Adroddiad cynhwysfawr sydd yn cynnwys data 2019 o’r prif arolygon twristiaeth.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Perfformiad twristiaeth Cymru
Mae’r dadansoddiad yn yr adroddiad hwn yn berthnasol i Ionawr-Rhagfyr 2019 ac felly cyn y sefyllfa COVID-19 presenol ac eithrio Arolwg Baromedr Twristiaeth
Perfformiad busnes
Baromedr Twristiaeth Cymru, yr ymgymerwyd diwedd Ebrill, oedd y trydydd cam eithriadol arolygiadau gwanwyn 2020 i ddeall effaith COVID-19 ar y diwydiant twristiaeth. Darganfuwyd y cam blaenorol o’r arolwg, a’i hymgymerwyd diwedd Mawrth 2020, bod 97% o fusnesau wedi cau, gyda 5% heb agor yn 2020 o’r cwbl.
Adroddwyd yr arolwg presenol bod cefnogaeth trwy'r cynllun cadw swyddi wedi cadw diswyddiadau i'r lleiafswm hyd yma. Oedd y golled ganolrifol a amcangyfrifwyd yn 20% o'r refeniw arferol y flwyddyn gyfan, yn amrywio rhwng dim colled i 80%. Yr oedd oddeutu chwarter (23%) o fusnesau ddim yn disgwyl goroesi’r tri mis canlynol os oedd y cyfyngiadau yn parhau, tra oedd tri o bob deg (30%) ddim yn gwybod pa mor hir a allent oroesi.
Teithiau dros nos o’r DU
Bu 10,698,000 o deithiau dros nos o’r DU i Gymru yn ystod 2019, sydd yng nghynnydd o 6.8%, yn cynhyrchu gwariant o £2,003 miliwn.
Teithiau undydd o’r DU
Yn 2019 bu 87,300,000 o deithiau twristiaeth undydd i Gymru, sydd yn ostyngiad o 8.8%. Cynhyrchodd yr ymweliadau hyn wariant o £3,447 miliwn.
Ymwelwyr/Teithiau Rhyngwladol
Cynyddodd y nifer o ymweliadau rhyngwladol i Gymru yn ystod 2019 â 3.6% i 1,023,000. Oedd gwariant ymwelwyr yn £515 miliwn, sydd yn 18.8% yn uwch na’r un adeg y llynedd. (Sylwch fod SYG wedi cymhwyso’r rhifau o’r Arolwg Teithwyr Rhyngwladol o’r cyfnod 2009 i 2019).
Yr oedd ychydig dros 93 miliwn o deithiau i wledydd tramor i bob pwrpas gan breswylwyr y DU yn 2019, cynnydd o 2.8% i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. O’r rhai hyn oedd 58,700,000 yn wyliau, cynnydd o 2.3% i gymharu â 2018.
Cyfraddau defnydd cyfartalog llety Cymru Ionawr i Rhagfyr
Gwestai: 66%
Tai llety/Gwely a brecwast: 37%
Hunanddarpar: 57%
Hostelau: 54%
Carafanau sefydlog (Mai i Hydref): 90%
Carafanau teithiol a gwersylla (Mai i Hydref): 42%
Adroddiadau
Perfformiad twristiaeth Cymru, 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.