Mae Rhaglen Grant Cyfalaf Trawsnewid 2022 i 2023 Llywodraeth Cymru ar gyfer amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd bellach ar agor ar gyfer Datganiadau o Ddiddordeb.
Bydd y grantiau hyn yn galluogi sefydliadau llwyddiannus i drawsnewid y modd y darperir gwasanaethau er mwyn cynnig cyfleusterau a gwasanaethau cynaliadwy, modern a deniadol mewn amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd lleol ledled Cymru.
Yn dilyn y cylch ariannu diwethaf, cafodd wyth amgueddfa a llyfrgell fudd o £1.1 miliwn o gyllid.
Bydd pum llyfrgell yn cael eu moderneiddio gyda'r cyllid yn mynd tuag at gyfleusterau cymunedol newydd, ac yn cefnogi sefydlu 'hybiau' ehangach lle gall bobl gael mynediad at wasanaethau llyfrgell ochr yn ochr ag amrywiol amwynderau eraill. Bydd Llyfrgell Treorci yn cael ei hailddatblygu a bydd yn gweithio mewn partneriaeth â Theatr y Parc a'r Dâr i greu canolfan ddiwylliannol newydd ar gyfer Treorci i greu gofod mwy modern a hyblyg a all gynnal ystod eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau.
Yn Rhaeadr, bydd yn llawr mesanîn newydd yn cael ei osod yn Amgueddfa ac Oriel Rhaeadr, mewn amgueddfa sy'n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr i wella'r gofod arddangos yn yr amgueddfa a chreu mannau storio newydd ar gyfer y casgliadau.
Fel rhan o brosiect Atyniad Twristiaeth Pentywyn, mae'r Amgueddfa Cyflymder Tir yn cael ei hailadeiladu'n llwyr. Bydd yr arian yn cefnogi'r gwaith o osod ystafell addysg aml-swyddogaeth, a man arddangos newydd a fydd yn caniatáu arddangosfeydd a benthyciadau dros dro o gasgliadau cenedlaethol pan fydd y datblygiad newydd yn agor.
Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon:
"Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi'r gwasanaethau pwysig hyn, a fydd mor bwysig o ran helpu Cymru i wella o effaith y pandemig. Mae'r Gronfa Trawsnewid Cyfalaf yn helpu i ehangu mynediad i'n cymunedau, hyrwyddo ymgysylltu diwylliannol, darparu cyfleoedd dysgu a chefnogi cydlyniant a ffyniant cymunedol, sydd ei angen nawr yn fwy nag erioed."
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:
"Mae ein hamgueddfeydd, ein llyfrgelloedd a'n harchifau yn darparu gwasanaethau hanfodol i'r gymuned ac i ymwelwyr ledled Cymru.
"Rwy'n falch iawn y gallwn nawr wahodd datganiadau o ddiddordeb a fydd yn helpu i drawsnewid gwasanaethau i helpu i ariannu'r uwchraddio a'r gwelliannau sydd eu hangen ac rydym yn annog sefydliadau i gysylltu a gwneud cais am y cyllid."
Mae gwybodaeth am y cynllun grant a sut i wneud cais ar gael ar ein gwefan:
Bydd angen cyflwyno datganiadau o ddiddordeb erbyn canol dydd 13 Medi.