Canllawiau ar brofi staff gofal iechyd i sicrhau diogelwch cleifion a defnyddwyr gwasanaethau.
Cynnwys
Staff sydd symptomau COVID-19
Cynghorir unrhyw aelod o staff sydd ag unrhyw un neu rai o symptomau COVID-19 i aros gartref, cymryd prawf llif unffordd (LFT) a rhoi gwybod i’w gyflogwr cyn gynted â phosibl.
Os bydd y canlyniad yn negatif, caiff staff ddychwelyd i’r gwaith pan fyddant yn teimlo’n ddigon da. Dylai pob aelod o staff ddechrau gwneud profion asymptomatig rheolaidd unwaith eto a defnyddio profion llif unffordd (LFTs) ddwywaith yr wythnos.
Profi staff heb symptomau yn rheolaidd
Argymhellir yn gryf y dylai pob aelod o staff iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gweithio gyda’r cyhoedd wneud prawf llif unffordd ddwywaith yr wythnos.
Lle bo’n bosibl, dylai staff brofi eu hunain gartref mewn da bryd cyn eu shifft, fel y gellir trefnu rhywun i weithio yn eu lle, os yw canlyniad y prawf yn bositif. Nid yw cael y brechiad neu haint COVID-19 o’r blaen yn golygu bod aelodau staff wedi’u heithrio rhag gwneud profion llif unffordd.
Nid oes angen i staff sy’n profi’n bositif gael prawf PCR i ‘gadarnhau’ hynny bellach.
Dylai staff gysylltu â’u cyflogwr i archebu a chasglu profion llif unffordd.
Staff sydd wedi profi’n bositif
Mae staff sy’n profi’n bositif yn debygol iawn o fod â COVID-19 a gallant drosglwyddo’r haint. Felly, fe’u cynghorir i wneud y canlynol:
- Aros gartref ac osgoi cysylltiad â phobl eraill os oes modd.
- Cofnodi’r canlyniad ar-lein: Cofnodi canlyniad prawf llif unffordd cyflym COVID-19 (gov.uk)
- Rhoi gwybod i’r rheolwr.
- Ymgysylltu â'r broses olrhain cysylltiadau a fydd, fel gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, yn cynnwys galwadau ffôn dilynol posibl gyda swyddog olrhain cysylltiadau neu lenwi e-ffurflen.
- Gwneud prawf llif unffordd ar ddiwrnod 5 a 6 ar ôl profi’n bositif a:
- Phan gewch ddau brawf llif unffordd negatif dilynol 24 awr ar wahân, gallwch ddychwelyd i’r gwaith.
- Os ydych yn cael canlyniad positif ar naill ai diwrnod 5 neu 6, dylech aros o’r gwaith hyd nes y cewch 2 brawf negatif 24 awr ar wahân, neu tan ddiwrnod 10. Fe’ch cynghorir yn gryf hefyd i aros gartref ac osgoi cysylltiad ag eraill tra eich bod yn parhau i brofi’n bositif.
Mae’r tebygolrwydd y byddwch yn cael prawf llif unffordd positif heb unrhyw symptomau ar ôl 10 diwrnod yn isel iawn. Fodd bynnag, os bydd canlyniad eich prawf llif unffordd yn bositif ar y degfed diwrnod, dylech barhau i brofi a dychwelyd i’r gwaith dim ond ar ôl ichi gael un canlyniad prawf llif unffordd negatif.
Mae’n bosibl y cewch alwad gan swyddog olrhain cysylltiadau a fydd yn rhoi rhagor o gyngor ichi os ydych yn gweithio mewn lleoliad sydd â risg uchel.
Dylai pob aelod o staff ddychwelyd at y drefn brofi ddwywaith yr wythnos pan fyddant wedi dychwelyd i’r gwaith.
Staff sy’n gyswllt i rywun â COVID-19
Dylai staff ddilyn y canllawiau yma os ydynt wedi cael eu nodi fel cyswllt agos i rywun sydd wedi cael canlyniad COVID-19 positif.
I grynhoi:
- Dylai pob aelod o staff sy’n gweithio’n agos gyda chleifion wneud profion llif unffordd cyn dod i’r gwaith bob dydd am 7 diwrnod.
- Os yw’r aelod o staff yn gyswllt aelwyd, cynghorir cyflogwyr i symud yr aelod o staff i ddyletswyddau lle nad ydynt yn gweithio gyda chleifion am y 48 awr cyntaf ar ôl i'r aelod o'r aelwyd brofi’n bositif neu ddangos symptomau. Os nad yw'n bosibl symud yr unigolyn, dylent aros gartref am 48 awr cyn dychwelyd i'r gwaith a defnyddio profion llif unffordd am 7 diwrnod. Mewn rhai achosion, efallai y bydd ymddiriedolaethau neu fyrddau iechyd, ar sail cydbwyso’r risg a’r niwed, yn teimlo bod angen gwneud penderfyniadau’n lleol i wyro oddi wrth ganllawiau Llywodraeth Cymru ac ymwrthod â’r gofyniad i gysylltiadau aelwyd symud i ddyletswyddau eraill neu aros gartref.
- Ni ddylai staff sy’n gweithio’n agos gyda chleifion/defnyddwyr gwasanaeth sydd â system imiwnedd wan a/neu sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol, barhau i weithio gyda’r cleifion/defnyddwyr gwasanaeth hyn pan fyddant wedi’u nodi fel cyswllt. Dylai’r staff gael eu symud i weithio gyda chleifion/defnyddwyr gwasanaeth nad yw eu systemau imiwnedd yn wan a/neu nad ydynt yn eithriadol o agored i niwed yn glinigol am 7 diwrnod o leiaf.
- Dylai pob aelod arall o staff ddilyn y cyngor i'r cyhoedd.
Staff sy’n dychwelyd o wlad dramor
Sut i ddefnyddio prawf llif unffordd
Gwyliwch y fideo hyfforddiant byr hwn ar sut i wneud prawf llif unffordd eich hun. Unwaith y bydd gweithiwr wedi gweld y fideo, ystyrir ei fod yn gymwys.
Bydd cyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchydd hefyd wedi’u cynnwys yn y bocs o brofion llif unffordd a ddarperir. Maent yn egluro sut i wneud y prawf a sut i ddehongli’r canlyniadau.
Mae manylion pellach a’r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (‘Standard Operating Procedure’) wedi’u rhannu â’r Byrddau a’r Ymddiriedolaethau Iechyd i’w dosbarthu’n lleol.
Sut i gofnodi’r canlyniadau
Dylech gofnodi pob canlyniad positif/negatif/annilys i brawf llif unffordd drwy: Cofnodi canlyniad prawf llif unffordd cyflym COVID-19 (gov.uk). Os bydd canlyniad yn annilys, dylid ail-wneud y prawf gyda phecyn profi newydd.
Dylid rhoi gwybod i’r cyflogwr ar unwaith am unrhyw ganlyniad positif i brawf llif unffordd.