Bydd angen i deithwyr sy'n dychwelyd i Gymru o Bortiwgal hunanynysu ar ôl dod yn ôl wedi i Lywodraeth Cymru gadarnhau y bydd y gyrchfan gwyliau boblogaidd yn symud i'r rhestr oren o 04:00 awr dydd Mawrth 8 Mehefin.
Mae'r penderfyniad i symud Portiwgal (gan gynnwys Madeira a'r Azores) i'r rhestr oren wedi'i wneud er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd yng nghanol pryder cynyddol am ledaeniad amrywiolion o'r coronafeirws, gan gynnwys mwtaniad o amrywiolyn Delta (Indiaidd).
Ychwanegwyd saith gwlad arall – gan gynnwys Sri Lanka a'r Aifft, Afghanistan, Swdan, Bahrain, Trinidad a Thobago a Chosta Rica – at y rhestr goch o'r un diwrnod.
Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd:
"Mae ein neges yn glir – dyma'r flwyddyn i gael gwyliau gartref.
"Rydyn ni'n galw ar bobl i deithio dramor am resymau hanfodol yn unig. Rydyn ni i gyd wedi aberthu cymaint i reoli'r pandemig yng Nghymru, dydyn ni ddim eisiau gweld y feirws yn cael ei ail-fewnforio – neu amrywiolion newydd yn dod i mewn i'r wlad - o ganlyniad i deithio dramor.”