Gwybodaeth am blant ar orchmynion gofal ac mewn lleoliadau, mabwysiadau o ofal a niferoedd y plant a phobl ifanc syddy yn gadael gofal ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Plant sy'n derbyn gofal gan awdurdodau lleol
Mae ‘Plant sy'n Derbyn Gofal’ yn cyfeirio at blant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol yng Nghymru.
Ystyr 'plentyn' yw unrhyw un o dan 18 oed. Mae adran 74 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn nodi bod plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn blentyn sydd yn ei ofal, neu sy’n cael ei letya, am gyfnod parhaus o fwy na 24 awr, gan yr awdurdod wrth arfer unrhyw swyddogaethau sy’n swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, ac eithrio swyddogaethau o dan adran 15, Rhan 4, neu adran 109, 114 neu 115.
Mae data yn y diweddariad blynyddol hwn yn cwmpasu cyfnod y pandemig coronafeirws (COVID-19). Er na allwn bennu union effaith y pandemig, credir ei fod yn weladwy yn y data drwy lai o blant yn dechrau derbyn gofal, cyfran uwch o blant angen gofal oherwydd straen neu gamweithrediad teuluol, llai o symudiadau lleoliad, llai o blant yn gadael gofal a newidiadau yn llety pobl ifanc sy'n gadael gofal.
Hefyd, cyflwynwyd newidiadau polisi sy'n canolbwyntio'n bennaf ar leihau nifer y plant sydd angen gofal ledled Cymru yn 2019-20. Mae awdurdodau lleol wedi gosod cynlluniau ar waith i leihau'n ddiogel nifer y plant y mae angen gofal arnynt, gan gynnwys targedau ar gyfer 2019-20, 2020-21 a 2021-22, ac maent yn cael eu monitro gan swyddogion polisi Llywodraeth Cymru.
Ar 31 Mawrth 2021
- Roedd 7,263 o blant yn derbyn gofal(a) ar 31 Mawrth 2021, sef cynnydd o 113 (2%) o blant o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn cyfateb i gyfradd o 115.3 o bob 10,000 o’r boblogaeth sydd o dan 18 mlwydd oed, o gymharu â chyfradd o 113.5 yn 2019-20. Tra bod nifer y plant sy’n derbyn gofal wedi cynyddu pob blwyddyn yn y blynyddoedd diwethaf, mae graddfa'r cynnydd wedi bod yn llai.
- Roedd 6,215 (86%) o blant yn derbyn gofal dan orchymyn gofal. Roedd y rhan fwyaf o’r rhain yn derbyn gofal dan orchmynion gofal llawn; yn hytrach na gorchmynion gofal dros dro.
- Roedd 5,072 (70%) o blant wedi’u lleoli mewn lleoliad gofal maeth, gostyngiad graddol yn y gyfran yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Roedd bron i draean (32%) o’r plant mewn gofal maeth mewn lleoliadau gyda pherthynas neu ffrindiau; cynnydd cyson o 23% ar 31 Mawrth 2017.
(a) Yn eithrio plant sy’n derbyn gofal ar gyfer seibiannau byr yn unig.
Ebrill 2020 i Fawrth 2021
- Dechreuodd 1,747 o blant dderbyn gofal(b), gostyngiad o 228 (12%) o blant o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae nifer y plant sy’n dechrau derbyn gofal wedi gostwng pob blwyddyn ers 2016-17; mae hyn wedi bod yn fwy amlwg o 2019-20 ymlaen.
- Roedd 59% o’r plant a ddechreuodd dderbyn gofal yn ystod y flwyddyn yn cael gofal a chymorth i ddechrau oherwydd cam-drin neu esgeuluso, gostyngiad o gymharu â thua 65% yn y blynyddoedd diwethaf. Cynyddodd cyfran y plant sy'n derbyn gofal a chymorth oherwydd teulu o dan straen difrifol neu gamweithrediad i 30% (o tua 23% yn y blynyddoedd diwethaf).
- Cafodd 7% o blant sy'n derbyn gofal ar 31 Mawrth 2021 dri lleoliad neu fwy yn ystod y flwyddyn, y gyfran isaf a welwyd ers dechrau casglu data yn 2002-03.
- Gadawodd 1,657 o blant ofal(c), gostyngiad o 14 (1%) o blant o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Roedd nifer y plant sy’n gadael gofal wedi bod yn gostwng ond mae wedi bod yn eithaf sefydlog ers 2018-19.
- Bu bron i hanner (48%) o’r plant a adawodd ofal yn ystod y flwyddyn ddychwelyd adref i fyw gyda rhieni, perthnasau neu bersonau eraill â chyfrifoldeb rhiant. Gwelwyd cyfran debyg dros y pedair blynedd diwethaf ond mae hyn yn gyfran is nag a welwyd cyn 2017-18.
- Cafodd 266 o blant eu mabwysiadu o ofal, gostyngiad o 32 (11%) o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
(b) Os oedd gan blentyn fwy nag un cyfnod gofal, dim ond y cyfnod cyntaf sy'n cael ei gyfrif.
(c) Os oedd gan blentyn fwy nag un cyfnod gofal, dim ond y cyfnod olaf sy'n cael ei gyfrif. Yn eithrio plant a fu farw neu le'r oedd awdurdod lleol arall yn y DU wedi dod yn gyfrifol am y gofal.
Nodiadau
Ceir gwybodaeth bellach, yn cynnwys dadansoddiadau ar lefel awdurdod lleol, ar StatsCymru. Mae rhai ffigurau ar gyfer blynyddoedd blaenorol wedi'u diwygio.
Adroddiadau
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/statistics-and-research-thumbs/Plant_sy_n_derbyn_gofal_gan_awdurdodau_lleol__Ebrill_2020_i_Fawrth_2021__ystadegau_arbrofol_.jpg?itok=W4ayrKzd)
Plant sy'n derbyn gofal gan awdurdodau lleol, Ebrill 2020 i Fawrth 2021 (ystadegau arbrofol) , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.