Neidio i'r prif gynnwy

Bydd pob cartref yng Nghymru yn derbyn llythyr cyn hir ynglŷn â chynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer brechu rhag COVID-19.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd llythyrau’r byrddau iechyd yn cael eu hanfon i bob cartref yng Nghymru dros yr wythnosau nesaf gan yr awdurdodau lleol, ar ran Llywodraeth Cymru.

Yn y llythyrau, bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu am y cynllun ar gyfer cyflwyno brechlynnau’r coronafeirws sydd ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd – gwybodaeth am sut y mae’r brechlynnau yn cael eu dosbarthu a sut y bydd pobl yn cael eu gwahodd i apwyntiad. Mae pobl yn cael eu hannog i aros eu tro ac i beidio â chysylltu â’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) na gwasanaethau iechyd i ofyn am frechlyn COVID-19.

Pan fydd unigolion yn derbyn eu gwahoddiad i gael eu brechu, byddant hefyd yn cael gwybod ymhle y byddant yn derbyn y brechiad – gallai hynny fod mewn ysbyty, canolfan frechu neu yn eu meddygfa arferol.

Bydd pob llythyr wedi cael ei addasu i ddarparu gwybodaeth berthnasol i gymunedau am wasanaethau sy’n benodol i’w hardal leol.

Cyflwynir y brechlyn mewn dau gam. Yn ystod y cam cyntaf, bydd y brechlyn yn cael ei roi yn ôl oed a’r perygl i’r unigolyn o gael salwch difrifol os bydd yn dal y coronafeirws. Mae’r grwpiau sy’n perthyn i’r cam cyntaf hwn – sy’n cynnwys cyfanswm o tua 1.5 miliwn o unigolion – yn cynrychioli tua 99% o farwolaethau o’r coronafeirws y gellir eu hosgoi.

Yn y pum wythnos gyntaf ers i’r brechlyn ddechrau gael ei roi yng Nghymru, mae 91,239 o unigolion wedi derbyn eu dos cyntaf erbyn hyn. Argymhellir y dylid rhoi ail ddos o frechlyn o’r un gwneuthuriad o fewn 12 wythnos.

Y gobaith yw y bydd pob oedolyn cymwys yng Nghymru yn cael cynnig y brechlyn erbyn yr hydref, fel yr amlinellir yn Strategaeth Frechu Llywodraeth Cymru a gafodd ei chyhoeddi yn gynharach yr wythnos hon [dydd Llun 11 Rhagfyr].

Yn ogystal â’r llythyrau, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn atgyfnerthu ei rhybuddion ynglŷn â negeseuon e-bost twyllodrus sy’n gofyn i bobl am eu manylion banc neu am dâl am y brechlyn. Ni fydd y GIG yn gofyn i unrhyw un dalu am frechlyn. Er mwyn eu helpu i benderfynu a yw neges yn ceisio eu twyllo, dylai pobl chwilio am eiriau sydd wedi cael eu camsillafu a gwallau gramadegol, yn ogystal â chyfeiriadau gwefannau nad ydynt yn perthyn i’r GIG a fydd yn gofyn am eu manylion.

Maent hefyd yn rhybuddio yn erbyn ‘cyfrifwyr brechlynnau’ sy’n honni eu bod yn gallu rhagfynegi ar ba ddyddiad y gall rhywun ddisgwyl gael ei frechu. Mewn gwirionedd, mae’r ‘cyfrifwyr’ hyn yn defnyddio manylion personol i amcangyfrif ac nid ydynt yn cael eu cymeradwyo gan unrhyw sefydliad swyddogol. 

Dywedodd Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd:

“Mae llawer iawn o waith wedi’i wneud ar gyfer cyflwyno’r rhaglen frechu fwyaf a welwyd erioed yng Nghymru. Mae ein cynlluniau’n uchelgeisiol ond, ar y cyd â’r GIG, rydyn ni’n gweithio’n galed iawn i sicrhau bod pobl yn cael eu brechu cyn gynted ag sy’n bosibl, a bod hynny’n cael ei wneud mewn ffordd sydd mor ddiogel ag sy’n bosibl.

“Mae brechlynnau yn achub bywydau ac, yn y pandemig hwn, gallent newid ein bywydau ni i gyd. Ond, wrth inni fwrw ati’n gyflymach i gyflwyno’r brechlynnau ym mhob cwr o Gymru, mae’n bwysicach nag erioed inni ddilyn y rheolau a chadw ein hunain yn ddiogel. Mae hynny’n golygu aros gartref a gweithio gartref; cadw pellter rhag pobl eraill; golchi ein dwylo’n aml, ac, os oes rhaid inni fynd allan, gwisgo masg pan fyddwn ni mewn mannau cyhoeddus.”