Neidio i'r prif gynnwy

Y system newydd

1. Beth yw'r system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) newydd?

Y system ADY yw'r system gymorth statudol newydd i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru sydd ag ADY. Bydd yn dod i rym ym mis Medi 2021.

Crëwyd fframwaith deddfwriaethol y system newydd gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 ('y Ddeddf'), Cod ADY Cymru a'r rheoliadau a wnaed o dan y Ddeddf. Drwy'r fframwaith statudol hwn, nod Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod pob dysgwr sydd ag ADY yn cael cymorth i oresgyn rhwystrau i ddysgu ac yn gallu cyflawni’i botensial, drwy greu:

  • un fframwaith deddfwriaethol i gefnogi pob plentyn o oedran ysgol gorfodol neu’n iau sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, a phobl ifanc sydd ag ADY ac yn yr ysgol neu mewn addysg bellach;
  • proses integredig a chydweithredol o asesu, cynllunio a monitro'r cymorth a ddarperir i ddysgwyr ag ADY, sy'n hwyluso ymyriadau cynnar, amserol ac effeithiol;
  • system deg a thryloyw ar gyfer darparu gwybodaeth a chyngor ac ar gyfer datrys pryderon ac apelau.

Mae'r Ddeddf yn disodli'r termau 'anghenion addysgol arbennig (AAA)' ac

'anawsterau a/neu anghenion dysgu ychwanegol (AAD)' ac yn cyflwyno'r term newydd 'anghenion dysgu ychwanegol (ADY)'. Bydd gan bob plentyn a pherson ifanc ag ADY, beth bynnag yw difrifoldeb neu gymhlethdod ei anhawster neu ei anabledd dysgu, hawl i gynllun cymorth statudol a elwir yn 'Gynllun Datblygu Unigol (CDU)'. Bydd plant a phobl ifanc ag ADY yn cael cymorth a elwir yn ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) a fydd wedi'i nodi yn eu CDU.

2. Beth yw ADY?

Mae gan ddysgwr ADY os oes ganddo/ganddi anhawster neu anabledd dysgu sy’n gofyn am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.

Mae gan blentyn sydd o oedran ysgol gorfodol neu berson sy’n hŷn na’r oedran hwnnw anhawster neu anabledd dysgu:

  1. os yw'n cael anhawster sylweddol fwy i ddysgu na mwyafrif y dysgwyr eraill sydd o'r un oedran, neu
  2. os oes ganddo anabledd, yn ystyr Deddf Cydraddoldeb 2010, sy’n ei atal neu’n ei lesteirio rhag defnyddio cyfleusterau addysg neu hyfforddiant a ddarperir yn gyffredinol ar gyfer eraill sydd o’r un oedran mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir neu sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach.

Mae gan blentyn o dan oedran ysgol gorfodol anhawster neu anabledd dysgu os yw ef neu hi yn debygol (neu y byddai’n debygol pe na bai DDdY) o gael cryn dipyn yn fwy o anhawster wrth ddysgu na’r rhan fwyaf o’i gyfoedion/chyfoedion pan fydd yn cyrraedd oedran ysgol gorfodol. 

Mae DDdY i ddysgwr dros 3 oed yn golygu darpariaeth addysg neu hyfforddiant sy’n ychwanegol at, neu’n wahanol i’r ddarpariaeth a wneir yn gyffredinol i ddysgwyr eraill o’r un oedran mewn ysgol brif ffrwd, sefydliad addysg bellach neu leoliad addysg feithrin yng Nghymru. O ran y rheiny dan 3 oed, mae’n golygu darpariaeth addysg o unrhyw fath.

Gall fod gan blentyn neu berson ifanc anhawster neu anabledd dysgu nad yw'n galw am DDdY. Mewn achos felly, ni ystyrir bod gan y plentyn neu'r person ifanc ADY. Mae'n bwysig nodi hefyd na fydd pob anhawster neu anabledd dysgu sy'n deillio o gyflwr meddygol yn galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.

Un o egwyddorion y Cod ADY drafft yw addysg gynhwysol lle caiff plant a phobl ifanc eu cefnogi i fanteisio'n llawn ar addysg brif ffrwd, lle bynnag y bo'n ymarferol, a lle mae'r lleoliad cyfan yn ceisio diwallu anghenion dysgwyr ag ADY. Lle mae lleoliadau’n mabwysiadu dull gweithredu cwbl gynhwysol ynghyd â darpariaeth ddysgu gyffredinol sy’n diwallu ystod eang o anghenon dysgu, gall hyn helpu i negyddu’r angen am DDdY. Mae’r Cod ADY drafft yn darparu canllawiau ar y broses o asesu a phenderfynu a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY.

CDUau

3. Pwy fydd â hawl i gael CDU?

Mae Deddf ADY yn creu un system ddeddfwriaethol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed sydd ag ADY. Bydd yn disodli’r ddwy system sydd ar waith ar hyn o bryd i gefnogi plant a phobl ifanc o oedran ysgol gorfodol sydd ag AAA; a phobl ifanc mewn addysg bellach sydd ag AAD.

Mae'r system newydd yn disodli'r cynlluniau cymorth presennol (gan gynnwys Datganiadau AAA, cynlluniau addysg unigol i ddysgwyr sy'n destun Gweithredu gan yr Ysgol/Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy, a Chynlluniau Dysgu a Sgiliau ar gyfer dysgwyr ôl-16) â chynllun statudol newydd a elwir yn Gynllun Datblygu Unigol. Os penderfynir bod ADY gan blentyn yng Nghymru o oedran ysgol gorfodol, bydd ganddo hawl i CDU waeth lle mae’n cael ei addysgu.

Fodd bynnag, nid yw'r Ddeddf yn rhoi hawl i bobl ifanc ag ADY gael addysg barhaus hyd at 25 oed. Ei bwriad, yn hytrach, yw rhoi mynediad i addysg neu hyfforddiant pellach ar sail gyfartal â'r rheini sydd heb ADY.

Os oes gan berson ifanc ADY a'i fod yn mynychu ysgol a gynhelir neu sefydliad addysg bellach, bydd ganddo hawl i gael CDU bob amser. Fodd bynnag, os na fydd person ifanc ag ADY yn mynychu sefydliad addysg bellach neu ysgol a gynhelir, bydd angen i awdurdod lleol benderfynu, yn unol â'r rheoliadau i'w gwneud o dan y Ddeddf, a oes angen cynnal CDU ar ei gyfer.

Y bwriad yw i'r rheoliadau nodi'r materion sy'n berthnasol pan fydd awdurdod lleol yn ystyried pa anghenion rhesymol o ran addysg neu hyfforddiant sydd gan y person ifanc, os o gwbl. Byddant hefyd yn delio â phryd y bydd angen i'r awdurdod lleol lunio a chynnal CDU ar gyfer person ifanc sydd ag angen rhesymol o ran addysg neu hyfforddiant.  Mae Pennod 12 o'r Cod ADY drafft yn adlewyrchu'r hyn rydym yn bwriadu darparu ar ei gyfer yn y rheoliadau hyn.

Nid yw’r Ddeddf yn ymestyn i addysg uwch, dysgu seiliedig ar waith na phrentisiaethau. Nid yw Llywodraeth Cymru o'r farn y byddai’n briodol rhoi dyletswyddau ar gyflogwyr. Fodd bynnag, os bydd dysgwr sy’n ymgymryd â dysgu seiliedig ar waith neu brentisiaeth wedi’i gofrestru yn fyfyriwr mewn sefydliad addysg bellach, bydd y dyletswyddau ar y sefydliad addysg bellach yn berthnasol. Hefyd, os bydd y person ifanc yn cytuno y gall y CDU gael ei drosglwyddo gydag ef i’w sefydliad addysg uwch, i'w ddarparwr dysgu seiliedig ar waith neu i'w brentisiaeth, gellir ei ddefnyddio ar gyfer y broses bontio ac i gefnogi gwaith cynllunio. Rydym yn parhau i weithio gyda chydweithwyr sy’n gyfrifol am brentisiaethau a dysgu seiliedig ar waith i nodi’r gwahanol sefyllfaoedd ac awgrymu’r arferion gorau o ran ymdrin â nhw yn y Cod.

Rydym yn credu bod defnyddio trefniadau contractiol yn ffordd well o ddiogelu a hybu buddiannau dysgwyr ag ADY yn y sector dysgu seiliedig ar waith.

4. Pa mor hir mae'n ei gymryd i lunio CDU?

Bydd yr amser y mae'n ei gymryd i lunio CDU yn dibynnu ar natur a hyd a lled anghenion plentyn neu berson ifanc. Dylai paratoi CDU cryno i blentyn neu berson ifanc sydd ag anghenion llai difrifol neu gymhleth fod yn broses gymharol syml a chyflym. Dyma fydd mwyafrif y CDUau a lunnir. Mae’n debygol y bydd angen mewnbwn a chyngor gan arbenigwr wrth baratoi CDU i blentyn neu berson ifanc sydd ag anghenion difrifol, cymhleth neu lai cyffredin ac y bydd yn manylu ar ystod llawer ehangach o ymyriadau. Mae’n anorfod y bydd angen mwy o amser ac ymdrech i baratoi CDU o’r fath, ond ni ddylai fod ei angen ond mewn ychydig o achosion.

Mae'r Cod ADY drafft yn cynnig bod yn rhaid i ysgol lunio CDU yn brydlon, ac yn sicr o fewn 35 diwrnod ysgol, yn achos disgybl sy'n blentyn, ar ôl i'r ffaith y gallai fod ganddo ADY gael ei dwyn i sylw'r ysgol neu ar ôl i hynny ymddangos iddi fel arall, neu yn achos disgybl sy'n berson ifanc, ar ôl i'r disgybl gydsynio i'r bwriad i wneud y penderfyniad. Y cyfnod cyfatebol yn achos awdurdod lleol yw 12 wythnos (neu saith wythnos os yw'r awdurdod lleol yn ailystyried penderfyniad ysgol ynghylch a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY).

O dan y system AAA bresennol, gall y broses asesu statudol ac o roi datganiad gymryd hyd at 26 wythnos. Dylai'r amserlenni arfaethedig ar gyfer CDUau helpu i sicrhau na fydd yn cymryd llawer mwy na thymor ysgol cyn y caiff plentyn neu berson ifanc ag ADY CDU (tua 13 wythnos yw hyd tymor ysgol arferol).

5. Beth yw CDU a sut mae'n wahanol i Ddatganiad?

Cynllun statudol yw CDU a gynhelir gan ysgol, sefydliad addysg bellach neu awdurdod lleol sy'n disgrifio ADY plentyn neu berson ifanc, y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y mae ei anhawster neu anabledd dysgu yn galw amdani, a gwybodaeth gysylltiedig arall.

Yn wahanol i ddatganiad AAA, darperir CDUau i blant a phobl ifanc ag ADY, beth bynnag yw difrifoldeb neu gymhlethdod eu hanghenion.  Bydd statws statudol y CDU yr un fath, beth bynnag yw lefel anghenion y plentyn neu'r person ifanc, a bydd gan unrhyw un sydd â CDU yr un hawliau i apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru.

Bwriedir i'r CDU fod yn ddogfen hyblyg a fydd yn amrywio o ran hyd a chymhlethdod, yn dibynnu ar wahanol anghenion dysgwyr a'r ffordd y mae anghenion dysgwr unigol yn datblygu ac yn newid dros amser.

6. Pa mor wahanol yw'r Ddeddf hon i'r un yn Lloegr?

Yn Lloegr, fe wnaeth Deddf Plant a Theuluoedd 2014 ddiwygio'r system AAA a chyflwyno cynlluniau statudol newydd o'r enw 'Cynlluniau Addysg, Iechyd a Gofal' - fodd bynnag, dim ond i ddysgwyr ag anghenion difrifol a chymhleth y mae'r rhain (hy maent yn cyfateb i Ddatganiadau). Yng Nghymru, bydd y system ADY yn ymestyn yr hawliau i bob dysgwr ag ADY gael cynllun statudol, nid dim ond y rheini sydd â'r anghenion mwyaf difrifol neu gymhleth. 

7. Beth yw rôl plant, eu rhieni a phobl ifanc yn y broses o adnabod ADY a sicrhau cefnogaeth yn y system newydd?

Mae'r system newydd yn rhoi'r lle canolog i'r dysgwr ym mhopeth sy'n digwydd ac rydym yn disgwyl i ysgolion, sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol ganolbwyntio ar yr unigolyn wrth gynllunio a chefnogi plant a phobl ifanc.

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol ystyried safbwyntiau, dymuniadau a theimladau plant, eu rhieni a phobl ifanc ym mhob rhan o broses y CDU. Bydd y templed CDU gorfodol arfaethedig yn cynnwys proffil un dudalen i sicrhau bod CDUau yn adlewyrchu anghenion a phersonoliaeth y plentyn neu’r person ifanc, gan gynnwys yr hyn sy’n bwysig iddynt ac ar eu cyfer.

8. Pwy sy'n gyfrifol am lunio, cynnal ac adolygu CDUau ac am adnabod ADY?

Caiff ADY ei adnabod, a CDU ei lunio a'i gynnal, naill ai gan ysgol, sefydliad addysg bellach neu awdurdod lleol, yn dibynnu ar ba sefydliad addysgol y mae'r plentyn neu'r person ifanc yn ei fynychu, ac ar ddifrifoldeb neu gymhlethdod ei anghenion.

Mae cynnal CDU yn golygu sicrhau'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd wedi'i chynnwys ynddo, ac adolygu'r CDU yn ôl y gofyn er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth sydd ynddo, a'r ddarpariaeth y mae'n ei disgrifio, yn parhau'n briodol.

Yn achos plant neu bobl ifanc nad ydynt yn ddisgyblion mewn ysgol a gynhelir neu wedi'u hymrestru'n fyfyrwyr mewn sefydliad addysg bellach, neu os yw plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru, yr awdurdod lleol fydd yn cynnal y CDU bob amser. Mae hyn yn cynnwys cynnal CDUau plant o dan oedran ysgol gorfodol os nad ydynt yn mynychu lleoliad ysgol a gynhelir neu CDUau pobl ifanc sy'n mynychu sefydliad ôl-16 arbenigol annibynnol.

9. A fydd templed cenedlaethol gorfodol ar gyfer CDUau?

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cod ADY gynnwys un neu fwy o ffurflenni CDU safonol ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol ddefnyddio'r ffurflen hon/ffurflenni hyn. Gellir addasu’r ffurflen i gyd-fynd â dewisiadau lleol neu ddewisiadau’r plentyn neu berson ifanc.

Bydd pob CDU yn cynnwys elfennau allweddol penodol ac yn cadw at yr un strwythur sylfaenol. Bydd hyn yn sicrhau cysondeb a chydraddoldeb cyffredinol o ran sut mae dysgwyr yn cael eu trin, a bydd yn sylfaen i gydlyniant y system ADY yn ei chyfanrwydd a chludadwyedd cynlluniau unigol.

Mae'r Cod drafft yn darparu dwy ffurflen CDU orfodol, un i'w defnyddio yn achos plant nad ydynt yn derbyn gofal gan awdurdod lleol, a phob person ifanc; ac un arall i'w defnyddio yn achos plant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol. Mae penawdau a threfn y ffurflenni gorfodol yn adlewyrchu'r cynnwys manwl y mae'n rhaid ei gael mewn CDU ac sydd wedi'i nodi ym Mhenodau 13 ac 14 o'r Cod ADY drafft.

10. Beth yw'r gwahaniaeth rhwng CDU a gynhelir gan awdurdod lleol a CDU a gynhelir gan ysgol?

Bydd i CDU a gynhelir gan ysgol a CDU a gynhelir gan awdurdod lleol yr un statws statudol yn union. Bydd yn rhaid i ba gorff bynnag sy'n llunio ac yn cynnal y CDU sicrhau bod y CDU yn disgrifio ADY y plentyn neu'r person ifanc, a'r DDdY y mae ei ADY yn galw amdani, a rhaid iddo wedyn fynd ati i sicrhau'r DDdY honno.

Awdurdodau lleol, yn hytrach nag ysgolion, fydd yn cynnal CDU os bydd gan y plentyn neu'r person ifanc ADY sy'n galw am DDdY na fyddai'n rhesymol i'r corff llywodraethu ei sicrhau.

Mae Pennod 9 o'r Cod ADY drafft yn rhoi eglurder ynghylch pryd y dylai ysgol gyfeirio disgybl i awdurdod lleol i benderfynu a oes gan y disgybl ADY ac i benderfynu ai'r awdurdod lleol neu'r ysgol ddylai fod yn gyfrifol am gynnal CDU. Mae'n rhoi canllawiau i awdurdodau lleol ynghylch sut y dylent benderfynu a yw'n rhesymol i ysgol sicrhau'r DDdY sy'n ofynnol ar gyfer plentyn neu berson ifanc, neu a yw'n rhesymol i'r awdurdod lleol wneud hynny. Mae hefyd yn nodi y dylai'r awdurdod lleol sefydlu cyfres o egwyddorion y byddant yn eu defnyddio wrth benderfynu a yw'n rhesymol i ysgol sicrhau'r DDdY neu ai'r awdurdod lleol ddylai wneud hynny.

Y Gymraeg

11. Sut bydd y Ddeddf yn helpu i greu system ddwyieithog i gefnogi plant a phobl ifanc ag ADY ledled Cymru?

Un o nodau craidd y Ddeddf yw creu system gymorth ddwyieithog ar gyfer dysgwyr ag ADY. Bydd yn ofynnol i wasanaethau ystyried a oes ar blentyn neu berson ifanc angen DDdY yn y Gymraeg; bydd y ddyletswydd hon yn un barhaus, yn hytrach na phenderfyniad a wneir unwaith yn unig. Os bydd angen DDdY yn y Gymraeg, rhaid cofnodi hyn yn y CDU a chymryd ‘pob cam rhesymol’ i sicrhau’r ddarpariaeth yn y Gymraeg. Mae mecanwaith wedi’i gynnwys yn y Ddeddf i ddiddymu drwy’r rheoliadau y prawf ynghylch ‘pob cam rhesymol’, fel y bydd y dyletswyddau i gynnig DDdY drwy gyfrwng y Gymraeg yn dod yn absoliwt dros amser. 

Hefyd, bydd cyfres o ddyletswyddau strategol yn ceisio hybu'r camau tuag at system ADY ddwyieithog. Yn benodol, wrth adolygu eu trefniadau ar gyfer ADY, ac i ba raddau y mae'r trefniadau hynny yn ddigonol i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc, bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol ystyried digonolrwydd DDdY a gyflwynir drwy'r Gymraeg. Os bydd awdurdod lleol yn ystyried nad yw'r trefniadau yn ddigonol, gan gynnwys y DDdY sydd ar gael drwy'r Gymraeg, rhaid iddo gymryd pob cam rhesymol i unioni'r mater.

Wrth wneud hyn, dylai awdurdodau lleol gysylltu eu hadolygiad o DDdY â dyletswyddau strategol ehangach, gan gynnwys y rheini o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddrafftio ac ymgynghori ynghylch Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg, a’u cyhoeddi, sy’n dangos sut byddant yn ceisio cyflawni’r canlyniadau a’r targedau ynghylch darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn eu hardal, gan gynnwys mewn perthynas â dysgwyr ag ADY.

Rolau allweddol

12. Beth yw rôl y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) a sut mae hyn yn wahanol i rôl y Cydlynwyr AAA presennol?

Mae rôl y CADY yn un statudol a fydd yn disodli rôl anstatudol bresennol y Cydlynydd AAA sydd yn y rhan fwyaf o ysgolion a gynhelir yng Nghymru, a rolau anstatudol tebyg mewn sefydliadau addysg bellach yng Nghymru.

Mae adran 60 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau addysg bellach ac ysgolion prif ffrwd a gynhelir ddynodi unigolyn penodol i fod yn CADY, gan gynnwys meithrinfeydd a gynhelir ac unedau cyfeirio disgyblion. Fodd bynnag, nid yw hyn yn cynnwys ysgolion arbennig a gynhelir, lle bydd pob aelod o'r staff yn canolbwyntio ar ADY.

Y CADY yw’r unigolyn sy’n mynd ati ar lefel strategol mewn ysgol neu sefydliad addysg bellach i sicrhau bod anghenion pob dysgwr ag ADY yn y lleoliad addysg yn cael eu diwallu. Mae ei rôl yn un strategol o fewn y lleoliad addysg a dylai, felly, naill ai fod yn aelod o’r uwch dîm arwain neu fod â llinell gyfathrebu glir i’r uwch dîm arwain. Bydd hyn o gymorth i'r lleoliad wrth gynllunio, rheoli a chyflawni ei ddyletswyddau a'i gyfrifoldebau o ran adnabod a diwallu anghenion plant a phobl ifanc sydd ag ADY.

Mae Rheoliadau Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2019 draft yn rhagnodi'r cymwysterau a'r profiad sy'n ofynnol er mwyn bod yn CADY a'r swyddogaethau a roddir iddo.

13. Beth yw rôl y Swyddog Arweiniol Clinigol Dynodedig Addysg (SACDA)?

Mae Deddf ADY yn gosod dyletswydd ar bob bwrdd iechyd lleol i ddynodi swyddog i fod yn gyfrifol am gydlynu swyddogaethau'r bwrdd iechyd mewn perthynas â phlant a phobl ifanc ag ADY. Gelwir y person hwnnw yn Swyddog Arweiniol Clinigol Dynodedig Addysg (SACDA).

Rhaid i'r SACDA fod un ai'n ymarferwr meddygol cofrestredig neu'n nyrs cofrestredig neu'n weithiwr iechyd proffesiynol arall. Rhaid i'r swyddog a ddynodir yn SACDA gan y Bwrdd Iechyd Lleol fod yn un y mae'n ei ystyried yn ddigon cymwys a phrofiadol ym maes darparu gofal iechyd i blant a phobl ifanc ag ADY.

Mae Pennod 15 o'r Cod drafft yn amlinellu rôl arfaethedig y SACDA, gan gynnwys:

  • gweithredu'n strategol i hyrwyddo ymwybyddiaeth o ADY ar lefel weithredol o fewn y Bwrdd Iechyd Lleol a hyrwyddo ffyrdd newydd o weithio;
  • rhannu arferion gorau â'r swyddogion SACDA eraill er mwyn helpu i sicrhau dulliau gweithredu sydd wedi'u safoni ledled Cymru;
  • hyrwyddo dull strategol cyson, o fewn y Bwrdd Iechyd Lleol, o adnabod ac asesu ADY, llunio ac adolygu CDU, cynllunio a chyflwyno DDdY, a monitro'r effaith ar blant a phobl ifanc;
  • rheoli a monitro i ba raddau y cydymffurfir â dyletswyddau'r Bwrdd Iechyd Lleol o dan y Ddeddf, a mesur llwyddiant ymyriadau'r Bwrdd Iechyd Lleol.

14. Beth yw rôl Swyddog Arweiniol ADY y Blynyddoedd Cynnar?

Mae Deddf 2018 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol ddynodi Swyddog Arweiniol ADY y Blynyddoedd Cynnar, a fydd yn gyfrifol am gydlynu swyddogaethau'r awdurdod lleol o dan y Ddeddf mewn perthynas â phlant o dan oedran ysgol gorfodol nad ydynt yn mynychu ysgolion a gynhelir.

Bwriedir i rôl Swyddog Arweiniol ADY y Blynyddoedd Cynnar fod yn un strategol. Disgwylir i gyfrifoldebau'r rôl gynnwys sefydlu arferion gwaith a threfniadau effeithiol i gydweithio ag eraill sy'n gweithio gyda phlant o dan oedran ysgol gorfodol; codi ymwybyddiaeth o'r system ADY a sut mae'n berthnasol i blant o dan oedran ysgol gorfodol; hyrwyddo'r arfer o adnabod ADY yn gynnar a'u hatal; a chyfrifoldebau strategol eraill.

Mae Pennod 8 o'r Cod ADY drafft yn rhoi mwy o fanylion am yr hyn a ddisgwylir gan Swyddog Arweiniol ADY y Blynyddoedd Cynnar.

Datrys anghytundeb ac apelau

15. Beth sy'n digwydd pan fydd plentyn, rhiant neu berson ifanc yn anghytuno â phenderfyniad am ADY a wneir gan ysgol, awdurdod lleol neu sefydliad addysg bellach?

Yn y lle cyntaf, dylai'r plentyn, ei riant neu'r person ifanc ofyn am i'r mater gael ei ailystyried gan y corff a wnaeth y penderfyniad.

Os bydd ysgol yn delio â'r cais i ailystyried y mater, a bod y plentyn, y rhiant neu'r person ifanc dan sylw yn anhapus â'r penderfyniad ar ôl ailystyried, gall gyfeirio'r mater i'r awdurdod lleol.

Os bydd y plentyn, y rhiant neu'r person ifanc dan sylw yn anhapus â phenderfyniad awdurdod lleol neu sefydliad addysg bellach, gall apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru ('y Tribiwnlys').

Bydd y plentyn, ei riant neu'r person ifanc yn gallu defnyddio trefniadau datrys anghydfod yr awdurdod lleol. Bydd y trefniadau hyn, gobeithio, yn datrys anghytundebau y tu allan i'r Tribiwnlys. Nid yw'n orfodol defnyddio'r trefniadau hyn ac nid ydynt yn effeithio ar hawl plentyn, ei riant neu berson ifanc i apelio i'r Tribiwnlys. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru am hyrwyddo'r defnydd ar y trefniadau hyn, gan y byddant yn lleihau'n gyffredinol yr angen i fynd ag anghydfod i'r Tribiwnlys ac yn arwain at ddatrys anghytundebau yn gyflymach, a hynny yn ei dro yn lleihau'r angen i darfu ar broses ddysgu'r plentyn neu'r person ifanc ac yn arbed cryn amser ac arian i'r partïon dan sylw.

Yn ogystal, mae Deddf 2018 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau i ddarparu gwasanaethau eirioli annibynnol i blant a phobl ifanc os byddant yn anghytuno â phenderfyniad.

Mae Pennod 7 o'r Cod ADY drafft yn nodi'r canllawiau a'r gofynion mewn perthynas â'r dyletswyddau ar awdurdodau lleol i wneud trefniadau i osgoi a datrys anghytundebau ac i ddarparu gwasanaethau eirioli annibynnol.

16. Beth yw cylch gwaith y Tribiwnlys Addysg?

Mae Deddf 2018 yn ailenwi Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru yn Dribiwnlys Addysg Cymru ('y Tribiwnlys’). Bydd y Tribiwnlys yn gwrando ar apelau a cheisiadau ynghylch plant a phobl ifanc sydd ag ADY, neu y gallai fod ganddynt ADY, ac yn penderfynu yn eu cylch. Yn benodol, bydd yn gwrando ar apelau ynghylch penderfyniadau corff llywodraethu sefydliad addysg bellach neu awdurdod lleol yng Nghymru, ac yn penderfynu yn eu cylch. Hefyd, bydd yn gwrando ar hawliadau ynghylch gwahaniaethu ar sail anabledd mewn perthynas ag ysgolion. 

Bydd y Tribiwnlys yn gallu gwneud penderfyniadau ynghylch gallu plentyn i ddeall materion sy’n ymwneud â’r system ADY, gan gynnwys yr hyn y mae cyflwyno apêl i Dribiwnlys yn ei olygu. Os bydd yn datgan nad oes gan blentyn allu digonol i ddeall, bydd y Tribiwnlys yn gallu penodi cyfaill achos i’r plentyn hwnnw os gwneir cais.

Bydd y Tribiwnlys yn annibynnol ar y Llywodraeth, awdurdodau lleol, ysgolion a sefydliadau addysg bellach; ac mae ei benderfyniadau yn rhwymo awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach mewn cyfraith. 

Bydd hefyd yn gallu mynnu bod corff GIG yn darparu tystiolaeth ynghylch yr elfennau o apêl sy’n ymwneud ag iechyd a gall wneud argymhellion i gorff GIG ynghylch arfer ei swyddogaethau dan y Ddeddf. Os bydd y Tribiwnlys yn gwneud argymhelliad i gorff GIG, rhaid i'r corff hwnnw adrodd yn ôl i'r Tribiwnlys yn nodi'r camau y mae wedi'u cymryd neu y mae'n bwriadu eu cymryd mewn ymateb i argymhelliad y Tribiwnlys; neu pam nad yw wedi cymryd ac nad yw'n bwriadu cymryd unrhyw gamau mewn ymateb i'r argymhelliad.

Bydd rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf yn amlinellu'r ddarpariaeth apelau a hawliadau i'r Tribiwnlys (cyhoeddwyd Rheoliadau Tribiwnlys Addysg drafft Cymru eisoes at ddibenion ymgynghori) ac yn amlinellu'r weithdrefn ar gyfer yr apelau a'r hawliadau hynny. Mae Pennod 26 y Cod ADY drafft yn darparu gwybodaeth am apelau a cheisiadau i'r Tribiwnlys. 

Plant a phobl ifanc mewn amgylchiadau penodol

17. Sut bydd y system yn berthnasol i blant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol?

Yn achos plant o oedran ysgol gorfodol neu'n iau sy'n byw yng Nghymru, sydd ag ADY ac sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru, rhoddir CDU iddynt a gynhelir gan yr awdurdod hwnnw. Caiff y CDU ei ymgorffori i gynllun addysg personol y plentyn. Mae'r cynllun addysg personol yn rhan o gynllun gofal a chymorth y plentyn.

Fel rheol, caiff CDU plentyn ag ADY, sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn Lloegr, ond sy'n mynychu ysgol a gynhelir yng Nghymru, ei gynnal gan yr ysgol, oni bai bod yr awdurdod yn Lloegr yn cynnal Cynllun Addysg, Iechyd a Gofal ar ei gyfer.

Bydd plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol wedi cael CDU am fod ganddo ADY. Nid fydd ganddo CDU ddim ond am ei fod yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.

Byddai plentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru ond sy'n byw yn Lloegr yn dod o dan system anghenion addysgol arbennig ac anabledd Lloegr.

Mae'r diffiniad o blentyn sy'n derbyn gofal at ddibenion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 yn cynnwys pobl ifanc dros yr oedran ysgol gorfodol ac eraill na fyddent yn cael eu trin fel plant sy'n derbyn gofal at ddiben Deddf ADY a'r Cod.

18. Sut mae'r Ddeddf yn berthnasol i blant a gaiff eu haddysgu heblaw yn yr ysgol?

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd dysgwyr sydd mewn addysg heblaw yn yr ysgol yn gyfrifoldeb i’r awdurdod lleol a bydd dyletswydd arno, lle bo’n briodol, i benderfynu a oes gan y plentyn ADY ac, os felly, i lunio a chynnal CDU ar ei gyfer.

Yn achos disgyblion mewn unedau cyfeirio disgyblion, mater i'r awdurdod lleol fyddai cyflawni dyletswyddau o dan Ddeddf 2018 a osodir ar gyrff llywodraethu ysgolion. Fodd bynnag, mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu gwneud rheoliadau i'w gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddirprwyo i bwyllgor rheoli uned cyfeirio disgyblion y mae'n ei chynnal y swyddogaethau a roddir i gyrff llywodraethu ysgolion o dan Ddeddf 2018. Byddai'r dyletswyddau hyn yn cynnwys penderfynu a oes gan ddisgybl cofrestredig ADY; a llunio, cynnal, adolygu a rhoi'r gorau i gynnal cynlluniau.

19. Sut mae'r Ddeddf yn berthnasol i blant a phobl ifanc mewn ysgolion annibynnol?

Os bydd awdurdod lleol yn gosod plentyn neu berson ifanc ag ADY mewn ysgol annibynnol at ddibenion cael DDdY arbenigol, byddai'r awdurdod lleol yn parhau i gynnal y CDU. Os daw i sylw awdurdod lleol, neu os bydd yn ymddangos iddo fel arall y gallai fod gan blentyn sy'n mynychu ysgol annibynnol ADY, mater i'r awdurdod lleol fyddai penderfynu a oes ganddo ADY, a llunio a chynnal CDU ar ei gyfer os felly. Yn achos person ifanc yn yr un amgylchiadau, byddai angen i'r awdurdod lleol benderfynu a oes angen, yn unol â'r rheoliadau, gynnal CDU i ddiwallu ei anghenion rhesymol am addysg a hyfforddiant.

Lleoliadau arbenigol ôl-16

20. Sut bydd y system newydd yn gweithio o ran lleoliadau arbenigol ôl-16?

Bydd awdurdodau lleol yn gyfrifol am sicrhau addysg a hyfforddiant pobl ifanc y mae angen darpariaeth arbenigol arnynt mewn sefydliadau ôl-16 arbenigol annibynnol. Ar hyn o bryd, cyfrifoldeb Gweinidogion Cymru yw'r ddyletswydd hon o dan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 ("Deddf 2000"), ond bydd y cyfrifoldeb yn trosglwyddo i awdurdodau lleol pan weithredir Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg 2018.

O dan y system bresennol, mae Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo tua 100 o geisiadau newydd y flwyddyn am raglenni astudio a gynigir gan sefydliadau ôl-16 arbenigol annibynnol. Ar unrhyw adeg, mae tua 300 o leoliadau arbenigol yn cael eu cyllido.

O dan y system newydd, bydd awdurdodau lleol yn ystyried anghenion pobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth yn unol â'u dyletswyddau i gynnal CDUau ar gyfer y rheini y mae eu hangen yn unol â rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf. 

Ni fydd gweithredu'r Ddeddf yn effeithio'n uniongyrchol ar anghenion pobl ifanc. Nid oes rheswm, felly, dros gynnydd yn nifer y dysgwyr ôl-16 ag anghenion difrifol a chymhleth y bydd angen mynediad i ddarpariaeth arbenigol arnynt.

Bydd Gyrfa Cymru yn parhau i ddarparu cyngor gyrfaoedd annibynnol i bob person ifanc beth bynnag fo’u hanghenion a bydd hyn yn cynnwys cynghori pobl ifanc ag ADY ar opsiynau ôl-16 posibl. Fodd bynnag, ni fydd eu rôl bresennol o ran cynnal asesiadau o anghenion unigolion (a140 o Ddeddf 2000) ar ran Gweinidogion Cymru yn ofynnol bellach.

Bydd y system newydd yn golygu y bydd penderfyniadau ynghylch darpariaeth addysgol addas ar gyfer pobl ifanc ag anghenion cymhleth yn cael eu gwneud yn lleol gan bobl a fydd fel arfer wedi ymwneud â chynorthwyo’r person ifanc drwy gydol ei addysg. Bydd yr awdurdodau lleol yn gyfarwydd ag anghenion y bobl ifanc sydd yn y system a gallant gynllunio flynyddoedd ymlaen llaw ar gyfer eu proses bontio i addysg ôl-16. Bydd hyn hefyd yn annog ac yn galluogi awdurdodau lleol a darparwyr ôl-16 (prif ffrwd ac annibynnol) i gydweithio i gynllunio ar gyfer y ddarpariaeth sydd ei hangen yn y dyfodol i ddiwallu anghenion lleol, a’i datblygu.

Yn achos y bobl ifanc hynny sydd wedi sicrhau lleoliad mewn sefydliad arbenigol ôl-16 annibynnol cyn i'r cyfrifoldeb drosglwyddo i awdurdodau lleol, byddant yn parhau gyda’u darparwr am gyfnod eu rhaglen astudio bresennol a gytunwyd.

21. Sut bydd y cyllid ar gyfer lleoliadau ôl-16 arbenigol yn cael ei ddyrannu i awdurdodau lleol?

Wrth drosglwyddo'r cyfrifoldeb dros sicrhau lleoliadau ôl-16 arbenigol i awdurdodau lleol, bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn trosglwyddo cyllid i gefnogi awdurdodau lleol i gyflawni'r ddyletswydd hon.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i drafod gyda'r Is-Grŵp Dosbarthu ynghylch setliad a dyrannu'r cyllid hwn ar draws awdurdodau lleol. Ar hyn o bryd, nid yw'n fwriad neilltuo cyllid penodol. Yn hytrach, mae'n debygol o fod yn rhan o'r grant cynnal refeniw a ddyrennir i awdurdodau lleol er mwyn rhoi'r hyblygrwydd iddynt i gyflawni ystod o ddyletswyddau yn unol ag anghenion lleol.

Fel yn achos Llywodraeth Cymru o dan y system bresennol, bydd awdurdodau lleol am ystyried ymgysylltu ag asiantaethau eraill megis adrannau gwasanaethau cymdeithasol a byrddau iechyd lleol ynghylch trefniadau i gydgyllido lleoliadau arbenigol mewn achosion lle nodir darpariaeth gofal cymdeithasol i gefnogi lleoliad addysgol dysgwr.

Gweithredu

22. Pryd a sut fydd y system ADY newydd yn mynd yn fyw?

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gosod y Cod a’r rheoliadau gerbron Senedd Cymru i'w gymeradwyo yng ngwanwyn 2021.

I gyd-fynd â chychwyn y rolau statudol ym mis Ionawr 2021, caiff rheoliadau eu gosod mewn perthynas â rôl y CADY, ynghyd â chanllawiau ar bob un o'r tair swyddogaeth statudol. Bydd y canllawiau yn cynnwys geiriau o'r agweddau o’r Cod sy'n gysylltiedig â'r rolau hyn a bydd yn egluro eu cyfrifoldebau. Bydd yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar y Cod ADY drafft a’r Rheoliadau ar Rôl yr CADY yn llywio'r canllawiau a'r rheoliadau.

Caiff yr hyfforddiant ar weithredu'r system ei gyflwyno yn 2020 a 2021, a bydd disgwyl i'r system newydd fod yn weithredol o fis Medi 2021. Bydd y cyfnod gweithredu yn para am dair blynedd tan haf 2024. Erbyn hynny, bydd Datganiadau AAA, Cynlluniau Addysg Unigol a Chynlluniau Dysgu a Sgiliau wedi'u troi'n CDUau. Bydd hon yn broses orfodol a graddol ar sail grwpiau oedran penodol. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y system ADY yn gweithredu ochr yn ochr â'r system AAA. Bydd hon yn dirwyn i ben yn raddol yn ystod y cyfnod gweithredu.

Am y tro, rhaid i awdurdodau lleol a phawb sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd ag AAA sicrhau eu bod yn parhau i gydymffurfio â'r dyletswyddau a osodwyd arnynt o dan Ddeddf Addysg 1996. Rhaid iddynt hefyd barhau i roi sylw i God Ymarfer AAA Cymru (2004).

Mae Canllaw Gweithredu Deddf ADY wedi'i gyhoeddi sy'n esbonio'r amserlenni ar gyfer cyflwyno CDUau i bob cohort o ddysgwyr yn unol â'r dull gweithredu graddol. Hwn yw'r cyntaf mewn cyfres o ganllawiau am sut y caiff y Ddeddf ei gweithredu, a chaiff canllawiau eraill sy'n ymwneud â dysgwyr ôl-16 a'r rheini sydd mewn amgylchiadau penodol eu cyhoeddi maes o law.

23. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo partneriaid darparu i baratoi ar gyfer y broses o bontio i’r system ADY newydd ac i reoli'r broses honno?

Mae pecyn cyllid £20m yn cael ei ddefnyddio i helpu i weithredu'r Ddeddf ac i gyflwyno'r rhaglen ehangach i drawsnewid y system ADY.

Caiff rhan fawr o'r cyllid hwn ei defnyddio i ddatblygu'r gweithlu fel bod pob partner yn deall y newidiadau sy'n cael eu cyflwyno ac yn barod ar eu cyfer. Mae hyn yn cynnwys helpu i feithrin gallu'r gweithlu a sicrhau bod gan ymarferwyr y sgiliau i weithredu'r system newydd yn effeithiol er mwyn diwallu anghenion dysgwyr.

O ran datblygu'r gweithlu, rydym yn targedu tair lefel: datblygu sgiliau craidd yr holl ymarferwyr; datblygu sgiliau uwch drwy greu rôl Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol, a fydd yn disodli rôl bresennol Cydlynwyr Anghenion Addysgol Arbennig; a datblygu sgiliau arbenigol ar gyfer gwasanaethau cymorth arbenigol a ddarperir gan awdurdodau lleol ac sydd ar gael i leoliadau addysg.

Mae pump arweinydd trawsnewid wedi bod yn eu swyddi ers Ebrill 2018. Eu rôl yw darparu cyngor, cefnogaeth a her i awdurdodau lleol, ysgolion, lleoliadau'r blynyddoedd cynnar a sefydliadau addysg bellach, wrth iddynt baratoi ar gyfer gweithredu'r diwygiadau. Mae hyn yn cynnwys defnyddio hunanasesiadau a datblygu cynlluniau gweithredu lleol. Bydd yr arweinwyr trawsnewid yn gyfrifol am gyflwyno’r hyfforddiant gweithredu ar sail amlasiantaethol yn rhanbarthol o 2021 ymlaen.

24. A fydd y system ADY newydd yn fwy costus i'w gweithredu na'r system AAA bresennol?

Ni fydd cyflwyno'r system ADY newydd yn ychwanegu at nifer y dysgwyr sy'n cael eu cefnogi. Mae'r system newydd yn rhoi pwyslais mwy ar gydweithio â dysgwyr a'u teuluoedd, a bydd disgwyl i bob asiantaeth gysylltiedig ganolbwyntio ar y dysgwr unigol wrth gynllunio. Mae'r ysgolion a'r awdurdodau sydd wedi mabwysiadu agweddau ar y system newydd wedi gwneud hynny o fewn y cyllidebau presennol, ac maent yn dweud wrthym bod y newidiadau maent wedi'u gwneud yn eu galluogi i wneud penderfyniadau gwell yn seiliedig ar dystiolaeth, gan leihau'r posibilrwydd o wrthdaro, ac arwain yn y pen draw at ansawdd darpariaeth gwell.

Lawrlwytho'r dudalen hon fel PDF . Maint Ffeil 149 KB.

Maint Ffeil 149 KB. Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.