Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhaglen cyfnewidfa dysgu rhyngwladol newydd, yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i dynnu'n ôl o gynllun poblogaidd Erasmus+.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cynllun yn galluogi dysgwyr a staff, o Gymru a'r rhai sy'n dod i astudio neu weithio yng Nghymru, i barhau i elwa o gyfnewidfeydd rhyngwladol mewn ffordd debyg i'r cyfleoedd a gafwyd o dan Erasmus+, nid yn unig yn Ewrop ond ymhellach i ffwrdd hefyd.

Bydd y cynllun newydd – a fydd yn weithredol o 2022 i 2026 – yn cael ei gefnogi gan fuddsoddiad o £65m gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y Rhaglen yn darparu cyllid i alluogi myfyrwyr, staff a dysgwyr ar draws prifysgolion, Addysg Bellach ac Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol, Addysg Oedolion, lleoliadau gwaith ieuenctid ac ysgolion i ymgymryd â chyfnod o ddysgu strwythuredig neu brofiad gwaith dramor, yn ogystal â galluogi partneriaethau strategol.

Un o egwyddorion sylfaenol y rhaglen fydd dwyochredd. Lle bo angen, bydd y rhaglen yn ariannu costau sy'n gysylltiedig â symudedd dysgwyr, athrawon a phobl ifanc o sefydliadau partner dramor. Bydd hyn yn galluogi’r partneriaethau presennol sydd wedi'u meithrin o dan Erasmus + i barhau ac yn helpu i greu rhai newydd, gan godi proffil rhyngwladol Cymru yn ogystal â chynnig cyfleoedd i'r rhai sy'n elwa'n uniongyrchol.

Nod y cynllun yw galluogi 15,000 o gyfranogwyr o Gymru i fynd ar gyfnewidfeydd symudedd tramor yn ystod y pedair blynedd gyntaf, gyda 10,000 o gyfranogwyr yn dod i astudio neu weithio yng Nghymru.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi cytuno i ymgymryd â datblygiad manwl y rhaglen yn ystod y 12 mis nesaf, gan weithio gyda bwrdd cynghori o randdeiliaid o bob rhan o'r sectorau addysg ac ieuenctid, gyda gweithgareddau wedi'u hariannu yn dechrau yn 2022/3.

Tra bydd sefydliadau yng Nghymru yn gallu cymryd rhan yng Nghynllun Turing Llywodraeth y DU yn 2021/2, byddant hefyd yn parhau i elwa o gyfnewidfeydd Erasmus+ a ohiriwyd o'r llynedd oherwydd y pandemig. Bydd y rhaglen newydd wedyn yn llenwi'r bylchau mae Turing yn eu gadael, gan gynnwys, yn hollbwysig, yr ymrwymiad i gyllid hirdymor, cadw'r egwyddor o gyfnewidfeydd dwy ffordd a chynnwys gwaith ieuenctid.

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:

Rydyn ni wedi bod yn glir y dylai rhaglenni cyfnewid rhyngwladol, sy'n dod â chymaint o fanteision i gyfranogwyr, yn ogystal â'u darparwyr addysg a'r gymuned ehangach, adeiladu ar y cyfleoedd rhagorol oedd yn cael eu cynnig gan raglen Erasmus+.

Mae'n bleser gen i felly gyhoeddi heddiw bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yng nghenedlaethau’r dyfodol drwy lansio Rhaglen Cyfnewidfa Dysgu Rhyngwladol ar gyfer Cymru.

Mae ein myfyrwyr a'n staff yn llysgenhadon hanfodol i ni dramor, gan hyrwyddo'r neges bod Cymru yn gyrchfan ddeniadol i fyfyrwyr a phartneriaid ledled y byd, ac mae eu hymwybyddiaeth addysgol a diwylliannol yn gwella mewn sawl ffordd o ganlyniad i dreulio amser dramor – yn union fel mae ein darparwyr addysg yn cael eu cyfoethogi gan fyfyrwyr a staff sy'n ymweld â Chymru i astudio ac addysgu. 

Drwy fuddsoddi yn y rhaglen hon nawr, rydyn ni’n buddsoddi mewn dyfodol cadarn, rhyngwladol a llewyrchus i holl bobl ifanc Cymru.

Prif fuddiolwyr y cynllun newydd fydd pobl ifanc yng ngham uchaf yr ysgol uwchradd, y mae heriau dysgu gartref yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn arbennig o ddwys iddynt. Mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod y genhedlaeth nesaf hon o fyfyrwyr a dysgwyr yn cael yr un cyfleoedd â’r rhai a gafodd y blynyddoedd blaenorol.

Dywedodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog:

Mae treulio amser yn astudio, gwirfoddoli neu ar leoliadau gwaith dramor yn ehangu gorwelion a sgiliau allweddol ac yn sicrhau manteision i gymunedau a sefydliadau yma yng Nghymru. Rydyn ni’n benderfynol o sicrhau bod pobl ifanc ledled ein gwlad yn elwa o'r cyfleoedd hyn.

Mae hwn yn flaendal ar ddyfodol ein pobl ifanc ni, gan gynnig cyfleoedd i bawb, o bob cefndir. Mae sicrhau'r cyfleoedd hyn yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun yr anawsterau mae pobl ifanc a dysgwyr ledled Cymru wedi’u profi o ganlyniad i'r pandemig.

Wrth i ni ddod allan o'r pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod Cymru’n parhau i fod yn genedl eangfrydig, sy'n croesawu'r rhai sy'n dod i astudio neu weithio yma ac sy'n cofleidio partneriaethau ledled Ewrop a'r byd.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd:

Yma ym Mhrifysgol Caerdydd rydyn ni'n gweld yn uniongyrchol sut mae profiadau rhyngwladol yn ehangu gorwelion ein myfyrwyr ni ac yn agor byd o gyfleoedd ar gyfer eu dyfodol unwaith y byddant yn ein gadael ni. Dyma pam rydyn ni'n galluogi ein holl fyfyrwyr i astudio iaith, am ddim, ochr yn ochr â'u hastudiaethau, a'u hannog i wirfoddoli, gweithio neu astudio dramor drwy ein Canolfan Cyfleoedd Byd-eang.

Rydyn ni'n hynod falch bod y gwaith o gynnal a chyd-ddatblygu'r rhaglen Cyfnewidfa Dysgu Rhyngwladol newydd wedi cael ei ymddiried i ni. Mae'n sicrhau cyfle am brofiadau byd-eang i'r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr, ar draws ystod eang o leoliadau dysgu. Rydyn ni'n sicr y bydd y cynllun o fudd enfawr i'r dysgwyr ac i godi proffil byd-eang Cymru fel gwlad gysylltiedig, agored a chroesawgar.

Dywedodd Guy Lacey, Cadeirydd Colegau Cymru:

Rydyn ni'n falch o groesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw. Mae gwerth rhaglenni cyfnewid rhyngwladol wedi bod yn hysbys ers tro yn y sector AB, gan ddarparu cyfleoedd i ehangu gorwelion y cyfranogwyr sydd, yn ei dro, yn cael effaith gadarnhaol ar unigolion, colegau a'r gymuned ehangach. Bydd y sicrwydd hwn hefyd yn ein galluogi i gynnal ac adeiladu ar ein perthynas â phartneriaid tramor.

Dywedodd yr Athro Iwan Davies, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor a Chadeirydd Cymru Fyd-eang:

Mae cenedl sy'n edrych tuag allan ac yn gystadleuol angen gweithlu medrus sydd ag agwedd fyd-eang.

Mae darparu cyfleoedd i fyfyrwyr fod yn symudol yn rhyngwladol drwy astudio neu weithio yn hanfodol i hyn, ac rydyn ni'n croesawu'r cyfleoedd estynedig y mae'r rhaglen Cyfnewidfa Dysgu Rhyngwladol newydd yn eu cynnig i fyfyrwyr a staff.

Rydyn ni hefyd yn croesawu'r gefnogaeth barhaus i Raglen Cymru Fyd-eang – menter sy'n adeiladu partneriaethau buddiol ledled y byd, gan elwa o gryfderau ein prifysgolion a chefnogi Cymru i ddiffinio ei rôl ar lwyfan y byd.

Wrth i ni ddod allan o'r pandemig, bydd y gefnogaeth hon yn hanfodol i'n galluogi i barhau i adeiladu ar berthnasoedd gyda'n partneriaid byd-eang, gan hyrwyddo Cymru fel cyrchfan agored a chroesawgar i fyfyrwyr ac ymchwilwyr fel ei gilydd.

Dywedodd yr Athro Julie Lydon, Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru a Chadeirydd Prifysgolion Cymru:

Rydyn ni'n croesawu'r cyhoeddiad heddiw am raglen cyfnewidfa dysgu rhyngwladol newydd feiddgar i Gymru.

Mae ymchwil yn dangos bod myfyrwyr sy'n treulio peth amser dramor yn gweithio, yn astudio neu'n gwirfoddoli yn cael graddau gwell ac yn cael swyddi gwell, a bod y manteision yn fwy fyth i gyfranogwyr o'r cefndiroedd lleiaf breintiedig.

Bydd y cyfle hwn i gynyddu symudedd myfyrwyr ac ymchwilwyr o fudd enfawr, nid yn unig i'r unigolion dan sylw ond hefyd i'n prifysgolion a'n campysau, a'r wlad gyfan.

Bydd natur ddwyochrog y cynllun newydd yn darparu manteision allweddol i Gymru. Mae myfyrwyr, staff ac ymchwilwyr rhyngwladol yn chwarae rhan amhrisiadwy wrth arallgyfeirio a rhyngwladoli ein campysau a'n cymunedau ar amser pan mae cynnal agwedd ryngwladol yn bwysicach nag erioed.