Mae'r adroddiad hwn yn nodi canfyddiadau arolwg o ddysgwyr mewn addysg ôl-16 a gynhaliwyd ym misoedd Ebrill a Mai 2024.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau arolwg ar brofiadau dysgwyr mewn addysg ôl-16. Roedd yr ymchwil yn canolbwyntio ar wella dealltwriaeth o brofiadau diweddar dysgwyr mewn addysg bellach sydd rhwng 16 a 24 oed.
Prif ganfyddiadau
- Mae iechyd meddwl a lles emosiynol yn her sylweddol ymhlith dysgwyr mewn addysg ôl-16.
- Adroddodd y dysgwyr eu bod yn cael trafferth gyda gorbryder, iselder ysbryd, a dirywiad cyffredinol yn eu hiechyd meddwl.
- Er bod dysgwyr yn teimlo bod darparwyr yn ceisio diwallu eu hanghenion o ran cymorth iechyd meddwl a lles, mae galw sylweddol o hyd nad yw'n cael ei fodloni ac sy'n gofyn am hyfforddiant ac adnoddau.
- Y dirywiad yn ansawdd addysg a'r effaith negyddol ar iechyd meddwl oedd y rhesymau a nodwyd amlaf dros newidiadau yn y cyrsiau dysgu a gynlluniwyd yn wreiddiol. Adroddodd y dysgwyr eu bod yn cael trafferth gyda gorbryder, iselder ysbryd, a dirywiad cyffredinol yn eu hiechyd meddwl. Efallai y bydd angen cymorth ychwanegol ar y grwpiau mwyaf bregus hyn i'w galluogi i symud ymlaen yn llwyddiannus.
- Nododd dros draean o'r ymatebwyr fod eu cynlluniau addysg wedi newid oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19).
- Roedd saith o bob deg dysgwr yn teimlo bod y pandemig wedi cael effaith negyddol ar eu haddysg. Roedd mwy na chwech o bob deg yn credu bod y pandemig wedi cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl, a phedwar o bob deg eu rhagolygon am swydd yn y tymor hirach.
- Roedd llawer mwy o achosion o anawsterau iechyd meddwl a lles ymhlith ymatebwyr benywaidd nag ymhlith ymatebwyr gwrywaidd. Dywedodd ymatebwyr benywaidd fod hyn wedi amharu ar eu haddysg, ac roedd eu sgoriau lles yn is nag ymatebwyr gwrywaidd.
- Roedd newidiadau mewn cynlluniau addysg yn arbennig o amlwg ymhlith dysgwyr a oedd â phrofiad o fod mewn gofal, y rhai a nododd eu bod yn anabl neu fod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol, a dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
- Dywedodd bron i hanner (47.3%) o'r ymatebwyr a oedd ym mlwyddyn 11 ym mis Mawrth 2020 fod y pandemig wedi cael effaith negyddol ar eu rhagolygon gwaith, o'i gymharu â dim ond 36.0% o ddysgwyr a oedd ym mlwyddyn 8.
Adroddiadau
Profiadau dysgwyr mewn addysg ôl-16: Ebrill i Mai 2024 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.