Neidio i'r prif gynnwy

Yn cynnwys data chwarterol ynghylch nifer y rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd ar gyfer Chwefror i Ebrill 2022.

Mae’r ystadegau chwarterol, a gyhoeddir ar StatsCymru â dangosfyrddau ategol, yn cyflwyno gwybodaeth ar nifer y rhaglenni prentisiaeth a ddechreuwyd. Maent yn cynnwys data ynghylch lle mae’r dysgwr yn byw, math o raglen, grŵp oedran, sector, rhyw, ethnigrwydd, anabledd a blwyddyn academaidd.

Mae’r diweddariad hwn yn cynnwys ffigurau dros dro newydd ar gyfer Chwefror i Ebrill 2022 (Ch3). Cynhyrchir ffigurau dros dro bob chwarter, a chânt eu rhoi ar ffurf derfynol pan gaiff data Ch4 eu cyhoeddi ym mis Chwefror/Mawrth bob blwyddyn. Cânt eu cyfrifo gan ddefnyddio dyddiad cau ar gyfer dychwelyd data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru. Mae'r data ar gyfer blynyddoedd cynharach yn derfynol.

Ar 1 Awst 2021, rhoddwyd trefniadau newydd ar waith o ran contractau dysgu seiliedig ar waith. Yn sgil hyn, trosglwyddwyd tua 4,800 o brentisiaid presennol i ddarparwyr newydd, a chrëwyd cofnodion newydd ar gyfer rhaglenni yng Nghofnod Dysgu Gydol Oes Cymru. Fel rheol, caiff cofnodion newydd ar gyfer rhaglenni sy’n cael eu creu yn sgil trosglwyddo dysgwyr eu cynnwys yn yr ystadegau ar niferoedd sy’n dechrau prentisiaethau, ac eithrio’r mesur targed. Fodd bynnag, ar gyfer Ch1 2021/22 nid ydym wedi cynnwys y cofnodion hyn gan fod cymaint o ddysgwyr wedi trosglwyddo, ac y byddai’r ystadegau wedi creu darlun camarweiniol o’r niferoedd a ddechreuodd brentisiaethau yn y chwarter hwnnw pe baem wedi’u cynnwys.

O fis Mawrth 2020 ymlaen, amharwyd yn sylweddol ar y ddarpariaeth addysg gan bandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae'r ffigurau a gyflwynir yn y dangosfwrdd hwn yn debygol o fod wedi cael eu heffeithio. Dylid cadw hynny mewn cof, yn enwedig wrth eu cymharu â blynyddoedd blaenorol.

Pwyntiau allweddol o’r data diweddaraf

  • Dechreuodd 4,365 o unigolion ar raglenni prentisiaeth yn ystod Ch3 2021/22, o gymharu â 5,190 yn Ch3 2020/21.
  • Yn Ch3 2021/22, bu gostyngiadau yn nifer yr unigolion a ddechreuodd brentisiaethau Lefel 2, Lefel 3 a Lefel 4+, o gymharu â Ch3 2020/21. Gwelwyd gostyngiad o 3% yn nifer yr unigolion a ddechreuodd ar raglenni Prentisiaeth Sylfaen (Lefel 2) o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Dechreuodd 2,015 o unigolion ar raglenni dysgu o gymharu â 2,070 yn Ch3 2020/21.
  • Gwelwyd gostyngiad o 28% mewn prentisiaethau (Lefel 3) gyda 1,485 o raglenni yn cychwyn yn Ch3 2021/22 o gymharu â 2,060 yn Ch3 2020/21.
  • Gwelwyd gostyngiad o 18% mewn Prentisiaethau Uwch (Lefel 4+) o gymharu â Ch3 2020/21, gydag 865 o raglenni yn cychwyn o gymharu â 1,060 y flwyddyn flaenorol.
  • Yn Ch3 2021/22, Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus oedd y sector eang mwyaf poblogaidd, ond gwelwyd gostyngiad o 24% o gymharu â Ch3 2020/21. Dechreuwyd 2,125 o raglenni yn Ch3 2021/22 o gymharu â 2,810 yn yr un chwarter y flwyddyn flaenorol. Mewn Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus yr oedd 49% o’r holl raglenni prentisiaeth a ddechreuwyd, o gymharu â 54% yn Ch3 2020/21.
  • Yn Ch3 2021/22, roedd tua 68% o'r holl unigolion a ddechreuodd raglenni prentisiaeth yn ddysgwyr benywaidd, o gymharu â 66% yn Ch3 y flwyddyn flaenorol.
  • Ar ôl cyrraedd y targed ar gyfer tymor y Senedd flaenorol, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi pennu targed newydd i greu 125,000 o brentisiaethau pob oedran dros gyfnod tymor Senedd 2021-2026. Asesir y targed hwn gan ddefnyddio mesur llymach sy'n ystyried pobl sy'n gadael cyrsiau'n gynnar (yn ystod yr 8 wythnos gyntaf) a phobl sy'n trosglwyddo rhwng cofnodion prentisiaeth. Dechreuodd 3,865 o bobl ar brentisiaethau o'r fath yn ystod Ch3 2021/22. Gwelwyd cyfanswm o 18,675 yn dechrau prentisiaethau o’r math hwn ers pennu’r targed ym Mai 2021.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Ian Shipley

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.