Bydd y cyllid yn ychwanegol at y buddsoddiadau sydd wedi eu gwneud eisoes i wella gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed.
Bydd y buddsoddiad newydd hwn yn helpu Llywodraeth Cymru i ymateb i'r argymhellion a wnaed gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad Cenedlaethol yn ei adroddiad Cadernid Meddwl a gyhoeddwyd y llynedd.
Bydd y cyllid yn ychwanegol at y buddsoddiadau sydd wedi eu gwneud eisoes i wella gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed (CAMHS), ac fe’i defnyddir i gynnal dull gweithredu sy'n cynnwys yr ysgol gyfan, er mwyn gwella iechyd meddwl a llesiant mewn ysgolion.
Bydd y Gweinidog yn gwneud ei gyhoeddiad yn ystod cynhadledd a gynhelir yng Nghaerdydd heddiw i dynnu ynghyd gyfarwyddwyr addysg Cymru i drafod sut i weithio mewn partneriaeth er budd iechyd meddwl a llesiant.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething:
“Mae gwella iechyd meddwl i bawb yn un o'm prif flaenoriaethau fel y Gweinidog Iechyd, a hefyd yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
“Yng Nghymru, rydyn ni wedi cymryd camu i sefydlu gwasanaethau i helpu plant a phobl ifanc i ymdopi â phwysau bywyd bob dydd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi gallu darparu cyllid ychwanegol i gynyddu nifer y staff arbenigol a datblygu gwasanaethau newydd.
“Mae'r cyllid ychwanegol dw i'n ei gyhoeddi heddiw yn fuddsoddiad sylweddol a fydd yn golygu y gallwn ni wneud mwy i amddiffyn, gwella a chefnogi iechyd meddwl a llesiant ein plant a phobl ifanc, drwy barhau i ddatblygu'r gwasanaethau hyn.”
Mae'r buddsoddiad o £7.1m yn ychwanegol at y £1.4m y mae Llywodraeth Cymru yn ei fuddsoddi mewn rhaglen iechyd meddwl mewngymorth i ysgolion, er mwyn cryfhau'r cymorth y mae CAMHS yn ei ddarparu mewn ysgolion, a hynny mewn pedwar ardal beilot ar draws Cymru.
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:
“Mae iechyd meddwl a llesiant ein plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth hollbwysig, ac mae ein dull o weithredu ar lefel yr ysgol gyfan yn sicrhau bod y flaenoriaeth hon yn ganolog i sut mae ysgolion yn gweithio, ac yn cyffwrdd â phob agwedd ar fywyd yn yr ysgol.
“Bydd y cyllid hwn yn gyfle i adeiladu ar y cymorth proffesiynol dynodedig yr ydyn ni'n ei ddarparu i ysgolion, gan gynnwys drwy ein Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS), er mwyn sicrhau bod ein disgyblion yn cael eu cefnogi'n llawn drwy bob cam o'u haddysg.”