Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cadarnhau y bydd yn ofynnol i deithwyr sy'n cyrraedd Cymru o bob cyrchfan ryngwladol gyflwyno canlyniad negyddol i brawf COVID-19 cyn gadael er mwyn helpu i ddiogelu rhag y mathau newydd o coronafeirws sy'n cylchredeg yn rhyngwladol.
O 4am ddydd Llun 18 Ionawr 2021, bydd yn rhaid i deithwyr mewnol sy'n cyrraedd ar gwch, awyren neu drên o wledydd y tu allan i'r Ardal Deithio Gyffredin (DU, Gweriniaeth Iwerddon, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel) gymryd prawf hyd at 72 awr cyn gadael y wlad y maent ynddi, i helpu i ddiogelu rhag y mathau newydd o coronafeirws fel y rhai a welir ym Mrasil, Denmarc a De Affrica.
Mae’r mesurau yn cael eu cyflwyno mewn ymateb i'r newidiadau a welwyd yn nhrosglwyddiad y feirws yn y DU ac ar draws y byd.
Bydd profion cyn gadael yn darparu haen ychwanegol o ddiogelwch rhag achosion o coronafeirws a fewnforiwyd ar ben y cwarantin 10 diwrnod gorfodol ar gyfer teithwyr sy’n cyrraedd y wlad, gan helpu i nodi’r rheini a allai fod yn heintus ar hyn o bryd a'u hatal rhag teithio i Gymru.
Mae prawf negyddol cyn gadael yn lleihau'r risg y bydd rhywun yn teithio tra'n heintus, gan weithredu fel mesur diogelu arall i atal heintiau a fewnforiwyd.
Rhaid i deithwyr sy'n cyrraedd o wledydd nad ydynt ar restr Coridor Teithio Llywodraeth Cymru barhau i hunanynysu am 10 diwrnod waeth beth fo canlyniad eu prawf cyn gadael, er mwyn darparu amddiffyniad pellach rhag y rheini sy'n teithio o wledydd risg uchel.
Cyn gadael, bydd angen i deithwyr gyflwyno tystiolaeth o ganlyniad negyddol i brawf COVID-19 i gludwyr, yn ogystal â'r Ffurflen Lleoli Teithwyr.
Mae'r symudiad yn atgyfnerthu ymhellach y mesurau diogelu presennol a helpodd i alluogi teithio rhyngwladol yn ddiogel y llynedd, gyda hunanynysu ar gyfer newydd-ddyfodiaid a Choridorau Teithio yn parhau i fod yn hanfodol i leihau'r risg o achosion a fewnforiwyd o wledydd risg uchel.
Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd:
"Rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i arafu lledaeniad y feirws.
"Bydd y mesurau newydd hyn yn helpu i sicrhau ein bod yn atal mathau newydd o'r feirws rhag cael eu mewnforio i Gymru.
"Rydym eisoes yn gofyn i deithwyr sy'n dychwelyd o wledydd risg uchel hunanynysu am 10 diwrnod ac mae'r gofynion hyn yn parhau.
"Yn ogystal â'r gofyniad i hunanynysu, bydd profion cyn gadael yn fesur diogelu arall i’n helpu i reoli'r feirws wrth i ni barhau i gyflwyno'r brechlyn yn gyflym."
Mae cyfyngiadau symud Lefel Rhybudd 4, a ddaeth i rym ar 18 Rhagfyr 2020, yn parhau i fod ar waith sy'n golygu bod yn rhaid i bawb aros gartref oni bai eu bod yn teithio am resymau cyfyngedig iawn, gan gynnwys ar gyfer gwaith.
Ni chaniateir teithio am wyliau o dan rybudd lefel 4, boed hynny yng Nghymru, mewn mannau eraill yn y DU neu dramor.