Neidio i'r prif gynnwy

Amcan

Datblygu cyfres o gamau cydweithredol y gallwn eu cymryd ar unwaith i gyflawni nod ‘30 erbyn 30’ y CBD, gan gydnabod y galluoedd sydd gennym yng Nghymru ac adlewyrchu ein dyletswyddau a’n ffordd o weithio a nodir o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd (Cymru).

1. Trawsnewid y gyfres o safleoedd gwarchodedig er mwyn i’r gyfres fod yn well, yn fwy, a chael ei chysylltu’n fwy effeithiol

Byddwn yn gweithredu ar unwaith i sicrhau bod y safleoedd gwarchodedig yn cael eu rheoli'n effeithiol ac yn deg erbyn 2030 drwy:
o    Ehangu a chynyddu’r Rhaglen Rhwydweithiau Natur i wella cyflwr, cysylltedd a gwytnwch safleoedd gwarchodedig. Yn ogystal â chefnogi camau i wella safleoedd gwarchodedig, mae'r rhaglen hefyd yn canolbwyntio ar gynnwys cymunedau lleol mewn modd gweithredol, gan greu rhwydweithiau o bobl yn ogystal â rhwydweithiau ecolegol gwydn.

o    Bydd Map Rhwydweithiau Natur sy'n amlinellu ardaloedd ffocws allweddol yn cael ei gynhyrchu. Bydd Porth Safleoedd Gwarchodedig yn cael ei ddatblygu a'i gyflwyno er mwyn i bartneriaid gael mynediad at ddata safleoedd gwarchodedig CNC.

o    Cynyddu capasiti cyflawni'r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd drwy ddull graddol, er mwyn i’r rhaglen gyflawni ar raddfa sy'n gallu cyrraedd y targed sero net 2050 o adfer 45,000 hectar o fawndir erbyn 2030.

o    Darparu cyllid ar gyfer Partneriaethau Natur Lleol i gefnogi camau gan bartneriaethau cydweithredol ar gyfer adfer natur ar lefel leol. 

o    Mynd i'r afael â'r rhwystrau ariannol i gyflawni sy'n atal cynnydd tuag at adfer a/neu gynnal a chadw safleoedd ar dir, dŵr croyw a moroedd i gyflwr ffafriol drwy:

  • Archwilio'r cyfle i ddefnyddio Cytundebau Rheoli Tir Adran 16 fel arian cyfatebol er mwyn ei gwneud yn bosibl sicrhau ffynonellau cyllid ychwanegol i gefnogi camau gweithredu mwy uchelgeisiol ar gyfer adfer natur. 
  • Adolygu lefel y ffioedd cynllunio sy'n cael eu talu am waith cadwraeth sy'n gallu ychwanegu cost sylweddol at y broses o gyflawni.

o    Cwblhau rhwydwaith yr Ardaloedd Morol Gwarchodedig (MPA) er mwyn sicrhau yr ymdrinnir â diffygion o ran gwarchod cynefinoedd a rhywogaethau o ddiddordeb cadwraeth, sicrhau bod rhywogaethau a chynefinoedd yn cael eu cynrychioli'n dda, a bod y rhwydwaith wedi’i gysylltu ac yn gydlynol yn ecolegol. Bydd hyn yn dechrau gyda gwaith ymgysylltu cyn ymgynghori â rhanddeiliaid yn ystod y tri mis nesaf.

o    Cwblhau'r gwerthusiad strwythuredig o’r modd y mae offer pysgota posibl yn rhyngweithio â nodweddion Ardaloedd Morol Gwarchodedig ac ymgynghori ar y mesurau rheoli angenrheidiol sydd eu hangen. Bydd atal niwed i nodweddion Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn helpu i wella cyflwr a gwytnwch y rhwydwaith. 

o    Sefydlu cynllun wedi'i dargedu i gefnogi’r gwaith o adfer morwellt a chynefinoedd morfa heli ar hyd ein harfordir

o    Creu cyfleoedd i bysgotwyr morol a dŵr croyw i gefnogi adferiad natur, a lle bo hynny'n briodol mynd i’r afael â chamau rheoli ar gyfer gwella bioamrywiaeth a chynefinoedd.

o    Canfod ffyrdd o fanteisio i’r eithaf ar rôl Gwarchodfeydd Natur Lleol a chynefinoedd eraill nad ydynt o dan ddynodiad statudol, fel Safleoedd o Bwys er Cadwraeth Natur, i gyflawni ar gyfer y 30 erbyn 30.

o    Sicrhau bod safleoedd gwarchodedig (rheoli, monitro, dynodi), tir a môr, yn flaenoriaeth i CNC drwy strategaethau corfforaethol a strategaethau ar gyfer y dyfodol a darparu cyllid digonol.

o    Adolygu'r gyfres SoDdGA i lywio rhaglen hysbysu gyflymach, gan ei gwneud yn gydnaws â'r Rhaglen Rhwydweithiau Natur ac adrodd yn ôl o fewn 12 mis.

Yn y tymor hwy, byddwn yn:

o    Gwella effeithiolrwydd o ran amddiffyn rhag effeithiau niweidiol datblygiad a bygythiadau / pwysau eraill drwy gynyddu capasiti a gallu mewn cyrff cyhoeddus perthnasol i gymryd camau gorfodi effeithiol lle bo angen. 

o    Dechrau ar raglen uchelgeisiol o ddynodi safleoedd gwarchodedig gyda phroses hysbysu gyflymach i gyd-fynd â'r rhwydweithiau natur a'u cryfhau, gan flaenoriaethu'r ardaloedd hynny lle mae angen eisoes wedi'i nodi. 

2. Creu fframwaith i gydnabod Ardaloedd Enghreifftiol Adfer Natur a Mesurau Cadwraeth Effeithiol Eraill ar sail Ardal (OECMs) sy'n cyflawni canlyniadau o ran bioamrywiaeth

Yn ogystal â gwella'r ardaloedd gwarchodedig presennol, rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd canfod ardaloedd ychwanegol a all wireddu ein huchelgais adfer natur ac atebion eraill i reoli'r rhain. Ar yr ochr reoli rydym am sefydlu cyfres o Ardaloedd Enghreifftiol Adfer Natur - cydweithrediadau presennol neu newydd ar raddfa tirwedd o gyfranogwyr cyhoeddus, preifat, gwirfoddol a chymunedol sy'n dod at ei gilydd i reoli ac adfer natur mewn ardaloedd gwarchodedig a'r dirwedd ehangach. Yn ogystal, rydym am archwilio rôl statws diffiniedig newydd yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (IUCN) o OECMs wrth gydnabod ardaloedd y tu allan i safleoedd gwarchodedig a all gyfrannu at 30 erbyn 30.

Byddwn yn gweithredu ar unwaith i:

o    Sefydlu gweithgor arbenigol (a dolenni at Weithgor Ardaloedd Gwarchodedig yr IUCN) i argymell prosesau a meini prawf ar gyfer cydnabod, monitro ac adrodd ar OECMs presennol ac Ardaloedd Enghreifftiol Adfer Natur posibl yng Nghymru. Bydd y gweithgor yn adrodd ar argymhellion o ran canfod safleoedd a dulliau posibl i ariannu'r rhain o fewn chwe mis. 

Mae cysylltiadau rhwng tir a dŵr yn cynrychioli ardal weithredol ar gyfer OECMs integredig. Bydd Dŵr Cymru (Tachwedd 2022) yn cynnal cyfres o weithdai yn eu cynhadledd flynyddol TarddLe i archwilio'r galluogwyr a'r rhwystrau wrth fynd ati i gyflawni camau gweithredu ar raddfa dalgylch dŵr croyw. Bydd allbynnau'r gweithdai yn cael eu rhannu ar ôl y gynhadledd yn Adroddiad TarddLe22.

3. Rhyddhau potensial tirweddau dynodedig (Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol) i gyflawni mwy ar gyfer natur a 30 erbyn 30

Mae gan ein Tirweddau Dynodedig, ein Parciau Cenedlaethol a’n Hardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol ran hanfodol i'w chwarae wrth gefnogi adferiad natur. Byddwn yn gweithredu ar unwaith i:

o    Gefnogi'r Parciau Cenedlaethol ac AHNE i ddatblygu cynlluniau gweithredu â blaenoriaeth ar gyfer adfer natur gan roi’r rhain wrth wraidd y gwaith cynllunio strategol.

Yn y tymor hwy, byddwn yn:

o    Ailosod blaenoriaethau Tirweddau Dynodedig i wella a chyflymu'r gwaith cyflawni ar gyfer adfer natur, wedi'i gefnogi gan bolisi, adnoddau a chanllawiau wedi'u diweddaru i adeiladu capasiti ac arbenigedd ac i dargedu gweithgarwch.

o    Datblygu'r dystiolaeth a'r offer mapio i alluogi tirweddau dynodedig i osod llinell sylfaen, targedu a monitro ardaloedd o werth natur uchel y gellid eu sicrhau fel eu cyfraniad tuag at 30 erbyn 30.

o    Sicrhau bod cyrff Tirweddau Dynodedig yn cael eu hariannu'n ddigonol, yn gynaliadwy ac mewn modd hyblyg er mwyn cyflawni adferiad natur ar raddfa tirwedd drawsnewidiol. 
 
o    Sicrhau bod dynodi Parc Cenedlaethol posibl newydd yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn cynnig cyfleoedd i liniaru ar effeithiau newid hinsawdd ac adfer natur fel blaenoriaethau cyflawni allweddol i'r Parc newydd.

o    Ystyried yr angen am ddeddfwriaeth yn y Senedd nesaf i ddiwygio'r dibenion, y dyletswyddau a’r trefniadau llywodraethu statudol ar gyfer cyrff tirweddau dynodedig er mwyn eu harfogi'n well i ysgogi adferiad natur.

4. Parhau i ddiwygio gwaith rheoli a chynllunio tir a morol (gan gynnwys gofodol) i gyflawni mwy ar gyfer safleoedd gwarchodedig a thir / morweddau yn ehangach

Gall sut rydym yn defnyddio ein cynefinoedd tir, dŵr croyw a morol nawr ac yn y dyfodol gael effaith sylweddol ar gyflwr safleoedd a'r rhywogaethau sy'n rhan ohonynt. Byddwn yn gweithredu ar unwaith i:

o    Ddatblygu canllawiau cryfach ar gyfer Polisi 9 Cymru'r Dyfodol drwy brosiect peilot Gwastadeddau Gwent ar gyfer prif ffrydio bioamrywiaeth, gwytnwch ecosystemau a seilwaith gwyrdd i bolisïau cynllunio mewn Ardaloedd Rheoli Adnoddau Naturiol Cenedlaethol yng Nghymru.

o    Cryfhau'r amddiffyniad polisi a roddir i SoDdGA fel yr amlinellir yn Polisi Cynllunio Cymru 11.

o    Archwilio'r posibilrwydd y bydd contract ar gyfer Cymru gyfan yn cael ei sefydlu gyda'r Canolfannau Cofnodion Lleol i sgrinio pob cais cynllunio.  

o    Gweithredu dull gofodol o gynllunio morol gan nodi'r cyfleoedd a’r cyfyngiadau  ecolegol ar gyfer gwahanol weithgareddau morol gan gynnwys ynni adnewyddadwy. Bydd yn cynnwys cyhoeddi canllawiau gofodol a defnyddio'r adolygiad o Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru (WNMP) i ystyried cyflwyno polisïau cynllunio gofodol i gynorthwyo cynllunwyr, datblygwyr a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau. 

o    Buddsoddi mewn cynghorwyr medrus i ennyn diddordeb ffermwyr o ran y cynllun newydd a manteisio i'r eithaf ar y manteision posibl i fyd natur.

o    Buddsoddi mewn cynlluniau peilot rheoli tir yn gynaliadwy i gasglu gwybodaeth a magu profiad o gyflawni ar gyfer rhywogaethau a chynefinoedd.

Yn y tymor hwy, byddwn yn:

o    Dylunio'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy i sicrhau bod ffermwyr yn cael eu gwobrwyo am ddarparu rheolaeth briodol o safleoedd gwarchodedig ac am gamau gweithredu sy'n gwella rhagolygon natur yn y dirwedd ehangach ac mewn cynefinoedd dŵr croyw.

o    Datblygu a gorfodi safonau gofynnol i atal difrod pellach, gwarchod y cynefinoedd a'r ecosystemau allweddol a hwyluso’r gwaith o gywiro difrod pe bai hyn yn digwydd. 

o    Explore the possibility of an all-Wales contract to be set up with the Local Record Centres to screen all planning applications.  

o    Implement a spatial approach to marine planning identifying the ecological constraints and opportunities for different marine activities including renewables. To include publishing spatial guidance and using the review of the WNMP to consider introducing spatial planning policies to assist planners, developers and decision makers. 

o    Investing in skilled advisors to engage farmers with the new scheme and maximise the potential benefits for nature

o    Investing in sustainable land management pilots to build knowledge and experience in delivery for species and habitats

In the longer term we will:

o    Design the Sustainable Farming Scheme to ensure farmers are rewarded both for providing appropriate management of protected sites and for actions that improve the prospects of nature in the wider landscape and freshwater habitats. 

o    Develop and enforce minimum standards to prevent further harm, protect the key habitats and ecosystems and facilitate rectification of damage should this occur. 

5. Adeiladu sylfaen gref ar gyfer cyflawni yn y dyfodol drwy ddatblygu capasiti, newid ymddygiad, codi ymwybyddiaeth a datblygu sgiliau

Rydym yn cydnabod y bydd angen dull gweithredu ar draws y gymdeithas ar gyfer adfer natur, ac na fydd camau i fynd i'r afael â'r argyfwng natur yn llwyddiannus os na wneir hynny law yn llaw â gweithredu i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Byddwn yn gweithredu ar unwaith i gefnogi’r gwaith o gyflawni yn effeithiol nawr ac yn y dyfodol drwy:

o    Integreiddio'r sgiliau a'r arbenigedd sydd eu hangen ar gyfer adfer natur (e.e. ecolegwyr, cynllunwyr morol a biolegwyr ac ati) i'r Strategaeth Sgiliau Sero Net. 

o    Cynnwys camau i fynd i'r afael â'r argyfwng natur yn y rhaglen gyffredinol ar gyfer newid ymddygiad o ran newid hinsawdd.

o    Ehangu a gwella cynlluniau adeiladu capasiti a gallu i gefnogi'r sector cyhoeddus, y trydydd sector a'r sector preifat i gyflymu'r gwaith o gyflawni ar gyfer adfer natur. Bydd hyn yn cynnwys canolbwyntio ar gadernid ariannol a pharodrwydd i fuddsoddi. 

Yn y tymor hwy, byddwn yn:

o    Gwella addysg ac ymwybyddiaeth o'r argyfwng natur a hinsawdd a’r camau gweithredu y gall unigolion a sefydliadau eu cymryd

o    Adeiladu ar raglen Natur a Ni (a Chynllun y Bobl ar gyfer Natur), cynyddu cyfranogiad dinasyddion a chyfranogiad mewn camau gweithredu i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd.

6. Rhyddhau cyllid cyhoeddus a phreifat ychwanegol er mwyn cyflawni ar gyfer natur yn gyflymach ac ar raddfa fwy

Rydym yn cydnabod y bydd angen cyllid digonol er mwyn cymryd camau effeithiol i fynd i'r afael â'r argyfwng natur erbyn 2030. Byddwn yn gweithredu ar unwaith i nodi ffynonellau cyllid priodol ac ymyriadau'r llywodraeth y gallai fod eu hangen i sicrhau bod y rhain yn cyflawni er budd Cymru drwy:

o    Ddatblygu safbwynt polisi clir ar fuddsoddiad preifat mewn adfer natur, gan nodi'r cyfleoedd posibl a rhag-weld y risgiau, gan gynnwys lle y gellid lliniaru'r rhain drwy ymyriadau ac egwyddorion priodol y llywodraeth ar gyfer buddsoddiad cyfrifol.

o    Archwilio dulliau a chyfleoedd ariannu cynaliadwy i gefnogi gwaith sy'n cyflawni’r elfen forol o 30 erbyn 30, megis nodi dulliau ariannu o ddiwydiannau datblygol sy'n dod i'r amlwg, archwilio ardollau a rôl Budd Net Morol.

Yn y tymor hwy, byddwn yn:

o    Cynyddu buddsoddiad cyhoeddus mewn adfer natur drwy sicrhau bod yr ymateb i'r argyfwng natur wedi'i integreiddio ar draws adrannau'r llywodraeth.

7. Datblygu ac addasu fframweithiau monitro a thystiolaeth i fesur cynnydd tuag at y targed 30 x 30 a llywio’r broses o flaenoriaethu camau gweithredu

Mae fframweithiau monitro a thystiolaeth effeithiol a fforddiadwy yn hanfodol os ydym am olrhain ein cynnydd tuag at y nod o 30 erbyn 30 a'r uchelgais mwy hirdymor o fod yn bositif dros natur. Mae angen i'r fframweithiau hyn gael eu llywio drwy werthuso anghenion data, adeiladu ar arferion da a setiau data presennol, a nodi'r hyn sydd ei angen yn y dyfodol. Byddwn yn mynd ati ar unwaith i:

o    Sefydlu grŵp gorchwyl monitro a thystiolaeth i barhau â'r gwaith sydd ei angen i sefydlu fframweithiau monitro a thystiolaeth gadarn a phriodol ar gyfer 30 erbyn 30 a thargedau adfer natur ehangach, gan adeiladu ar y rhai sydd eisoes ar waith.

8. Rhoi Adferiad Natur wrth wraidd polisi a strategaeth mewn cyrff cyhoeddus yng Nghymru

Byddwn yn ailddatgan ein hymrwymiad i gymryd camau unioni i warchod ac adfer bioamrywiaeth a sicrhau bod cyrff cyhoeddus ledled Cymru yn cefnogi'r modd y mae'r ymrwymiad hwn yn cael ei gyflawni. Byddwn yn gweithredu ar unwaith i

o    Adolygu'r Polisi Adnoddau Naturiol (NRP) a'n Strategaeth Bioamrywiaeth Genedlaethol (sef Cynllun Gweithredu Adfer Natur ar hyn o bryd) i adlewyrchu argymhellion yr archwiliad dwfn a Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang ôl-2020. Bydd hyn yn cynnwys camau allweddol i leihau pwysau sy'n effeithio ar fioamrywiaeth ac ysgogi’r broses o adfer bioamrywiaeth.

o    Cryfhau'r gwaith o gyflawni'r Polisi Adnoddau Naturiol ac Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) i gefnogi prif ffrydio'r gwaith o gyflawni ar gyfer natur ar draws holl bortffolios y Llywodraeth a chyrff cyhoeddus. Bydd hyn yn cynnwys:

  • Camau i leihau pwysau sy'n effeithio ar fioamrywiaeth ac ysgogi’r broses adfer.
  • Dod â pholisïau allweddol Llywodraeth Cymru ynghyd sy'n effeithio ar waith rheoli defnydd tir a nodi sut maent yn cyd-fynd ar lawr gwlad gan integreiddio â chynllun Cymru’r Dyfodol a Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru.

o    Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru i arwain drwy esiampl, gan ddangos ac archwilio cyfleoedd pellach i sicrhau bod cyflawni ar gyfer natur yn un o’r amcanion â blaenoriaeth ar gyfer Ystad Coetir Llywodraeth Cymru, gan newid arferion, lle y bo angen, sy'n niweidiol i natur.

Yn y tymor hwy, byddwn yn:

o    Datblygu deddfwriaeth sylfaenol i osod targedau adfer natur cyffredinol a sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol i'w gosod mor gynnar â phosibl yn nhymor y Senedd hon, a chyfres o dargedau adfer natur statudol manylach sy'n canolbwyntio ar gyflawni canlyniadau amgylcheddol a sicrhau cyfraniad Cymru at y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang ôl-2020.