Heddiw, cafodd Llywodraeth Cymru bwerau newydd i gyhoeddi bondiau ar gyfer helpu i ariannu buddsoddiadau mewn seilwaith.
Mae'r pwerau newydd, sy'n rhan o Gytundeb Dydd Gŵyl Dewi, yn golygu y gall Llywodraeth Cymru gyhoeddi bondiau adbrynadwy i ariannu prosiectau megis ysgolion, ysbytai, ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus.
Mae hyn yn cynyddu nifer yr opsiynau benthyca sydd ar gael i Lywodraeth Cymru.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:
“Ar adeg pan mae ein cyllidebau cyfalaf yn dal i leihau, mae'r pwerau ychwanegol hyn yn sicrhau bod ystod lawn o ddulliau benthyca ar gael inni i'n helpu i allu parhau i fuddsoddi yn ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer seilwaith Cymru gyfan.
“Byddwn ni bob amser yn dewis y dulliau rhataf o godi cyfalaf gyntaf wrth fuddsoddi mewn seilwaith, cyn defnyddio ffynonellau eraill o gyfalaf y mae'n rhaid eu had-dalu, megis bondiau.”
Fel gyda dulliau eraill o fenthyca, rhaid talu llog wrth ad-dalu bondiau. Byddant yn cael effaith ar y refeniw sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i ariannu gwasanaethau cyhoeddus o ddydd i ddydd.