Neidio i'r prif gynnwy

Nod y rhaglenni yw annog rhanbarthau'r UE i weithio gyda'i gilydd.

Maent yn rhoi cymorth i brosiectau sydd wedi'u targedu at hyrwyddo datblygu economaidd a chydweithredol.

Sut i wneud cais

Mae gan bob rhaglen ei phroses ymgeisio ei hun. Y rheswm am hyn yw bod awdurdodau rheoli gwahanol yn eu gweinyddu.

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am gyfleoedd i gael cyllid e-bost, territorialcooperationunit@llyw.cymru.

Gallwch wneud cais am gyllid gan y rhaglenni canlynol.

Rhaglen Iwerddon Cymru

Mae rhaglen Iwerddon Cymru werth €100 miliwn. Nod y rhaglen yw dod â sefydliadau ar arfordir Gorllewinol Cymru ac arfordir De-ddwyrain Iwerddon ynghyd.

Rhaglen Ardal yr Iwerydd

Mae rhaglen Ardal yr Iwerydd werth €140 miliwn. Nod y rhaglen hon yw cefnogi datblygu rhanbarthol a thwf cynaliadwy.

Rhaglen Gogledd-orllewin Ewrop

Mae rhaglen Gogledd-orllewin Ewrop werth €396 miliwn. Mae'n berthnasol i wledydd yng Ngogledd-orllewin Ewrop. Nod y rhaglen yw annog cydweithio mewn datblygu rhanbarthol.

Interreg EWROP

Mae rhaglen Interreg EWROP werth €359 miliwn. Mae'n berthnasol i’r 28 o wledydd sy'n aelod-wladwriaethau’r UE yn ogystal â'r Swistir a Norwy. Nod y rhaglen yw annog gwledydd i gyfnewid polisi.

URBACT III

Mae URBACT werth €74 miliwn. Mae'n berthnasol i’r 28 o wledydd sy'n aelod-wladwriaethau'r UE yn ogystal â'r Swistir a Norwy. Nod y rhaglen yw annog datblygu trefol cynaliadwy.

ESPON

Mae ESPON werth €41 miliwn. Mae'n berthnasol i’r 28 o wledydd sy'n aelod-wladwriaethau’r UE yn ogystal â Gwlad yr Iâ, y Swistir a Norwy. Nod y rhaglen yw annog datblygu polisi.

INTERACT

Mae INTERACT werth €39 miliwn. Mae'n berthnasol i’r 28 o wledydd sy'n aelod-wladwriaethau'r UE yn ogystal â'r Swistir a Norwy. Mae'n hyrwyddo arferion gorau mewn rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd.