau allyriadau. Er mwyn cyflawni’r targed hwnnw, bydd angen cyfraniadau sylweddol gan nifer enfawr ac amrywiaeth eang o bartneriaid, gan gynnwys:
- Holl adrannau Llywodraeth Cymru
- Adrannau Llywodraeth y DU
- Cyrff eraill yn y sector cyhoeddus
- Cwmnïau ynni
- Darparwyr trafnidiaeth
- Gweithgynhyrchwyr
- Ffermwyr a thirfeddianwyr
- Unigolion
Yn Llywodraeth Cymru, mae Bwrdd Portffolio Trawslywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd wedi ystyried cyngor y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd ac wedi gwneud argymhelliad i’r Cabinet.
Nodir mesurau a pholisïau mewn adroddiad ar gyfer pob cyfnod cyllideb garbon, ac ym mis Tachwedd 2021 fydd y nesaf. Mae polisïau ar gyfer cyflawni ein cyllidebau carbon yn ddarostyngedig i broses ymgysylltu a chyfnod ymgynghori ffurfiol, pan fo hynny’n briodol.
Cyfranogiad
Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ofyn am gyngor gan ein corff cynghori, y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, ac ystyried y cyngor hwnnw cyn gosod rheoliadau. Cyhoeddwyd y cyngor hwn ym mis Rhagfyr 2020. Cynhaliodd y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd Gais am Dystiolaeth i gefnogi eu cyngor. Gwnaethom gynnal digwyddiadau i randdeiliaid gyda’r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd yn Llandudno a Chaerdydd ym mis Ionawr 2020. Roedd dros 70 o gynrychiolwyr o amrywiaeth o sectorau yn bresennol.
Roedd y Cais am Dystiolaeth yn gyfle i bartïon â buddiant lywio cyngor ac argymhellion y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd i Lywodraeth Cymru. Wrth i bolisïau gael eu datblygu er mwyn cyflawni’r targedau a’r cyllidebau, byddwn yn cynnwys y rhai yr effeithir arnynt er mwyn deall yr ystod lawn o effeithiau.
Effaith, Costau ac Arbedion
Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn ystyried costau, buddion ac effeithiau y Llwybr Cytbwys a argymhellir gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd.
Adran 7. Casgliad
7.1 Sut y mae’r bobl y mae’r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi eu cynnwys yn y broses o ddatblygu’r cynnig?
Wrth baratoi eu cyngor, cynhaliodd y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd Gais cyhoeddus am Dystiolaeth er mwyn casglu sylwadau gan sefydliadau ac unigolion ar faterion sy’n berthnasol i’r rheoliadau, yn ogystal â Chyllideb Garbon 6 y DU. Cynhaliwyd y Cais am Dystiolaeth o 5 Rhagfyr 2019 i 5 Chwefror 2020. Cynhaliodd Llywodraeth Cymru a’r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd ddau ddigwyddiad i randdeiliaid yn ystod y cyfnod: un yn Llandudno ar 20 Ionawr 2020 ac un yng Nghaerdydd ar 21 Ionawr 2020, ac roedd oddeutu 60 o gynrychiolwyr yn bresennol.
Roedd pedwar cwestiwn yn y Cais am Dystiolaeth â phwyslais ar Gymru. Cafwyd rhwng 11 a 37 o ymatebion i bob un [1]. Mae trosolwg lefel uchel o’r ymatebion a rhestr o ymatebwyr ar gael yn nogfen Crynodeb o’r ymatebion y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd [2].
Rydym wedi cyhoeddi ein Dull Ymgysylltu ar gyfer Cynllun Cyflawni Carbon Isel 2 sy’n disgrifio sut yr ydym yn bwriadu cynnwys a chydweithio â phobl a rhanddeiliaid drwy gydol 2021. Rydym hefyd yn parhau i ymgynghori ar y polisïau sydd eu hangen i gyflawni’r cyllidebau a’r targedau carbon, megis Strategaeth Gwefru Ceir Trydan, Adolygiad o Rannau L ac F o’r Rheoliadau Adeiladu, a Bil Amaethyddiaeth (Cymru).
7.2 Beth yw’r effeithiau mwyaf arwyddocaol, cadarnhaol a negyddol?
7.3 Yng ngoleuni’r effeithiau a nodwyd, sut bydd y cynnig:
-
yn sicrhau’r cyfraniad mwyaf posibl i’n hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant; a/neu
-
yn osgoi, yn lleihau neu’n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?
Nid yw’n bosibl nodi effeithiau’r rheoliadau gan mai dim ond darparu’r fframwaith statudol ar gyfer lleihau allyriadau y maent. Mae effaith cymryd camau i gyflawni’r targedau a’r cyllidebau carbon yn dibynnu ar y mesurau a’r polisïau a ddewisir. Nodir y polisïau hyn mewn adroddiad ar gyfer pob cyfnod cyllideb garbon, a chyhoeddir y nesaf ym mis Tachwedd 2021. Mae polisïau i gyflawni ein cyllidebau carbon yn ddarostyngedig i broses ymgysylltu ac asesiadau effaith, gan gynnwys Asesiad Effaith Rheoleiddiol pan fo hynny’n briodol.
Fodd bynnag, darparodd y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd syniad o’r effeithiau a allai ddeillio o’r cyfnod pontio sero net yn eu cyngor ym mis Rhagfyr 2020 [3]. Nododd Grŵp Cynghori Arbenigol ar Iechyd y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd bum maes allweddol y byddai eu gweithredu yn cyflwyno buddion i iechyd y cyhoedd ac yn lleihau anghydraddoldeb iechyd, gan gyfrannu at liniaru’r newid yn yr hinsawdd:
- Gwell ansawdd aer a gyflawnir trwy symud i system ynni lanach a symud i ffwrdd o losgi tanwydd ffosil ym mwyafrif y sectorau yn y DU.
- Dulliau iachach o deithio, yn enwedig oherwydd y buddion iechyd sy’n deillio o gerdded a beicio, a lleihau llygredd aer o gerbydau ffordd.
- Cartrefi mwy cyfforddus ac effeithlon sy’n garbon isel, yn effeithlon o ran ynni ac wedi eu cynllunio ar gyfer hinsawdd sy’n newid.
- Gwell deiet gyda phwyslais ar ddewisiadau eraill, sy’n iach ac yn gynaliadwy, yn lle’r bwydydd carbon uchaf.
- Modelau economaidd a chyflogaeth gynaliadwy sy’n cefnogi iechyd a llesiant yn well.
Gan nodi’r manteision posibl i iechyd y cyhoedd, nododd y Grŵp mai’r ysgogiad mwyaf o hyd i ganlyniadau iechyd yn y DU yw anghydraddoldeb economaidd. Felly mae trawsnewidiad teg yn rhan hanfodol o bolisi hinsawdd a pholisi iechyd llwyddiannus.
Tynnodd y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd sylw hefyd at yr effeithiau cadarnhaol ar natur sy’n deillio o sawl mesur sydd wedi’u cynnwys yn eu senarios:
- Plannu coed: gwella ansawdd aer, rheoleiddio llifogydd a llif stormydd.
- Adfer mawndiroedd: diogelu rhag llifogydd, a chynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt.
- Defnydd mwy effeithlon o wrteithiau mewn amaethyddiaeth (ansawdd dŵr a bioamrywiaeth).
7.4 Sut bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a’i gwerthuso wrth iddo ddatblygu a phan fydd yn dod i ben?
Bob blwyddyn, cyhoeddir adroddiad ar Restr Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr Gweinyddiaethau Datganoledig ar wefan y Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol [4]. Mae’n cymryd 18 mis i lunio’r data allyriadau. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, y cyhoeddir data 2018 yn ystod haf 2020. Bydd Rhestr Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr Cymru yn dangos a yw bwriad y polisi y tu ôl i’r rheoliadau yn cael ei gyflawni ai peidio.
Hefyd, cyn diwedd yr ail flwyddyn ar ôl y cyfnod cyllidebol, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi datganiad ar ôl pob cyfnod cyllidebol yn nodi a yw Cymru wedi cyflawni’r gyllideb, a yw wedi debydu neu gredydu unrhyw unedau carbon ac yn rhoi manylion am fath a nifer yr unedau. Er enghraifft, bydd y datganiad ar gyfer Cyllideb Garbon 1 (2016-20) yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd 2022. Heb fod yn hwyrach na chwe mis ar ôl i Weinidogion Cymru osod y datganiad cynnydd terfynol ar gyfer y cyfnod cyllidebol, mae’n rhaid i’r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd ddarparu adroddiad sy’n nodi ei safbwyntiau ar y ffordd y cyflawnwyd, neu na chyflawnwyd, y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod, a’r camau a gymerodd Gweinidogion Cymru i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr net Cymru yn ystod y cyfnod. Os bydd Cymru’n methu â chyflawni cyllideb garbon, o fewn tri mis i gyhoeddi’r datganiad, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi adroddiad yn disgrifio sut y bydd yn gwneud iawn am yr allyriadau gormodol yn ystod cyfnodau cyllidebol diweddarach.
Yn yr un modd, cyn diwedd yr ail flwyddyn ar ôl y flwyddyn targed interim berthnasol, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi datganiad ynghylch a yw’r targed allyriadau interim wedi ei gyrraedd ai peidio. Er enghraifft, bydd y datganiad ar gyfer targed 2020 yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd 2022. Yn dilyn datganiad Llywodraeth Cymru, bydd y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd yn rhoi cyngor ar ba un a yw’r targed(au) interim sydd ar ddod a tharged 2050 y targed uchaf y gellir ei gyrraedd yng Nghymru. Os nad ydyw, mae’n rhaid iddi ddatgan beth yw’r targed uchaf y gellir ei gyrraedd.
[1] Chweched Targed y Gyllideb Carbon ac allyriadau Cymru - Crynodeb o'r Galwad am Dystiolaeth
[2] Targedau allyriadau Cymru: Crynodeb o'r ymatebion i Alwad am Dystiolaeth (Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, 2020)
[3] Y llwybr i Net Zero a symud ymlaen i leihau allyriadau yng Nghymru
[4] Gweinyddiaethau Datganoledig - Adroddiadau Nwyon Tŷ Gwydr
Section 8. Declaration
Rwyf yn fodlon bod effaith y camau arfaethedig wedi ei hasesu a’i chofnodi’n ddigonol.
Enw’r Uwch-swyddog Cyfrifol / Dirprwy Gyfarwyddwr: Chris Wheeler
Adran: Yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
Dyddiad: 27 Ionawr 2021