Neidio i'r prif gynnwy

Mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi cael ei frechiad atgyfnerthu COVID-19 heddiw yng Nghanolfan Brechu Torfol Bayside ym Mae Caerdydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth siarad wedyn, dywedodd y Prif Weinidog:

"Hoffwn i ddiolch i holl staff a gwirfoddolwyr y Gwasanaeth Iechyd sydd wedi gweithio'n ddiflino dros y misoedd diwethaf, i sicrhau bod y rhaglen frechu wedi bod yn gymaint o lwyddiant yma yng Nghymru.

"Rwy'n annog pawb sy'n cael cynnig brechiad atgyfnerthu i ddod i'w hapwyntiadau.

"Mae'n rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i gadw pawb yn ddiogel gan fod y coronafeirws yn dal gyda ni.”