Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd miloedd o elusennau bach yn y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch yn cael grant cymorth busnes gwerth £10,000 i’w helpu i ymateb i heriau ariannol COVID-19.
Bydd y pecyn newydd hwn, gwerth £26m – sy’n estyniad i’r cynllun grantiau COVID-19 presennol a gyhoeddwyd fis diwethaf – yn cefnogi 2,600 o eiddo ychwanegol gyda gwerth trethadwy o £12,000 neu lai. Mae hyn yn cynnwys siopau elusen, eiddo chwaraeon a chanolfannau cymunedol nad ydynt wedi bod yn gymwys am y math hwn o gymorth cyn hyn.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans:
Rydym yn cydnabod ac yn cymeradwyo’r cyfraniad enfawr y mae elusennau yn ei wneud i lesiant Cymru, ei phobl a’i chymunedau.
Bydd y pecyn cymorth yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw yn rhoi cyllid hanfodol i’r sector hwn i’w helpu i ymdopi â’r pwysau ariannol y mae’n ei wynebu yn sgil argyfwng coronafeirws.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:
Mae ein hymateb i’r argyfwng wedi’i lywio gan yr angen i helpu unigolion a sefydliadau o bob rhan o’r gymdeithas yng Nghymru, gan gynnwys y rhai mwyaf agored i niwed. Mae elusennau’n chwarae rhan hanfodol yn hyn o beth a bydd y cymorth yr ydym yn ei gyhoeddi heddiw yn eu helpu i barhau â’u gwaith hollbwysig. Mae hefyd yn adlewyrchu eu pwysigrwydd i’n heconomi, eu pwysigrwydd i’n cymdeithas a’u gwerth i’n cymunedau.
Fel llywodraeth, rydym eisoes wedi darparu mwy na hanner biliwn o bunnoedd mewn grantiau cymorth i fwy na 45,000 o fusnesau bach yng Nghymru a bydd rhagor yn manteisio o hyn yn y dyddiau a’r wythnosau i ddod.
Mae’r cyllid newydd hwn yn enghraifft arall o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddiogelu’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas a chefnogi’r bobl sy’n ganolog i economi sylfaenol Cymru.
Mae Banc Datblygu Cymru eisoes wedi cymeradwyo 1,142 o fenthyciadau, yn bennaf yn y sector busnesau bach a chanolig, gan ddiogelu 11,800 o swyddi, gyda chost o £69 miliwn. Ochr yn ochr â hyn, mae’r Gronfa Cadernid Economaidd wedi rhoi grantiau yn ôl disgresiwn i filoedd o ficrofentrau neu fusnesau bach a chanolig – gan roi arian go iawn i fusnesau go iawn!