Neidio i'r prif gynnwy

Bydd rhai myfyrwyr yn gallu pleidleisio yn eu coleg yn etholiadau llywodraeth leol fis Mai nesaf, fel rhan o ymdrechion i gynyddu nifer y bobl sy’n pleidleisio.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion pedwar cynllun treialu trefniadau pleidleisio hyblyg sy’n cael eu cynnal gan awdurdodau lleol.

Cynhelir etholiadau llywodraeth leol nesaf Cymru ar 5 Mai 2022. Bydd y cynlluniau treialu yn golygu y bydd pobl yn ardaloedd cyngor Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili a Thorfaen yn gallu pleidleisio cyn y diwrnod pleidleisio.

Bydd Parth Dysgu Blaenau Gwent, Coleg Gwent yng Nglynebwy yn cael ei ddefnyddio fel gorsaf bleidleisio gynnar yn ystod yr wythnos yn arwain at ddiwrnod yr etholiad. Bydd yr holl fyfyrwyr yno yn gallu bwrw eu pleidlais ar ôl i Gymru ostwng yr oedran pleidleisio i 16 y llynedd. Bydd yr orsaf bleidleisio hefyd ar gael fel canolfan bleidleisio gynnar i holl drigolion y sir, waeth pa ward etholiadol y maen nhw’n byw ynddi.

Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, bydd gorsaf bleidleisio newydd yn cael ei chreu mewn ysgol fel y gall disgyblion sy’n gymwys fwrw eu pleidlais yno cyn diwrnod yr etholiad. Bydd gorsafoedd pleidleisio sydd eisoes yn bodoli mewn wardiau lle mae canran isel o bobl yn bwrw eu pleidlais hefyd ar agor ar gyfer pleidleisio cynnar yn ystod yr wythnos yn arwain at yr etholiad.

Yng Nghaerffili a Thorfaen, bydd swyddfeydd y cyngor yn cael eu defnyddio fel canolfannau pleidleisio cynnar dros y penwythnos cyn diwrnod yr etholiad. Byddan nhw ar agor i holl drigolion y sir, waeth pa ward etholiadol y maen nhw’n byw ynddi, gan ddarparu lleoliad cyfleus yng nghanol y dref i bobl bleidleisio.

Bydd y cynlluniau treialu ym Mlaenau Gwent, Caerffili a Thorfaen hefyd yn golygu y bydd pobl o unrhyw le yn y sir yn gallu pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio ganolog, nid dim ond yn eu ward, gan gynnig hyblygrwydd o ran lleoliad ac amser fel ei gilydd.

Mae pob un o’r pedwar cynllun treialu wedi’u dylunio i’w gwneud yn haws i bobl bleidleisio ar adeg ac mewn lleoliad sy’n gyfleus iddyn nhw. Bydd y canfyddiadau a thystiolaeth a gesglir yn dylanwadu ar benderfyniadau yn y dyfodol a gellid ymestyn cynlluniau treialu llwyddiannus yn fwy eang i etholiadau llywodraeth leol neu’r Senedd yn y dyfodol.

Dywedodd Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad:

“Mae mwy o bobl yn cymryd rhan weithgar yn ein democratiaeth yn dda i’n cymdeithas. Bydd y cynlluniau treialu hyn yn ei gwneud yn haws ac yn fwy cyfleus i bobl bleidleisio, gan ddod â’r bocs pleidleisio’n nes at fywydau bob dydd pobl.

“Ar adeg pan mae cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer cardiau adnabod pleidleiswyr yn mentro gwneud pleidleisio’n fwy anodd, mae ein neges yn uchel a chlir y dylai pleidleisio fod yn haws.

“Roedd gostwng yr oedran pleidleisio i 16 yn gam mawr ymlaen sy’n cydnabod y cyfraniadau gwerthfawr y gall pobl ifanc eu gwneud. Rydym yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc siapio ein democratiaeth felly rwy’n falch y bydd cynlluniau treialu yn cael eu cynnal mewn ysgol a choleg.

“Bydd canlyniadau’r cynlluniau treialu yn cael eu hystyried yn ofalus a gallen nhw yn y pen draw ailwampio sut y mae pobl yn bwrw eu pleidlais ledled Cymru.”

Dywedodd Guy Lacey, Pennaeth Coleg Gwent: 

"Mae llais y dysgwr yn bwysig inni yng Ngholeg Gwent. Felly, mae’r cyfle i bobl ifanc 16 oed bleidleisio yn yr etholiad yn gyfle gwych iddyn nhw ddweud eu dweud ar faterion sy’n effeithio ar bobl ifanc y tu hwnt i’r coleg. Rydym yn hapus i gefnogi Llywodraeth Cymru wrth wneud hyn mor hawdd a chyfleus ag sy’n bosibl i’n dysgwyr ac rydym yn gobeithio gweld y cynlluniau treialu hyn yn cael effaith gadarnhaol ar nifer y bobl sy’n pleidleisio yn y grŵp oedran hwn.”

Dywedodd Michelle Morris, Rheolwr Gyfarwyddwr Cyngor Blaenau Gwent:

"Rydym yn falch iawn bod ein cynnig i Lynebwy fod yn un o’r ardaloedd treialu trefniadau pleidleisio hyblyg wedi bod yn llwyddiannus. Mae’n bwysig bod pobl yn defnyddio eu pleidlais ac yn cymryd rhan mewn etholiadau, ac mae’r fenter hon yn sicr yn helpu hyn. Mae’n ei gwneud yn haws i bobl fwrw eu pleidlais a bydd yn annog mwy o bobl i gymryd rhan yn yr etholiadau llywodraeth leol y flwyddyn nesaf."