Neidio i'r prif gynnwy

Yr wybodaeth reoli ddiweddaraf ynghylch prentisiaid yng Nghymru a roddwyd ar ffyrlo neu a ddiswyddwyd yn ystod pandemig y coronafeirws hyd at 30 Hydref 2020.

Darperir yr wybodaeth reoli hon i Lywodraeth Cymru gan ddarparwyr prentisiaethau, ac ar sail data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru. Nid yw ei hansawdd wedi’i sicrhau i’r un graddau â’r ystadegau swyddogol.

Casglwyd y data diweddaraf ar 30 Hydref 2020, pan oedd disgwyl i’r cynllun ffyrlo ddod i ben ar 31 Hydref. Mae’r ystadegau hyn yn dangos statws cyflogaeth prentisiaid yr wythnos honno. Ar gyfer rhai prentisiaid, gallai adlewyrchu eu statws cyflogaeth rhai diwrnodau cyn dydd Gwener 30 Hydref, yn sgil oedi wrth i ddarparwyr gasglu data.

Ers dyddiad casglu’r data, fe gafodd y cynllun ffyrlo ei ymestyn hyd at fis Mawrth 2021. Nid yw’r datganiad hwn yn cynnwys unrhyw newidiadau posibl gan gyflogwyr o ganlyniad i’r estyniad hwnnw.

Prif bwyntiau

  • Roedd 1,760 prentis ar ffyrlo llawn ar 30 Hydref 2020. Mae hyn 1,220 yn llai na’r mis blaenorol.
  • Roedd 375 yn ychwanegol o brentisiaid wedi dychwelyd yn rhannol o ffyrlo, heb weithio oriau llawn.
  • Mae cyfanswm nifer y prentisiaid sydd wedi colli eu swyddi wedi codi ychydig o gymharu â’r mis blaenorol, ond mae mwy o ddiswyddiadau wedi arwain nawr at roi terfyn ar brentisiaethau.
  • Rhoddwyd terfyn ar 125 o brentisiaethau yn sgil eu diswyddo.
  • Roedd 165 prentis arall wedi cael eu diswyddo, ond maent yn parhau â’u rhaglen ddysgu tra bo’u darparwr yn ceisio dod o hyd i gyflogwr arall.
  • Mae 15% o brentisiaid wedi cwblhau eu prentisiaeth yn llwyddiannus neu gael swydd yn ystod y pandemig.
  • Rhoddwyd terfyn ar brentisiaethau 5% o brentisiaid am resymau heblaw eu diswyddo.

Ym mhob category, mae nifer y prentisiaid ar ffyrlo wedi syrthio, ond y prentisiaid a oedd wedi’u heffeithio fwyaf o hyd oedd y rhai:

  • ifanc
  • gwrywaidd
  • gwyn neu o hil gymysg
  • yn gweithio yn y meysydd gwallt a harddwch, lletygarwch, neu adeiladu
  • ddim yn astudio prentisiaethau uwch
  • yn gweithio i gwmnïau â llai na 10 o gyflogeion
  • ddim yn gweithio yn y sector cyhoeddus
  • yn byw mewn cymdogaethau llai difreintiedig
  • wedi hunan-nodi bod ganddynt 'brif anabledd a/neu anhawster dysgu'
  • yn byw yn Wrecsam neu Sir y Fflint

Ceir gwybodaeth am nifer y bobl sydd ar ffyrlo yng Nghymru yn yr adroddiad 'Ystadegau ar y Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws a’r Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth'.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Gwybodaeth reoli: prentisiaid a roddwyd ar ffyrlo neu a ddiswyddwyd yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19): hyd at 30 Hydref 2020 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 65 KB

ODS
65 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.