Neidio i'r prif gynnwy

Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru i anrhydeddu arwyr pob dydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddweision a achubodd menyw 92 oed o dŷ ar dân, cyflwynydd ITV sydd wedi goroesi camdriniaeth yn y cartref ac yn awr yn ymgyrchydd, cyn-gamblwr sydd yn helpu pobl eraill sy’n gaeth i gamblo – mae’r rhain i gyd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Dewi Sant.

Mae Gwobrau Dewi Sant, a fydd yn dathlu eu nawfed flwyddyn yn 2022, yn cydnabod gorchest eithriadol pobl o bob cwr o Gymru.

Bydd gwobrau eleni yn cael eu rhoi i bobl a chwmnïau mewn naw categori gwahanol, gan gynnwys Dewrder, Ysbryd y Gymuned ac Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Bydd Prif Weinidog Cymru yn rhoi ei wobr arbennig.

Wrth gyhoeddi'r teilyngwyr, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

"Mae rhai o'r bobl sydd ar y rhestr fer wedi dangos dewrder a phenderfyniad eithriadol. Mae eraill wedi dangos ysbryd cymunedol anhygoel er gwaetha’r pwysau aruthrol o fyw drwy bandemig y coronafeirws.

"Mae ein teilyngwyr yn bobl syfrdanol ac rydym yn ffodus iawn eu bod yn byw yng Nghymru. Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer a hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o’i amser i enwebu rhywun am wobr – yn anffodus mae’n amhosib rhoi pawb ar y rhestr fer."

Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni ar 7 Ebrill 2022.

Gweler holl rownd derfynol 2022.

Dewrder

  • PC Ian Chattun a’r Rhingyll Katy Evans - Heddlu Dyfed Powys
  • PC Thomas Scourfield a’r Rhingyll Geraint Jenkins - Heddlu De Cymru
  • Aaron Gray - Cyn filwr yn y Lluoedd Arfog

Busnes

  • Gwasanaethau glanhau a diogelwch A&R - Busnes glanhau a diogelwch
  • Awesome Wales CIC - Menter gymdeithasol
  • Jordan Lea -Busnes codi ymwybyddiaeth caethiwed gamblo

Ysbryd y Gymuned

  • Carole Anne Dacey - Gwirfoddolwr
  • Ruth Dodsworth - Cyflwynydd teledu ac ymgyrchydd yn erbyn trais yn y cartref
  • Siop Griffiths - Menter gymdeithasol 

Gweithiwr Allweddol

  • Dr Eilir Hughes - Meddyg teulu
  • Michelle Jones a Catherine Cooper – Pennaeth Ysgol a Dirprwy Bennaeth - Ysgol Gynradd Landsdowne
  • Tîm nyrsio anadlol Ysbyty Morgannwg - Ysbyty Frenhinol Morgannwg
  • Ysgol Esceifiog - Ysgol

Diwylliant

  • Berwyn Rowlands - Cyfarwyddwr Gwobr Iris
  • Dr Ami Jones a Glenn Dene - Gweithwyr rheng flaen
  • Jessica Dunrod - Awdur

Pencampwr yr Amgylchedd

  • Dr Sarah Beynon - The Bug Farm - Cadwraethwr
  • Grŵp Amgylchedd Adeiledig Carbon Isel (Prifysgol Caerdydd) - Effeithlonrwydd ynni
  • Melissa Forster a Kristina Pruett - Her casglu sbwriel

Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg

  • Dr Sabrina Cohen-Hatton, Yr Athro Rob Honey, Dr Byron Wilkinson a Phil Butler - Dyfeiswyr
  • Luca Pagano, Graham Howe, Peter Charlton, John Hughes a Richard Morgan - Gofal Covid-19
  • Tîm Ymchwil a Chyflenwi Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Triniaeth COVID-19

Chwaraeon

  • David Smith MBE - Athletwr Paralympaidd
  • Hannah Mills OBE - Hwyliwr olympaidd
  • Lauren Price - Bocsiwr

Person ifanc

  • Benjamin Trewartha - Hyfforddiant Cymorth cyntaf
  • Daniel Lewis - Gwaith gwirfoddol
  • Makenzy Beard - Arlunydd