Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynnydd i bremiymau’r dreth gyngor ar y lefel uchaf y gellir ei defnyddio ar gyfer ail gartrefi, gan gynnwys rheolau treth lleol newydd ar gyfer llety gwyliau.
Mae'r newidiadau hyn yn cynrychioli’r camau ychwanegol a gymerir i sicrhau bod pobl yn gallu dod o hyd i gartref fforddiadwy yn y lle y maent wedi’u dwyn i fyny ynddo.
Mae'r mesurau'n rhan o ymrwymiad ehangach i fynd i'r afael â phroblemau ail gartrefi a thai anfforddiadwy sy'n wynebu llawer o gymunedau yng Nghymru, fel y nodir yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Nod yr ymrwymiad yw cymryd camau radical ar unwaith, gan ddefnyddio'r systemau cynllunio, eiddo a threthu.
O ran y lefel uchaf y gall awdurdodau lleol ei defnyddio wrth bennu premiymau’r dreth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor, bydd honno’n cynyddu i 300% - ac yn weithredol o fis Ebrill 2023.
Bydd hyn yn galluogi cynghorau i benderfynu ar y lefel sy'n briodol i’w hamgylchiadau lleol unigol. Gall cynghorau bennu’r premiwm ar unrhyw lefel hyd at yr uchafswm, a gallant gymhwyso premiymau gwahanol i ail gartrefi ac anheddau gwag hirdymor.
Ar hyn o bryd, mae premiymau wedi’u pennu ar y lefel uchaf y gellir ei chodi, sef 100%, ac fe'u talwyd ar fwy na 23,000 o eiddo yng Nghymru eleni. Gall yr awdurdodau lleol sy'n dewis cymhwyso premiymau fanteisio ar gyllid ychwanegol, ac mae Llywodraeth Cymru wedi annog cynghorau i ddefnyddio'r adnoddau hynny i wella'r cyflenwad o dai fforddiadwy.
Bydd y meini prawf a ddefnyddir ar gyfer diffinio bod llety hunanddarpar yn talu ardrethi busnes yn hytrach na'r dreth gyngor hefyd yn newid o fis Ebrill 2023.
Ar hyn o bryd, bydd eiddo sydd ar gael i'w osod am o leiaf 140 diwrnod, ac sy'n cael ei osod mewn gwirionedd am o leiaf 70 diwrnod, yn talu ardrethi yn hytrach na'r dreth gyngor. Bydd y newid yn cynyddu'r trothwyon hyn, fel y gall eiddo fod ar gael i'w osod am o leiaf 252 diwrnod a chael ei osod mewn gwirionedd am o leiaf 182 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.
Bwriad y newid yw dangos yn gliriach bod yr eiddo dan sylw yn cael ei osod yn rheolaidd fel rhan o fusnes llety gwyliau gwirioneddol, a’i fod y gwneud cyfraniad sylweddol i'r economi leol.
Mae'r ddau newid hyn yn dilyn proses ymgynghori a oedd yn cynnwys busnesau, y diwydiant twristiaeth a chymunedau lleol.
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:
"Bydd y newidiadau hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol ac yn rhoi mwy o gymorth i gymunedau lleol wrth fynd i'r afael â'r effeithiau negyddol y gall ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor eu cael. Dyma rai o'r ysgogiadau sydd ar gael inni wrth inni geisio creu system decach.
"Byddwn ni’n parhau i wneud pob ymdrech i gynyddu'r cyflenwad o dai sydd ar gael. Ac rydyn ni eisoes wedi dangos hynny drwy’r £1bn o gyllid sydd wedi’i neilltuo i adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel, a gafodd ei gynnwys yn y gyllideb a gyhoeddais ddiwedd y llynedd."
Dywedodd yr Aelod Dynodedig Sian Gwenllian AS:
"Mae'n amlwg ein bod ni fel gwlad yn wynebu argyfwng tai. Mae cymaint o bobl yn methu fforddio byw yn eu hardaloedd lleol, ac mae'r sefyllfa wedi gwaethygu yn ystod y pandemig. Bydd y newidiadau hyn yn gwneud gwahaniaeth, gan alluogi cynghorau i ymateb i'w hamgylchiadau lleol, a dechrau cau'r bwlch yn y gyfraith bresennol. Mae'n gam cyntaf, ond yn un pwysig, ar y daith tuag at system dai newydd, sy'n sicrhau bod gan bobl yr hawl i fyw yn eu cymuned.
"Drwy'r Cytundeb Cydweithio, rydyn ni wedi ymrwymo i gyflwyno pecyn o fesurau i fynd i'r afael â'r anghyfiawnderau yn y farchnad dai. Dim ond un rhan o'r pecyn ehangach hwnnw yw'r cyhoeddiad heddiw. Symptom o broblem ehangach yw ail gartrefi – sef marchnad sy'n trin eiddo, nid fel cartref, ond fel ffordd o wneud elw. Drwy weithio ar draws y pleidiau yn y Senedd, byddwn ni’n cyflwyno mwy o fesurau, cyn gynted ag y gallwn, i wneud prisiau tai a rhenti yn wirioneddol fforddiadwy i bobl."
Yr haf diwethaf, amlinellodd Llywodraeth Cymru gynllun tair elfen o fynd i'r afael â’r effaith y mae perchnogaeth ail gartrefi yn ei chael ar gymunedau Cymru. Mae’r cynllun hwnnw’n ceisio mynd i'r afael â fforddiadwyedd ac argaeledd tai, diwygio'r fframwaith a'r system reoleiddio, a sicrhau bod perchnogion ail gartrefi yn gwneud cyfraniad teg ac effeithiol i'r cymunedau y maen nhw’n prynu eiddo ynddynt.
Ychwanegodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd:
"Rydyn ni am i bobl allu byw a gweithio yn eu cymunedau lleol. Ond gwyddom fod prisiau tai cynyddol yn rhoi’r tai hynny allan o gyrraedd llawer o bobl. Ac mae’r sefyllfa honno’n waeth oherwydd yr argyfwng costau byw yr ydyn ni’n ei wynebu.
"Does dim ateb hawdd na chyflym. Mae hon yn broblem gymhleth sy'n gofyn am ystod eang o gamau gweithredu. Rydyn ni’n parhau i ystyried mesurau pellach y gallen ni eu cyflwyno. Y newidiadau hyn yw'r camau diweddaraf yr ydyn ni’n eu cymryd i gynyddu nifer y cartrefi sydd ar gael a sicrhau bod cyfraniad teg yn cael ei wneud."