Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cadarnhau y bydd pobl sy’n ddigartref a phobl sydd wedi bod yn ddigartref yn ddiweddar yng Nghymru yn cael cynnig brechlyn COVID fel rhan o grŵp blaenoriaeth 6.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Daw’r penderfyniad hwn yn dilyn cadarnhad bod pobl sy’n ddigartref a phobl sydd wedi bod yn ddigartref yn ddiweddar yn wynebu mwy o risg yn sgil COVID-19. Maen nhw’n fwy tebygol o fod â chyflwr iechyd sy’n bodoli eisoes sy’n golygu eu bod mewn mwy o berygl o ddioddef niwed pe baen nhw’n dal y coronafeirws.

Yn ôl data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae gan bobl sydd â phrofiad o fod yn ddigartref ddisgwyliad oes is na’r cyfartaledd, heb ystyried COVID. Mae eu disgwyliad oes 31 i 38 o flynyddoedd yn is na’r boblogaeth gyffredinol.

Mae canllawiau a gyhoeddir heddiw [dydd Mercher 10 Mawrth] yn nodi y dylid mynd ati mewn modd cynhwysol a chyfunol i sicrhau bod pawb sy’n ddigartref yn cael ei gynnwys yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl, wrth i raglen frechu Cymru barhau.

Ar hyn o bryd, caiff enwau pobl eu nodi drwy eu meddygfa neu eu cofnodion iechyd i gael cynnig y brechlyn, ond mae’n bosibl nad yw llawer o bobl sy’n ddigartref wedi’u cofrestru â gwasanaethau iechyd na gwasanaethau lleol eraill.

Bydd awdurdodau lleol, y trydydd sector a sefydliadau tai, yn ogystal â thimau cymorth digartrefedd, yn allweddol o ran helpu i gynorthwyo pobl i fanteisio ar y cynnig i gael eu brechu.

Yn ogystal, bydd pobl yn cael eu brechu ble maen nhw, yn hytrach na disgwyl iddyn nhw fynd at wasanaethau.

Y rhai sydd wedi’u cynnwys yw pobl sy’n cysgu allan, pobl mewn llety argyfwng a phobl mewn llety â chymorth sydd wedi bod yn ddigartref yn ddiweddar.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething:

Mae’n beth ofnadwy o drist bod pobl sy’n ddigartref yn llawer mwy tebygol o fod â chyflwr iechyd corfforol neu feddyliol sy’n golygu eu bod mewn mwy o berygl o ddioddef niwed yn sgil COVID-19.

Un o egwyddorion craidd ein rhaglen frechu yw na fydd neb yn cael ei adael ar ôl ac yn unol â’r ymrwymiad hwnnw, rydyn ni eisoes yn gweithio i’w gwneud mor hawdd â phosibl i bob oedolyn cymwys yng Nghymru gael brechiad rhag y coronafeirws os yw’n dymuno cael un.

Mae’r canllawiau sy’n cael eu cyhoeddi heddiw yn rhoi rhagor o wybodaeth am sut y byddwn ni’n gwneud hyn ar draws sefydliadau a’r Llywodraeth i sicrhau bod pobl sy’n ddigartref yn cael cymorth i ddiogelu eu hunain a chael eu brechu hefyd.

Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Julie James:

Mae’r cyhoeddiad heddiw’n golygu y byddwn ni’n gallu diogelu rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.

Ers dechrau’r pandemig, mae timau tai a gweithwyr cymorth mewn awdurdodau lleol a’r trydydd sector wedi bod yn gweithio’n ddiflino i helpu pobl sy’n ddigartref i ddod o hyd i lety saff a diogel. Mae miloedd o bobl wedi’u cefnogi ac mae’r ymdrechion hyn, heb os, wedi achub bywydau. Bydd y timau hyn nawr yn chwarae rhan hollbwysig i’n helpu i fynd â’r brechlyn i ble mae angen mawr amdano.

Drwy ehangu’r cynnig brechu i bobl sy’n ddigartref, gallwn ni sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Yr hyn sy’n bwysig hefyd yw y byddwn ni’n mynd â’r brechlyn at y bobl hyn, yn hytrach na’r ffordd arall.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cymorth Cymru Katie Dalton:

Rydyn ni’n falch iawn bod pobl sy’n ddigartref yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer brechlyn COVID-19 yng Nghymru. Rydyn ni wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i gasglu tystiolaeth o’r peryglon penodol i’r boblogaeth hon, ac rydyn ni’n croesawu’r ffaith bod y Gweinidogion wedi ymateb drwy gyhoeddi’r canllawiau hyn.

Yn ogystal â chanran uwch o gyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes, rydyn ni’n gwybod bod pobl sy’n ddigartref yn llai tebygol o fod wedi’u cofrestru â gwasanaethau iechyd ac y gallen nhw felly fod wedi methu’r cyfle i gael eu brechu. Mae’r dull gweithredu cynhwysol sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn golygu y bydd gwasanaethau cyhoeddus a darparwyr cymorth yn cael eu grymuso i sicrhau na fydd pobl sy’n cysgu allan na phobl mewn llety argyfwng neu lety â chymorth yn cael eu gadael ar ôl ac y byddan nhw’n cael eu diogelu rhag COVID-19.

Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid gwerth £50 miliwn i ddarparu cartrefi saff a diogel i bobl, gan sicrhau nad ydyn nhw’n mynd yn ddigartref ac nad oes neb yn cael ei orfodi yn ôl i’r stryd.