Neidio i'r prif gynnwy

Mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, wedi cymeradwyo gwerth £3m o gyllid i ddod â gwasanaethau iechyd ynghyd dan un to yn Rhuthun.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd gwasanaethau sy’n cael eu darparu ar draws pedwar safle yn y dref ar hyn o bryd yn dod ynghyd mewn Canolfan Iechyd a Llesiant yn Ysbyty Cymuned Rhuthun.

Bydd y cynllun gwerth £3m, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn golygu llawer llai o deithio rhwng safleoedd ar gyfer apwyntiadau a phrofion diagnosteg i gleifion a staff.  Bydd hyn yn gwneud triniaeth yn haws ac yn fwy hygyrch.

Yn ogystal â meddygfa, bydd y ganolfan newydd yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau cymunedol, gan gynnwys gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd a gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn â phroblemau iechyd meddwl. Bydd gwell cyfleusterau ar gyfer gwasanaethau therapi yn golygu y bydd mwy o le ar gyfer gwasanaethau ffisiotherapi a phodiatreg.

Fel rhan o’r cynllun, bydd y feddygfa yng Nghlinig Rhuthun yn symud o’i safle presennol gan nad yw’r safle hwnnw bellach yn cael ei ystyried yn addas i’r diben. Mae’r feddygfa ar Mount Street yn gwasanaethu bron i 3,000 o gleifion a bydd ei gwasanaethau’n cael eu trosglwyddo i safle newydd yn Ysbyty Cymuned Rhuthun ar ei newydd wedd.

Bydd Cymdeithas Cyfeillion Ysbyty Rhuthun hefyd yn symud i leoliad canolog yn nhu blaen yr ysbyty, a bydd lle ar gael i wasanaethau trydydd sector a gweithgareddau fel grwpiau mamau a phlant bach.

Dywedodd Gareth Evans, Cyfarwyddwr y Prosiect:

Bydd y buddsoddiad hwn yn gwneud gwahaniaeth go iawn i ansawdd y gofal yr ydym yn ei ddarparu i bobl sy’n byw yn Rhuthun a’r cyffiniau.

“Mae’n bleser gennym allu gwella’r cyfleusterau ar gyfer gwasanaethau therapi a gwasanaethau cymunedol yn ogystal â chreu canolfan newydd ar gyfer Cymdeithas Cyfeillion yr Ysbyty a phartneriaid y trydydd sector.

“Bydd yr arian hefyd yn caniatáu inni wella’r ddarpariaeth ar gyfer pobl hŷn â phroblemau iechyd meddwl, yn ogystal â chyfleusterau ar gyfer teuluoedd cleifion mewnol yn yr ysbyty.

Dywedodd Dr Peter Leatt, Prif Bartner ym meddygfa Clinig Rhuthun:

Bydd y buddsoddiad hwn yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r cleifion sydd ar ein cofrestr ac yn sicrhau cyfleusterau gofal iechyd gwell a mwy modern”.

“Mae’r adeilad newydd yn golygu y gallwn ddechrau cynnig hyfforddiant i Feddygon Teulu i helpu i sicrhau cynaliadwyedd ymarfer cyffredinol. Mae hefyd yn golygu y bydd cyfle inni ehangu’r amrywiaeth o wasanaethau yr ydym yn eu cynnig, fel gwasanaethau mân lawdriniaethau, cynllunio teulu a gwasanaethau therapi eraill y gallwn ddechrau eu datblygu ymhellach nawr bod y cyllid wedi cael ei gadarnhau.

“Mae hwn yn gyfnod cyffrous i’n tîm ac i’n holl gleifion.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething:

Mae’n bleser gennyf gymeradwyo’r cyllid ar gyfer y datblygiad cyffrous hwn yn Ysbyty Cymuned Rhuthun. Mae’r prosiect hwn yn rhan o gynllun Llywodraeth Cymru i ddarparu gofal yn nes at y cartref a bydd yn ei gwneud yn haws i bobl gael mynediad uniongyrchol at amrywiaeth o wasanaethau fel sgrinio, ffisiotherapi a phodiatreg yn ogystal â gweld eu meddygon teulu. Dim ond un prosiect o blith nifer o gynlluniau yw hwn sy’n ein helpu i sicrhau Cymru iachach.